Cymraeg

Sexual Health

 

Sexual health includes not just your physical health but also, very importantly, your emotional, mental and social well-being in relation to sexuality too. The term 'sexual health' in this sense, does not mean simply thinking about sexually transmitted diseases, but is the whole picture of how sexual activitity impacts on you and your wellbeing. Sexual health requires a positive and respectful approach to sexuality and sexual relationships, as well as the possibility of having pleasurable and safe sexual experiences, free from coercion, discrimination and violence. For sexual health to be attained and maintained, the sexual rights of all persons must be respected, protected and fulfilled.

 

Sex and your wellbeing

 

For sexual activity to be as enjoyable as possible for you and whoever you are doing it with, all involved have to be 100% happy with what's happening and completely aware of the decisions they are making. 

 

If you want to brush up on your knowledge regarding sexual health and how to have the best sex possible while at University, you can read through this guide. It covers all the birds and the bees, from consent, through different types of sex, to common problems everyone encounters.

 

Sexual Consent

 

Sexual consent is an agreement to engage in sexual activity and is an essential part of any sexual activity. If you are planning to do anything sexual, it is very important that everyone involved is consenting at all times. Consenting to one thing does not mean consenting to another and consent can be withdrawn at any time - it's always okay to stop or say no at any point you don't want to continue.

 

Once you know each other well, you may not feel a need to give consent verbally, but it is important to know what consent might look like and ways to spot it.

 

Of note:

 

  • You can be specific in the sexual consent that you provide. i.e. consenting to sex with a condom or consenting to vaginal sex but not anal sex.
  • Consent can be withdrawn at any time. If someone were to engage you in sexual activity that you were not comfortable with, you can say no.
  • You must have capacity to consent. If the person is not able to make a decision on whether they want sex or not, they may not be in a position to objectively given consent. In other words, they do not consent. For example:
    • If either party is unconscious.
    • If either party is under the influence of alcohol or drugs they may not be able to consent.
    • If either party suffers from a medical condition which can limit their capacity to consent, or communicate consent.
    • If either party has a mental health problem or learning difficulty which could impair their judgement and capacity to provide consent.
  • You must have freedom to consent. No one should feel coerced or pressured to engage in sexual activity of any nature. This would remove someone’s freedom to objectively provide consent. For example:
    • If either party is experiencing domestic violence or abuse which influences their decision to engage in sexual activity.
    • If someone is in a position of power and they use their position to abuse the trust of their subordinates.
    • If you are dependent on the other party, and feel a need to consent to sustain your financial interest, or any care provided to you.
    • If you are significantly younger than the other party, you may not feel able to challenge their imposition.
    • If you are not old enough to consent. If you are not old enough to legally provide sexual consent, your age means that you are not ‘free’ to provide this permission.

      The age of consent in England and Wales is 16. This is the legal age at which a person can take part in sexual activity.

      The Sexual Offences Act is there to protect children and young people. It is not used to prosecute under-16s who take part in consensual sexual activity with each other. For example, if two 15 year-olds have mutually consensual sex, they would not be prosecuted. But if an adult aged 18 or over has sex with a 15-year-old, it is a crime.
  • Silence, or lack of a response, is not consent. Everyone needs to be aware, and to take notice, of non-verbal cues that indicate someone doesn’t want to engage in sexual activity. This can include, but is not limited to:
    • Silence
    • Pushing/Pulling away
    • Avoiding eye contact
    • Shaking their head
    • Not responding physically to what you are doing
    • Not removing clothing.

If a person does not give consent and you still engage in sexual activity, this could be considered a sexual assault. If you have experienced violence or abuse, there are a range of support options you can use to Get Help. If you are concerned that you have been sexually assaulted, you can speak confidentially to the University's Disclosure Response Team. The Disclosure Response Team are a team of specialist University staff trained to respond to disclosures of violence and abuse. They take all disclosures seriously and will believe what you tell them.

 

Sexual Health clinics

 

The NHS provides clinics at Cardiff Royal Infirmary (CRI) and in other locations across Cardiff. All clinics are confidential. You will also be able to find clinics nearer home too.  

 

The CRI provides the most comprehensive Sexual Health service and would be the recommended point of contact for the majority of issues.

 

If you require a sexual health appointment, contact the CRI on the number below. You can call between 8.30am and 5pm, Monday - Friday.

Cardiff Royal Infirmary
Newport Road, Cardiff, CF24 0SZ
029 2033 5208  

Please see the CRI website for further information. Alternatively you can download the CRI service leaflet here.

 

 

 

Students who can drive or are prepared to travel may find it easier to access the Sexual Health NHS services in the Royal Gwent Hospital, Newport.

 

01633 234555

Cordell Centre (GUM Clinic)
Royal Gwent Hospital
Cardiff Road
Newport NP20 2UB

 

Postal STI Kits

 

Frisky Wales is a project run by Public Health Wales. They have a detailed website with information on what services are on offer as well as types of infections and their treatements, contraception and prevention. You can acces their site by clicking this link.

There is an ongoing pilot to provide free postal testing kits to people living in Wales. These tests can check for;

  • Gonorrhea
  • Syphilis
  • HIV
  • Chlamydia
  • Hepatitis B and C

There is more information on the Frisky Wales Website. Please be aware that if you have experienced condom breakage, or unprotected sex, and you are concerned about HIV exposure or pregnancy you must seek medical advice immediately. You should refer to the guidance on the Frisky Wales site for specific advice on where to get help.

