Undertaking postgraduate study can be one of the most intellectually rewarding yet
challenging experiences, especially if transitioning into a research programme. Seeking a postgraduate degree
means you are taking the added step to enhancing essential life skills and a step towards improving your
professional development, however, it can also be filled with long hours, stress, and a shift in work-life
balance.
Gall ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig fod yn brofiad hynod gwerth chweil yn
ddeallusol ond hefyd yn un heriol, yn enwedig os ydych chi'n symud i raglen ymchwil. Mae dilyn gradd ôl-raddedig
yn golygu eich bod chi'n cymryd cam pwysig tuag at wella sgiliau bywyd hanfodol ac at wella'ch datblygiad
proffesiynol, fodd bynnag, gall hefyd olygu oriau hir, straen, a newid yng nghydbwysedd bywyd a gwaith.
Whilst undertaking postgraduate study, it’s essential your wellbeing doesn’t take
a back seat. Maintaining a balanced, healthy lifestyle is key to thriving, not just surviving, during this
transitional and demanding, yet rewarding, process.
Wrth ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig, mae'n hanfodol nad yw eich lles yn cael ei
esgeuluso. Mae cynnal ffordd o fyw gytbwys ac iach yn allweddol i ffynnu, nid dim ond ymdopi, yn ystod y broses
drawsnewidiol a heriol hon, ond eto'n werth chweil.
Why Mental Wellbeing Matters in Postgraduate Study
Pam mae Lles Meddyliol yn Bwysig mewn Astudiaeth Ôl-raddedig
Resources
Adnoddau
Whether you’re looking for practical advice, academic support, or help with your mental and physical health, the
University and Students’ Union offer a range of free, confidential services. The resources below are available
to support you throughout your time at Cardiff University.
P'un a ydych chi'n chwilio am gyngor ymarferol, cefnogaeth academaidd, neu
gymorth gyda'ch iechyd meddwl a chorfforol, mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o
wasanaethau cyfrinachol am ddim. Mae'r adnoddau isod ar gael i'ch cefnogi drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol
Caerdydd.
All Postgraduate Students
Pob Myfyriwr Ôl-raddedig
Student Advice
Cyngor i Fyfyrwyr
The Students’ Union’s free, independent, confidential, and impartial advice
service. We provide advice on simple to very complex issues, such as academic issues, housing, and
university complaints.
Gwasanaeth cyngor Undeb y Myfyrwyr sy’n rhad ac am ddim, annibynnol,
cyfrinachol a diduedd. Rydym yn darparu cyngor ar faterion syml i faterion cymhleth iawn, fel materion
academaidd, tai, a chwynion prifysgol.
Find out more
Darganfod mwy
Cardiff University Student Services
Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cardiff’s one stop hub for your student needs, including, disability, advice
and money, health and wellbeing, and visa support.
Hwb y Brifysgol ar gyfer anghenion myfyrwyr, gan gynnwys cefnogaeth anabledd,
cyngor ac arian, iechyd a lles, a chymorth fisa.
Find out more
Darganfod mwy
Health and Wellbeing Support
Cymorth Iechyd a Lles
Main Student Intranet page providing information, support services and events
to help you manage your emotional, mental and physical health at university.
Prif dudalen Mewnrwyd Myfyrwyr sy'n darparu gwybodaeth, gwasanaethau cymorth a
digwyddiadau i'ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol yn y brifysgol.
Find out more
Darganfod mwy
Inclusive Health and Wellbeing Support
Cymorth Iechyd a Lles Cynhwysol
Student Intranet page that offers information, support services and advice on
how Cardiff University can help support all students, especially minority groups. Some include LGBTQ+,
disabled, neurodiverse, and ethnic minority students.
Tudalen Mewnrwyd Myfyrwyr sy'n cynnig gwybodaeth, gwasanaethau cymorth a
chyngor ar sut y gall Prifysgol Caerdydd helpu i gefnogi pob myfyriwr, yn enwedig grwpiau lleiafrifol.
Mae rhai yn cynnwys myfyrwyr LHDTC+, anabl, niwroamrywiol, a lleiafrifoedd ethnig
Find out more
Darganfod mwy
NHS Guide on Mindfulness
Canllaw'r GIG ar Feddwlgarwch.
Mindfulness can help us enjoy life more and understand ourselves better. You
can take steps to develop it in your own life.
Gall meddwlgarwch ein helpu i fwynhau bywyd yn fwy a deall ein hunain yn well.
Gallwch gymryd camau i'w ddatblygu yn eich bywyd eich hun.
Find out more
Darganfod mwy
Postgraduate Research Students
Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
The Wellbeing Thesis
The Wellbeing Thesis
A free online resource for PhD students covering a huge variety of themes from
dealing with stress and managing your workload to debunking PhD myths and planning for life beyond the
PhD.
Adnodd ar-lein am ddim i fyfyrwyr PhD sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o themâu
o ddelio â straen a rheoli'ch llwyth gwaith i fynd i’r afael ag anwireddau PhD a chynllunio ar gyfer
bywyd y tu hwnt i'r PhD.
Find out more
Darganfod mwy
Managing your Mental Health during your PhD: A Survival Guide by Zoë J.
Ayres
Managing your Mental Health during your PhD: A Survival Guide gan Zoë J.
Ayres
A book providing tips and tricks on managing your mental health as a PhD
student, in addition to examining research culture.
Llyfr sy’n darparu cyngor ar reoli eich iechyd meddwl fel myfyriwr PhD, ac yn
edrych ar ddiwylliant ymchwilio.
Find out more
Darganfod mwy
The PhD Life Raft Podcast
Podlediad The PhD Life Raft
A podcast covering a range of topics and themes on PhD life. Also available on
Spotify and Apple Music.
Podlediad sy’n trafod amrywiaeth o bynciau a themâu bywyd PhD. Hefyd ar gael
ar Spotify ac Apple Music.
Listen to the podcast
Gwrando i’r podlediad