We are proud to announce that your SU has been named the UK’s top 3 Students’ Union in the WhatUni Student Choice Awards 2026. This marks 5 consecutive years of achieving a place in the top 3 and retaining a top 10 spot for over a decade.
Achieving a student satisfaction score of 4.67, alongside a record number of 5-star reviews tells its own story. This result also cements our place as the highest-ranked Students' Union in Wales. To have kept such a consistently strong ranking over the past five years is such a proud achievement for us. Diolch yn fawr Caerdydd- we couldn’t have done it without you.
Maria Pollard, SU President (2025-26), had this to say:
"We are thrilled to have been placed in the top 3 out of 140 Students’ Unions at the WhatUni Student Choice Awards. This is a well-deserved recognition of all the hard work put in not just by our career and student staff, but also by countless student volunteers and leaders who dedicate a significant amount of time to building the community that makes Cardiff SU so special.”
Daniel Palmer, Chief Executive of Cardiff SU, added:
"These awards are especially meaningful because they are based directly on student reviews and experiences, so to consistently achieve a top three place is a huge honour. This reflects the consistent focus we’ve placed on improving and growing what we offer students, even at a time when much of the higher education sector is facing significant challenges and reductions in services.
This achievement is a testament to our incredible staff team, whose dedication, care and commitment continue to shape an outstanding student experience every day. From support services and representation to activities, employment opportunities, and the largest SU events offering in the UK, they work tirelessly to deliver high-quality and diverse opportunities that genuinely make a difference to students’ lives.”
None of this happens without you. Cardiff SU is led and shaped by students at every level, from Elected Officers to student staff and everyone who engages with us as a customer, voter, volunteer or YOLO-goer, thank you! And a heartfelt thanks too to our fantastic career staff, who pour enormous effort into delivering outstanding services and experiences throughout the year
We strive to provide the best possible student experience for anyone who walks through our doors during their time in Cardiff, moments like this are what we work towards, and your ongoing support and feedback are what make them possible.
Rydym yn hynod falch i rannu'r newyddion: mae eich Undeb Myfyrwyr wedi'i enwi yn y 3 uchaf yn y DU yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2026. Mae hyn yn nodi 5 mlynedd yn olynol o gyrraedd y 3 uchaf a chadw lle yn y 10 uchaf am dros ddegawd.
Gyda sgôr boddhad myfyrwyr o 4.67 ynghyd â nifer uchaf erioed o adolygiadau 5 seren, mae'r canlyniad yn siarad drosto’i hun. Mae'r canlyniad hwn hefyd yn cadarnhau ein lle fel yr Undeb Myfyrwyr â'r safle uchaf yng Nghymru. Mae cadw safle mor gyson gryf dros y pum mlynedd diwethaf yn gyflawniad rydyn ni’n hynod falch ohono. Diolch yn fawr Caerdydd, fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi.
Dywedodd Maria Pollard, Llywydd Undeb y Myfyrwyr (2025-26)
"Rydym yn hynod falch o gyrraedd y 3 uchaf allan o 140 Undeb Myfyrwyr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni. Mae hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'r holl waith caled a wneir nid yn unig gan ein staff gyrfa a myfyrwyr, ond hefyd gan nifer fawr o wirfoddolwyr ac arweinwyr myfyrwyr sy'n neilltuo cryn dipyn o amser i adeiladu'r gymuned sy'n gwneud UM Caerdydd mor arbennig."
Ychwanegodd Daniel Palmer, Prif Weithredwr UM Caerdydd
“Mae’r gwobrau hyn yn arbennig o bwysig oherwydd eu bod yn seiliedig yn uniongyrchol ar brofiadau ac adolygiadau myfyrwyr, felly mae cyrraedd y tri uchaf yn gyson yn anrhydedd enfawr. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffocws parhaus rydym wedi’i roi ar wella a datblygu’r hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr, hyd yn oed ar adeg pan fo llawer o’r sector addysg uwch yn wynebu heriau sylweddol a gostyngiadau mewn gwasanaethau.
Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’n tîm staff anhygoel, y mae eu hymroddiad, eu gofal a’u hymrwymiad yn parhau i greu profiad myfyrwyr rhagorol bob dydd. O wasanaethau cymorth a chynrychiolaeth i weithgareddau, cyfleoedd gwaith, a’r rhaglen fwyaf o ddigwyddiadau UM yn y DU, maent yn gweithio’n ddiflino i ddarparu cyfleoedd amrywiol ac o ansawdd uchel sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau myfyrwyr.”
Nid yw dim o hyn yn digwydd heboch chi. Mae UM Caerdydd yn cael ei arwain a’i siapio gan fyfyrwyr ar bob lefel, o Swyddogion Etholedig i staff myfyrwyr a phawb sy’n ymgysylltu â ni fel cwsmer, pleidleisiwr, gwirfoddolwr neu fynychwr YOLO, diolch! A diolch o galon hefyd i’n staff gyrfa gwych, sy’n rhoi popeth mewn i ddarparu gwasanaethau a phrofiadau rhagorol drwy gydol y flwyddyn
Rydym yn ymdrechu i ddarparu’r profiad myfyrwyr gorau posibl i unrhyw un sy’n cerdded trwy ein drysau yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd. Eiliadau fel hyn yw’r hyn yr ydym yn gweithio tuag ato, a’ch cefnogaeth barhaus ac adborth yw’r hyn sy’n eu gwneud yn bosibl.