Postal testing services have been introduced on a trial period, and so you should complete the Public Health Wales survey to review the service once you have got your kit.

If you would like to order a free postal testing kit, then you can click here.

 

Alternative Cardiff Sexual Health Clinics

 

Park Place GP Surgery are operate a walk-in Contraception and Sexual Screening Clinic. You will need to be a registered patient at Park Place or Roath House Surgeries to use this drop in service, available every Wednesday 1pm - 3pm.

Park Place Surgery is a branch of an existing GP practice - Roath House Surgery - operating from 100 Penylan Road. The Surgery operates an appointment system, although new patients may call in during opening hours to collect registration documents.

A full STI check, with blood tests are only usually available at CRI.

 

Park Place Surgery
37 Park Place, Cathays, CF10 3AT
+44 (0)29 2087 0660

Opening times 12.30 - 15.30 Monday - Friday


When the practice is closed, registered patients need to phone +44 (0)29 2046 1100 for advice/appointments.

Other Cardiff Clinics

Broad Street Clinic
Barry, CF62 7AL
01446 746 722

 

Butetown Health Centre
Loudoun Square, Butetown, CF10 5HN
02921 833257

 

Llantwit Major Clinic
Boverton Road, Llantwit Major
01446 791170

 

Parkview Health Centre
Treseder Way, Ely, Cardiff, CF5 5NU
02920 560752

 

Penarth Health Centre
Stanwell Road, Penarth, CF64 3XF
02920 702 396

 

Rumney Health Centre
Rumney Primary Care Centre
Barmouth Road, Rumney, Cardiff, CF3 3LG
02921 833400

 

St David’s Hospital
Cowbridge Road East, Cardiff, CF11 9XB
02920 536625

 

Emergency Contraception

 

Emergency contraception, if taken correctly can prevent pregnancy after unprotected sex. It is available free of charge to women of any age from contraceptive clinics and GPs.

There are two main types of emergency contraception available.

  • Emergency contraceptive pill – This is most effective if taken within 24 hours. However is recommended to be taken within 72 hours of the encounter. You can acquire this from selected pharmacies or your GP. It is also available at most sexual health clinics (sometimes referred to as GUM clinics). It is not recommended that you take this method of contraception regularly as it is not as effective as normal contraceptive pills and is often more expensive.
  •  
  • An IUD (Intra uterine device, or "coil") – may be fitted if it is more than 72 hours (and no more than five days) after unprotected sex. This may not be suitable for everyone. Doctors and family planning clinics offer this service. An IUD works by making the womb an unpleasant place for a fertilised egg to attach.

 

 

Remember that emergency contraception does not protect against sexually transmitted infections (STIs).

 

See the NHS Direct Wales website for more information about emergency contraception methods, and the NHS website for information on the morning after pill and the IUD.

 

Contraception

 

There are a lot of different options to choose from, so don't worry if the first method you use isn't quite right. Speak to your doctor to decide which method of contraception is best for you.

Free condoms from your Students’ Union - you can pick up free condoms from the condom dispenser in the Students’ Union reception, Student Advice waiting room or the IV Lounge at the Heath.

Using a condom is the only form of contraception that helps protect you against sexually transmitted infections as well as preventing pregnancy, so make sure you use them. If you are allergic to latex condoms, don’t panic, latex free condoms are readily available.

 

It is important to note that certain medications can make contraceptive pills less effective and oil-based products can damage condoms making them less effective. Be careful.

 

More about contraception

 

There are a large number of contraceptive methods available;

  1. Condoms – These are most affective in avoiding STI’s and pregnancy and have a 98% success rate.
  2. Cap – is a barrier method of contraception. It fits inside your vagina and prevents sperm from passing through the entrance of your womb. The cap is 92-96% effective at preventing pregnancy.
  3. Contraceptive/Combined pill - The hormones in the pill prevent your ovaries from releasing an egg (ovulating). When taken correctly, the pill is over 99% effective at preventing pregnancy. >
  4. Diaphragms - A contraceptive diaphragm is inserted into the vagina before sex, and it covers the cervix so that sperm can't get into the womb (uterus). The diaphragm must be left in place for at least six hours after sex. When used correctly with spermicide, a diaphragm is 92-96% effective.
  5. Implant - The contraceptive implant is a small flexible tube about 40mm long that's inserted under the skin of your upper arm. It lasts approximately 3 years. If implanted correctly, it's more than 99% effective.
  6. Injection - The injection contains progestogen. This thickens the mucus in the cervix, stopping sperm reaching an egg. If used correctly, the contraceptive injection is more than 99% effective.
  7. Intra uterine device, or 'coil' - An IUD is a small T-shaped plastic and copper device that’s inserted into your womb (uterus) by a specially trained doctor or nurse. There are different types of IUD, some with more copper than others. IUDs with more copper are more than 99% effective.
  8. Patch - The contraceptive patch is a sticky patch, a bit like a nicotine patch, measuring 5x5cm. It delivers hormones into your body through your skin. Each patch lasts for approximately 1 week. When used correctly, the patch is more than 99% effective at preventing pregnancy.
  9. Progesterone-only pill - The progestogen-only pill thickens the mucus in the cervix, which stops sperm reaching an egg. You can get this form of contraception from your doctor. If taken correctly, it can be more than 99% effective.
  10.  Vaginal Ring - The vaginal ring is a small, soft plastic ring that you place inside your vagina. It’s approximately 4mm thick and 5.5cm in diameter. The ring releases oestrogen and progestogen. This prevents ovulation (release of an egg), makes it difficult for sperm to get to an egg and thins the womb lining, so it’s less likely that an egg will implant there. If used correctly, the vaginal ring is more than 99% effective.

 

Please note:

  • Vomiting and diarrhoea can make your contraceptive pill less effective at preventing pregnancy. You may need to use extra contraception, such as a condom, while you're ill and during your recovery.
  • Missing pills or starting a new pack late can make your pill less effective at preventing pregnancy.
  • As with all medications, there may be some side effects when taking hormonal contraceptives, but it will usually be mild or temporary. The side effects will differ depending on the person using them, so speak to your doctor is if you are experiencing unwanted side effects.

 

Find out about different methods of contraception here or speak to your doctor.

 

PrEP (Pre-exposure Prophylaxis)

 

PrEP is avalable in England and Wales as part of a trial, and is a drug that is taken by HIV Negative people to reduce the risk of contracting HIV.

PrEP is different to PEP (Post Exposure Prophylaxis). PEP is taken after being exposed to HIV and can reduce the chances of contracting the virus.

You can find more information PrEP and how to get PrEP in Wales on the Public Health Website, by clicking here.

 

Chemsex

 

Chemsex is a term used to describe using drugs to enhance sex. Strictly speaking, chemsex refers to gay or bisexual men using drugs to have sex with other men.

The most common Chemsex drugs are GHB/GBL, Mephedrone and methamphetamine. Each drug has its own risks. There are also risks associated with having sex under the influence of drugs or alcohol, and specific risks associated with injecting drugs.

Some drugs may also interact with anti-HIV medciation to reduce their efficacy or be dangerous. You can check your medication for interactions with the drug interaction chart from the University of Liverpool.

There is lots more detailed advice, guidance and support on Chemsex on the Public Health Wales website.

 

Vaccination

 

There are vaccinations available for some sexually transmitted infections, such as Hepatitis B or Human Papilloma viruses (which certain strains can cause genital warts, and others some types of cancers, such as cervical, penile, anal, throat).

These vaccines may only be available to specific groups of people, like MSM (men who have sex with men)

Having the HPV vaccine greatly reduces the risk of contracting genital warts, as well as many types of cancers caused by HPV

If you are in the MSM category then you should contact your GP or local GUM Clinic and ask about the vaccine.

Following a clinical assessment at a GUM Clinic, the HPV Vaccine may also be offered to other people, depending on their risk.

You can read more about HPV Vaccination on the Frisky Wales Website by clicking here.

 

Sexually Transmitted Infections (STIs)

 

Sexually transmitted infections (STIs) are diseases passed on from one person to another through unprotected sex (sex without a condom) or genital contact. You can get tested for STIs at a sexual health clinic, GUM (genitourinary medicine) clinic or GP surgery.

Common STIs

 

Chlamydia

This is particularly common in sexually active teenagers and young adults. If you are under 25 and are sexually active, it's recommended that you get tested for chlamydia every year or when you change sexual partner. There were over 200,000 positive diagnosis last year. Young people are disproportionately affected by chlamydia.

 

Gonorrhea

This is the second most common bacterial STI in the UK after chlamydia. Most cases affect young men and women under the age of 25. About 50% of women and 10% of men don’t experience any symptoms and are unaware they’re infected.

 

Syphilis

It's important to get tested and treated as soon as possible if you think you might have syphilis, as it can cause serious problems if it's left untreated.

 

HIV

This is a virus most commonly caught by having unprotected sex or sharing infected needles to inject drugs. There is currently no cure for HIV.

 

Pubic Lice

 

These are easily passed to others through close genital contact. They're usually found in pubic hair but can live in underarm hair, body hair, beards and occasionally eyebrows or eyelashes.

 

Genital herpes

 

 

Genital herpes is a common condition, especially in people from 20 to 24 years old. There are two types of herpes simplex virus (HSV), type 1 and type 2. Both types are highly contagious and can be passed easily from one person to another by direct contact. Herpes can also cause what is commonly known as cold sores. At least eight out of 10 people who carry the virus are unaware they have been infected because there are often few or no initial symptoms.

 

Genital warts

Genital warts are very common. In Wales, they are the second most common type of sexually transmitted infection (STI) after chlamydia. You do not need to have penetrative sex to pass the infection on because HPV is spread by skin-to-skin contact.

 

Scabies

Scabies is caused by tiny mites that burrow into the skin. It can be passed on through close body or sexual contact, or from infected clothing, bedding or towels. You may have a rash or tiny spots. In some people, scabies can be confused with eczema. It's usually very difficult to see the mites.

Sexual Health Facts

  • You cannot always notice symptoms if you have an STI. Most people with Chlamydia don’t know that they have it. Protect yourself by using protection.
  • Not all contraception protects you from STIs. If you are using the contraceptive pill, implant, coil, injection, patch or natural family planning you are not protected from STIs. Make sure that you use a condom or have a conversation with your partner.
  • You can get a STIs from oral sex. Find out more here. Protect yourself by using condoms or dental dams.
  • If you have an STI, don’t panic. Most STIs are easily treatable through antibiotics or creams.
  • If STIs are left untreated they can cause problems in the future. For example, if gonorrhoea or chlamydia is left untreated it can causes of pelvic inflammatory disease, and infertility.

 

You can find out about different STI's here.

 

Interested in spreading the word?

 

If you're passionate about sexual health, and promoting it among students, then please get in contact with StudentLedServices@cardiff.ac.uk to see how you can get involved.

 

Useful Links

 

Cardiff University SHAG 

Brook 

Terrence Higgins Trust (HIV / AIDS)

The Lowdown (Contraception)

The Family Planning Association

Marie Stopes 

NHS Choices 

Superdrug Online Doctor

Superdrug Online Doctor – STI Stigma Report

YMCA C-Card 

Rape Crisis 

Public Health Wales

Disclosure Response Team

 

Contact Student Advice

 

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 


Iechyd Rhywiol

 

Mae iechyd rhywiol yn cwmpasu eich iechyd corfforol a’ch lles emosiynol, meddyliol a chymdeithasol mewn perthynas â rhywioldeb. Nid yw'r term 'iechyd rhywiol' yn golygu meddwl am glefydau a drosglwyddir yn rhywiol yn unig, ond yn hytrach, dylir meddwl am sut mae gweithgareddau rhywiol yn effeithio arnoch chi a'ch lles. Mae iechyd rhywiol positif yn annog agwedd gadarnhaol a pharchus at rywioldeb a pherthnasoedd rhywiol, yn ogystal â cheisio cael profiadau rhywiol pleserus a diogel heb orfodaeth, gwahaniaethu a thrais. Er mwyn sicrhau a chynnal iechyd rhywiol cadarnhaol, rhaid parchu, diogelu a chydymffurfio â hawliau rhywiol pobl eraill.

 

Rhyw a'ch lles

 

Er mwyn i weithgaredd rhywiol fod mor bleserus â phosibl i chi a'ch partner, mae'n rhaid i bawb fod yn 100% hapus gyda'r hyn sy'n digwydd ac yn gwbl ymwybodol o'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud.

 

Os ydych chi eisiau gwella eich dealltwriaeth o iechyd rhywiol a sut i gael y rhyw gorau posib tra yn y Brifysgol, gallwch ddarllen trwy'r canllaw hwn. Mae'n cynnwys gwybodaeth am hanes yr adar a’r gwenyn, yn ogystal â gwybodaeth am gydsyniad, gwahanol fathau o ryw a phroblemau cyffredin y mae pawb yn gallu profi.

 

Cydsyniad Rhywiol

 

Mae cydsyniad rhywiol yn gytundeb i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ac mae’n rhan hanfodol o unrhyw weithgaredd rhywiol. Os ydych chi'n bwriadu ymgymryd â gweithgaredd rhywiol, mae'n bwysig iawn bod pawb yn cydsynio. Nid yw cydsynio i un peth yn golygu cydsynio i beth arall a gellir tynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd – mae’n iawn i chi stopio neu ddweud na ar unrhyw adeg.

 

Unwaith y byddwch chi'n adnabod eich gilydd yn dda, efallai na fyddwch chi'n teimlo bod angen rhoi caniatâd ar lafar, ond mae'n bwysig gwybod sut mae caniatâd yn edrych a ffyrdd gwahanol o weld os ydy’ch partner yn cydsynio.

 

 

 

Sylwch:

 

  • Gallwch roi caniatâd dim ond am rai agweddau o ryw. . h.y. cydsynio i gael rhyw gyda chondom neu gydsynio i gael rhyw drwy'r wain ond nid rhyw rhefrol.
  • Gellir tynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Pe bai rhywun yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad oeddech yn gyfforddus ag ef, gallwch ddweud na.
  • Rhaid bod gennych y galluedd i gydsynio. Os nad yw’r person yn gallu gwneud penderfyniad a hoffai gael rhyw ai peidio, efallai na fydd mewn sefyllfa i roi caniatâd gwrthrychol. Mewn geiriau eraill, nid ydynt yn cydsynio. Er enghraifft:
    • Os yw'r naill barti neu'r llall yn anymwybodol.
    • Os yw'r naill barti neu'r llall dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau efallai na fyddant yn gallu cydsynio.
    • Os yw’r naill barti neu’r llall yn dioddef o gyflwr meddygol a all gyfyngu ar eu gallu i gydsynio, neu gyfleu caniatâd.
    • Os oes gan y naill barti neu’r llall broblem iechyd meddwl neu anhawster dysgu a allai amharu ar eu gallu i roi caniatâd.
  • Rhaid i chi gael rhyddid i gydsynio. Ni ddylai unrhyw un deimlo dan orfodaeth neu bwysau i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o unrhyw natur. Byddai hyn yn cymryd rhyddid rhywun i roi caniatâd yn wrthrychol. Er enghraifft:
    • Os yw’r naill barti neu’r llall yn profi trais domestig neu gam-drin sy’n dylanwadu ar eu penderfyniad i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.
    • Os yw rhywun mewn sefyllfa o bwer a'u bod yn defnyddio eu dylanwad i gamddefnyddio ymddiriedaeth eu cyfoedion.
    • Os ydych yn ddibynnol ar y parti arall, ac yn teimlo bod angen cydsynio i gynnal eich buddiant ariannol, neu unrhyw ofal a ddarperir i chi.
    • Os ydych llawer yn iau na'r parti arall, efallai na fyddwch yn teimlo y gallwch eu herio.
    • Os nad ydych yn ddigon hen i gydsynio. Os nad ydych yn ddigon hen i roi caniatâd rhywiol yn gyfreithlon, mae eich oedran yn golygu nad ydych yn ‘gymwys’ i roi'r caniatâd hwn.

      Yr oedran cydsynio yng Nghymru a Lloegr yw 16. Dyma'r oedran cyfreithiol y gall person gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

      Diben y Ddeddf Troseddau Rhywiol yw amddiffyn plant a phobl ifanc. Nid yw’n cael ei ddefnyddio i erlyn pobl ifanc dan 16 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol cydsyniol â’i gilydd. Er enghraifft, os yw dau berson ifanc 15 oed yn cael rhyw gydsyniol, ni fyddent yn cael eu herlyn. Ond os yw oedolyn 18 oed neu drosodd yn cael rhyw gyda phlentyn 15 oed, mae'n drosedd.
  • Nid yw distawrwydd, neu ddiffyg ymateb, yn gydsyniad. Mae angen i bawb fod yn ymwybodol a chymryd sylw o giwiau cynnil sy'n dangos nad yw rhywun eisiau cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol. Gall hyn gynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:
    • Distawrwydd
    • Gwthio/Tynnu i ffwrdd
    • Osgoi cyswllt llygaid
    • Ysgwyd y pen
    • Peidio ag ymateb yn gorfforol i'r hyn yr ydych yn ei wneud
    • Peidio â thynnu dillad.

Os nad yw person yn cydsynio ac rydych yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gallai hyn gael ei ystyried yn ymosodiad rhywiol. Os ydych wedi profi trais neu gamdriniaeth, mae amrywiaeth o opsiynau cymorth y gallwch ddefnyddio gan Dîm Ymateb i Ddatgeliadau'r Brifysgol.. Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn dîm o staff arbenigol y Brifysgol sydd wedi’u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth. Maent yn cymryd pob datgeliad o ddifrif a byddant yn credu'r hyn a ddywedwch wrthynt.

 

Clinigau Iechyd Rhywiol

 

Mae'r GIG yn darparu clinigau yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI) ac mewn lleoliadau eraill ledled Caerdydd. Mae pob clinig yn gyfrinachol. Gallwch hefyd dod o hyd i glinigau yn agosach at adref.

 

Mae'r CRI yn darparu'r gwasanaeth Iechyd Rhywiol mwyaf cynhwysfawr a hwn fyddai'r pwynt cyswllt a argymhellir ar gyfer y mwyafrif o faterion.

 

Os oes angen apwyntiad iechyd rhywiol arnoch, cysylltwch â'r CRI ar y rhif isod. Gallwch ffonio rhwng 8.30yb a 5yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0SZ
029 2033 5208  

Gweler gwefan y CRI am ragor o wybodaeth. Gallwch hefyd lawrlwytho taflen gwasanaeth y CRI yma. .

 

 

 

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n gallu gyrru neu sy’n barod i deithio yn ei chael hi’n haws cael mynediad at wasanaethau Iechyd Rhywiol y GIG yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.

 

01633 234555

Canolfan Cordell (Clinig GUM)
Ysbyty Brenhinol Gwent
Cardiff Road
Casnewydd NP20 2UB

Pecynnau STI drwy'r post

Mae Cymru Chwareus yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddynt wefan fanwl gyda gwybodaeth am ba wasanaethau sydd ar gael yn ogystal â mathau o heintiau, eu triniaethau a dulliau atal cenhedlu. Gallwch weld eu gwefan trwy glicio ar y ddolen hon.

Mae cynllun peilot wrthi'n darparu pecynnau profi post am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru. Gall y profion hyn wirio am;

  • Gonorrhea
  • Syffilis
  • HIV
  • Clamydia
  • Hepatitis B a C

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymru Chwareus. Sylwch, os ydych wedi cael rhyw ac mae’r condom yn torri, neu rydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch, ac rydych yn pryderu am amlygiad i HIV neu’n pryderu gallech fod yn feichiog, dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith. Dylech gyfeirio at y canllawiau ar wefan Cymru Chwareus am gyngor penodol ar ble i gael cymorth.

Mae gwasanaeth sy’n anfon profion drwy’r post wedi cael ei chyflwyno am gyfnod peilot, ac felly dylech gwblhau arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru i adolygu’r gwasanaeth unwaith y byddwch wedi derbyn eich cit.

Os hoffech archebu pecyn profi post am ddim, gallwch glicio yma.

Clinigau Iechyd Rhywiol Amgen Caerdydd

Mae Meddygfa Plas y Parc yn gweithredu Clinig Atal Cenhedlu a Sgrinio Rhyw y gellir mynychu heb apwyntiad. Bydd angen i chi fod yn glaf cofrestredig ym Mhlas y Parc neu Feddygfeydd Ty’r Rhath i ddefnyddio’r gwasanaeth galw heibio sydd ar gael bob dydd Mercher 1yh - 3yh.

Mae Meddygfa Plas y Parc yn gangen o bractis meddygon teulu - Meddygfa Roath House - wedi lleoli yn 100 Heol Pen-y-lan. Mae'r Feddygfa yn gweithredu system apwyntiadau, er y gall cleifion newydd alw i mewn yn ystod oriau agor i gasglu dogfennau cofrestru.

Dim ond yn y CRI y mae gwiriad STI llawn gyda phrofion gwaed ar gael.

Meddygfa Plas y Parc
37 Plas y Parc, Cathays, CF10 3AT
+44 (0)29 2087 0660

Oriau agor 12.30 - 15.30 Dydd Llun - Dydd Gwener
Pan fydd y practis ar gau, mae angen i gleifion cofrestredig ffonio +44 (0)29 2046 1100 i gael cyngor/apwyntiadau.

Clinigau Eraill yng Nghaerdydd

Clinig Broad Street
Y Barry, CF62 7AL
01446 746 722

 

Canolfan Iechyd Butetown
Sgwâr Loudoun, Butetown, CF10 5HN
02921 833257

 

Clinig Llanilltud Fawr
Heol Trebefered, Llanilltud Fawr
01446 791170

 

Canolfan Iechyd Parkview
Ffordd Treseder, Trelái, Caerdydd, CF5 5NU
02920 560752

 

Canolfan Iechyd Penarth
Heol Stanwell, Penarth, CF64 3XF
02920 702 396

 

Canolfan Iechyd Tredelerch
Canolfan Gofal Sylfaenol Tredelerch
Heol y Bermo, Tredelerch, Caerdydd, CF3 3LG
02921 833400

 

Ysbyty Dewi Sant
Cowbridge Road East, Caerdydd, CF11 9XB
02920 536625

Atal Cenhedlu Brys

Gall atal cenhedlu brys, os caiff ei gymryd yn gywir, atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb ddiogelwch. Mae’r opsiwn ar gael am ddim i fenywod o unrhyw oedran o glinigau atal cenhedlu a meddygon teulu.

Mae dau brif fath o atal cenhedlu brys ar gael.

  • Pilsen atal cenhedlu brys – Mae hon yn fwyaf effeithiol os caiff ei chymryd o fewn 24 awr. Fodd bynnag, argymhellir ei gymryd o fewn 72 awr ar y mwyaf. Gallwch gael hwn o fferyllfeydd penodol neu eich meddyg teulu. Mae hefyd ar gael yn y rhan fwyaf o glinigau iechyd rhywiol (cyfeirir atynt weithiau fel clinigau GUM). Ni argymhellir defnyddio’r dull hwn o atal cenhedlu yn rheolaidd gan nad yw mor effeithiol â’r bilsen atal cenhedlu arferol ac yn aml mae'n ddrytach.
  •  
  • IUD (dyfais fewngroth, neu "coil") – Gellir gosod IUD os yw'n fwy na 72 awr (a dim mwy na phum diwrnod) ar ôl rhyw heb ddiogelwch. Efallai na fydd hyn yn addas i bawb. Mae meddygon a chlinigau cynllunio teulu yn cynnig y gwasanaeth hwn. Gweithia IUD trwy wneud y groth yn lle annymunol i wy wedi'i ffrwythloni ei lynu.

 

Cofiwch nad yw atal cenhedlu brys yn amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI).

Gweler gwefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu brys, a gwefan y GIG i gael gwybodaeth am y bilsen atal genhedlu brys a’r IUD. .

 

Atal cenhedlu

 

Mae yna lawer o opsiynau gwahanol i ddewis ohonynt, felly peidiwch â phoeni os nad yw'r dull cyntaf a ddefnyddiwch yn ddymunol. Siaradwch â'ch meddyg i benderfynu pa ddull atal cenhedlu sydd orau i chi.

Mae condomau am ddim ar gael yn eich Undeb Myfyrwyr - gallwch gymryd condomau am ddim o'r dosbarthwr condomau yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr, ystafell aros Cyngor Myfyrwyr neu Lolfa IV ar Gampws y Mynydd Bychan.

Defnyddio condom yw’r unig ddull atal cenhedlu sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ogystal ag atal beichiogrwydd, felly gwnewch yn siwr eich bod yn eu defnyddio. Os oes gennych alergedd i gondomau latecs, peidiwch â becso, mae condomau heb latecs ar gael hefyd.

Mae'n bwysig nodi y gall rhai meddyginiaethau wneud tabledi atal cenhedlu yn llai effeithiol a gall cynhyrchion sy'n seiliedig ar olew niweidio condomau gan leihau eu heffeithiolrwydd. Felly, byddwch yn ofalus.

 

Mwy am atal cenhedlu

 

Mae nifer fawr o ddulliau atal cenhedlu ar gael:

  1. Condomau – Mae'r rhain yn fwyaf effeithiol o ran osgoi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd ac mae ganddynt sgôr llwyddiant o 98%.
  2. Cap – dull rhwystr o atal cenhedlu. Mae'n ffitio y tu mewn i'ch fagina ac yn atal sberm rhag pasio trwy geg eich croth. Mae'r cap yn 92-96% effeithiol wrth atal beichiogrwydd.
  3. Pilsen atal cenhedlu/Pilsen gyfun - Mae'r hormonau yn y bilsen yn atal eich ofarïau rhag rhyddhau wy (ofylu). Os cymerir y bilsen yn gywir, mae hi dros 99% yn effeithiol o ran atal beichiogrwydd.
  4. Diafframau - Mae diaffram yn cael ei roi yn y fagina cyn cael rhyw, ac mae'n gorchuddio ceg y groth fel na all sberm fynd i mewn i'r groth (wterws). Rhaid gadael y diaffram yn ei le am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw. Pan gaiff ei ddefnyddio'n gywir, mae diaffram yn 92-96% effeithiol.
  5. Mewnblaniad - Mae'r mewnblaniad atal cenhedlu yn diwb bach hyblyg tua 40mm o hyd sy'n cael ei osod o dan groen eich braich. Mae'n para tua 3 blynedd. Os caiff ei fewnblannu'n gywir, mae'n fwy na 99% effeithiol.
  6. Chwistrelliad - Mae'r pigiad hwn yn cynnwys progestogen. Mae hyn yn tewhau'r mwcws yng ngheg y groth, gan atal sberm rhag cyrraedd unrhyw wy. Os caiff ei ddefnyddio'n gywir, mae'r pigiad yn fwy na 99% effeithiol.
  7. Dyfais fewngroth, neu 'coil' - Dyfais blastig a chopr bach siâp T yw IUD sy'n cael ei gosod yn eich croth (uterus) gan feddyg neu nyrs. Mae yna wahanol fathau o IUD, rhai gyda mwy o gopr nag eraill. Mae IUDs gyda mwy o gopr yn fwy na 99% yn effeithiol.
  8. Clwt - Mae'r clwt atal cenhedlu yn ddarn gludiog, ychydig yn debyg i glyt nicotin, yn mesur 5x5cm. Mae'n dosbarthu hormonau i'ch corff trwy'ch croen. Mae pob darn yn para tua 1 wythnos. Pan gaiff ei ddefnyddio'n gywir, mae'r clwt yn fwy na 99% yn effeithiol wrth atal beichiogrwydd.
  9. Pilsen progesterone yn unig - Mae'r bilsen progestogen yn tewhau'r mwcws yng ngheg y groth, sy'n atal sberm rhag cyrraedd unrhyw wy. Gallwch gael y math hwn o atal cenhedlu gan eich meddyg. Os caiff ei gymryd yn gywir, gall fod yn fwy na 99% yn effeithiol.
  10.  Modrwy'r wain - Modrwy fach, feddal o blastig rydych chi'n ei gosod y tu mewn i'ch fagina yw'r fodrwy wain. Mae’n mesur tua 4mm o drwch a 5.5cm mewn diamedr. Mae'r cylch yn rhyddhau estrogen a progestogen. Mae hyn yn atal ofyliad (rhyddhau wy), yn ei gwneud hi'n anodd i sberm gyrraedd wy ac yn teneuo leinin y groth, felly mae'n llai tebygol y bydd wy yn mewnblannu yno. Os caiff ei ddefnyddio'n gywir, mae'r fodrwy wain yn fwy na 99% yn effeithiol.

Sylwch:

  • Gall chwydu a dolur rhydd wneud eich pilsen atal cenhedlu yn llai effeithiol. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio dull atal cenhedlu ychwanegol, fel condom, tra byddwch yn sâl a thra eich bod yn gwella.
  • Gall colli tabledi neu ddechrau pecyn newydd yn hwyr hefyd leihau effeithiolrwydd eich pilsen.
  • Yn yr un modd â phob meddyginiaeth, efallai y bydd rhai sgîl-effeithiau wrth ddefnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd, ond ysgafn neu dros dro fydd y sgîl-effeithiau fel arfer. Bydd y sgîl-effeithiau yn amrywio yn dibynnu ar y person sy'n eu defnyddio, felly siaradwch â'ch meddyg os ydych chi'n dioddef o sgîl-effeithiau annumunol.

Dysgwch am wahanol ddulliau atal cenhedlu yma neu siaradwch â'ch meddyg.

 

PrEP (Proffylacsis Cyn-amlygiad)

 

Mae PrEP ar gael yng Nghymru a Lloegr fel rhan o dreial ac mae'n gyffur sy'n cael ei gymryd gan bobl HIV negyddol i leihau'r risg o ddal HIV.

Mae PrEP yn wahanol i PEP (Proffylacsis Ôl-amlygiad). Cymerir PEP ar ôl dod i gysylltiad â HIV a gall leihau'r siawns o ddal y firws.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am PrEP a sut i gael PrEP yng Nghymru ar Wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy glicio yma.

 

Cemryw

 

Mae Cemryw yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio defnyddio cyffuriau i wella rhyw. A siarad yn fanwl gywir, mae cemryw yn berthnasol gan amlaf i ddynion hoyw neu ddeurywiol yn defnyddio cyffuriau i gael rhyw gyda dynion eraill.

Y cyffuriau mwyaf cyffredin yw GHB/GBL, Mephedrone a methamphetamine. Mae gan bob cyffur risgiau. Mae risgiau hefyd yn bodoli pan yn cael rhyw dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, yn ogystal â chwistrellu cyffuriau.

Gall rhai cyffuriau hefyd ryngweithio â meddyginiaeth gwrth-HIV a lleihau eu heffeithiolrwydd neu fod yn beryglus. Gallwch wirio'ch meddyginiaeth am ryngweithiadau posib ar siart rhyngweithio cyffuriau Prifysgol Lerpwl.

Mae llawer mwy o gyngor, arweiniad a chymorth manwl ar gemryw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Brechu

 

Mae brechiadau ar gael ar gyfer rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, fel Hepatitis B neu feirysau Papiloma Dynol (y gall rhai straenau achosi dafadennau gwenerol, a gall straenau eraill achosi rhai mathau o ganser, fel cancr ceg y groth, pidyn, rhefrol, gwddf).

Efallai mai dim ond i grwpiau penodol o bobl y bydd y brechlynnau hyn ar gael, fel MSM (dynion sy'n cael rhyw gyda dynion).

Mae cael y brechlyn HPV yn lleihau’r risg o ddal dafadennau gwenerol yn sylweddol, yn ogystal â llawer o fathau o ganserau a achosir gan HPV.

Os ydych yn cwympo o fewn y categori MSM yna dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu'r Clinig GUM lleol a gofyn am y brechlyn.

Yn dilyn asesiad clinigol mewn Clinig GUM, efallai y bydd y brechlyn HPV hefyd yn cael ei gynnig i bobl eraill, gan ddibynnu ar eu risg.

Gallwch ddarllen mwy am frechiadau HPV ar wefan Cymru Chwareus trwy glicio yma.

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI)

Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn glefydau sy'n cael eu trosglwyddo o un person i'r llall trwy ryw heb ddiogelwch (rhyw heb gondom) neu gyswllt gwenerol. Gallwch gael prawf am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol mewn clinig iechyd rhywiol, clinig GUM (meddygaeth genhedlol-droethol) neu feddygfa.

STIs cyffredin

 

Clamydia

Mae hyn yn arbennig o gyffredin ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sy'n cael rhyw. Os ydych o dan 25 ac yn cael rhyw, argymhellir eich bod yn cael prawf clamydia bob blwyddyn neu pan fyddwch yn newid partner rhywiol. Cafwyd dros 200,000 o ddiagnosis positif y llynedd. Mae pobl ifanc yn cael eu heffeithio gan chlamydia mwy na grwpiau oedran gwahanol

 

Gonorrhea

Dyma'r ail STI bacteriol mwyaf cyffredin yn y DU ar ôl clamydia. Mae’r rhan fwyaf o achosion yn effeithio ar ddynion a merched ifanc o dan 25 oed. Nid yw tua 50% o fenywod a 10% o ddynion yn profi unrhyw symptomau ac nid ydynt yn ymwybodol eu bod wedi'u heintio.

 

Syffilis

Mae’n bwysig cael eich profi a’ch trin cyn gynted â phosibl os ydych chi’n meddwl bod gennych chi siffilis, gan y gall achosi problemau difrifol os na chaiff ei drin.

 

HIV

Mae hwn yn firws sy'n cael ei ddal yn fwyaf cyffredin trwy gael rhyw heb ddiogelwch neu rannu nodwyddau heintiedig i chwistrellu cyffuriau. Nid oes iachâd ar gyfer HIV ar hyn o bryd.

 

Llau

 

Mae'r rhain yn cael eu trosglwyddo'n hawdd i eraill trwy gyswllt cenhedlol agos. Maen nhw fel arfer i'w cael mewn gwallt piwbig ond gallant fyw mewn gwallt tanfraich, gwallt corff, barfau ac weithiau aeliau neu amrannau.

 

Herpes gwenerol

 

 

Mae herpes gwenerol yn gyflwr cyffredin, yn enwedig mewn pobl rhwng 20 a 24 oed. Mae dau fath o firws herpes (HSV), math 1 a math 2. Mae'r ddau fath yn heintus iawn a gellir eu trosglwyddo'n hawdd o un person i'r llall trwy gyswllt uniongyrchol. Gall herpes hefyd achosi'r hyn a elwir yn ddoluriau annwyd. Nid yw o leiaf wyth o bob 10 o bobl sy'n cario'r firws yn ymwybodol eu bod wedi'u heintio oherwydd yn aml nid oes llawer o symptomau cychwynnol, os o gwbl.

 

Dafadennau gwenerol

Mae dafadennau gwenerol yn gyffredin iawn. Yng Nghymru, dyma'r ail fath mwyaf cyffredin o haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) ar ôl clamydia. Nid oes angen i chi gael rhyw treiddiol i drosglwyddo'r haint oherwydd bod HPV yn cael ei ledaenu trwy gyswllt croen-i-groen.

 

Achosir

Achosir clefyd gan widdon fach sy'n tyllu i'r croen. Gellir ei drosglwyddo trwy gyswllt corfforol agos neu rywiol, neu o ddillad, dillad gwely neu dywelion heintiedig. Efallai bod gennych chi frech neu smotiau bach. Mewn rhai pobl, gall y clafr gael ei ddrysu ag ecsema. Fel arfer mae’n anodd iawn gweld y gwiddon.

Ffeithiau am Iechyd Rhywiol

  • Ni allwch wastad sylwi ar symptomau os oes gennych STI. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy’n cario Clamydia yn gwybod bod ganddyn nhw'r afiechyd. Diogelwch eich hun trwy ddefnyddio ddiogelwch.
  • Nid yw pob dull atal cenhedlu yn eich diogelu rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os ydych yn defnyddio'r bilsen atal cenhedlu, mewnblaniad, coil, pigiad, darn neu gynllun teulu naturiol, nid ydych wedi'ch diogelu rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n defnyddio condom neu'n cael sgwrs gyda'ch partner.
  • Gallwch gael STIs o ryw geneuol. Darllen mwy. Diogelwch eich hun trwy ddefnyddio condomau neu argaeau deintyddol.
  • Os oes gennych STI, peidiwch â chynhyrfu. Mae'n hawdd trin y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol drwy wrthfiotigau neu hufenau.
  • Os na chaiff heintiau a drosglwyddir yn rhywiol eu trin gallant achosi problemau yn y dyfodol. Er enghraifft, os na chaiff gonorrhoea neu clamydia eu trin gall achosi clefyd llidiol y pelfis, ac anffrwythlondeb.

Gallwch gael gwybodaeth am wahanol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yma.

 

 

Dolenni Defnyddiol

SHAG Prifysgol Caerdydd

Brook 

Terrence Higgins Trust (HIV / AIDS)

The Lowdown (atal cenhedlu)

Y Gymdeithas Cynllunio Teulu

Marie Stopes 

NHS Choices 

Superdrug Online Doctor – STI Stigma Report

Superdrug Meddyg ar-lein – Adroddiad stigma am ST

Cerdyn-C YMCA

Rape Crisis 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Tîm Ymateb i Ddatgeliadau

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

 

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410