Welsh Varsity - Wristbands and tickets | Varsity Cymru - Bandiau arddwrn a thocynnau

No ratings yet. Log in to rate.

Wristbands and tickets

A red Varsity wristband is required for entry to ALL venues.

The following venues have additional entry requirements:

  • Cardiff Arms Park – Freshers’ Rugby: a paper Freshers’ Rugby ticket.
  • Cardiff Arms Park – Women’s and Men’s Rugby: a paper Women’s and Men’s Rugby ticket.
  • Llanrumney Sports Fields: a blue wristband.
  • Netball: a yellow wristband.
  • Basketball: an orange wristband.
  • Hockey: a purple wristband.

Entry will not be permitted without both a red wristband AND the tickets / wristbands detailed above.

All other venues have limited capacity, please plan your day accordingly. We expect some venues will reach capacity. Sophia Gardens Cricket Stadium has a large capacity if you find other venues full.


Travel

Buses to and from Llanrumney

If you have collected a free wristband to watch the fixtures at Cardiff University Sports Fields in Llanrumney, you will need to travel on the shuttle buses provided. No entry will be granted to anyone who doesn’t travel on the shuttle buses.

Shuttle buses will leave from Senghennydd Road starting at 09:30 and will run every 15 minutes. These shuttle buses will return from Llanrumney to the city centre (Sport Wales / Sophia Gardens) from 13:00 - 17:00.

Buses to and from Cardiff International Pool

Shuttle buses will leave from Gorsedd Gardens (directly in front of the National Museum) every 15 minutes from 08:15. The shuttle buses will be running on a loop between Gorsedd Gardens and Cardiff International Pool.

Bandiau arddwrn a thocynnau

Mae angen band arddwrn Varsity coch i gael mynediad i BOB lleoliad.

Mae gan y lleoliadau canlynol ofynion mynediad ychwanegol:

  • Parc yr Arfau Caerdydd – Rygbi’r Glas: tocyn papur Rygbi’r Glas.
  • Parc yr Arfau Caerdydd – Rygbi Menywod a Dynion: tocyn papur Rygbi Menywod a Dynion.
  • Caeau Chwarae Llanrhymni: band arddwrn glas.
  • Pêl-rwyd: band arddwrn melyn.
  • Pêl-fasged: band arddwrn oren.
  • Hoci: band arddwrn porffor.

Ni chaniateir mynediad heb fand arddwrn coch A’R tocynnau / bandiau arddwrn a nodir uchod.

Mae gan bob lleoliad arall gapasiti cyfyngedig, cynlluniwch eich diwrnod yn unol â hynny. Rydym yn disgwyl y bydd rhai lleoliadau’n llawn. Mae gan Stadiwm Criced Gerddi Sophia gapasiti mawr os byddwch yn dod o hyd i leoliadau llawn eraill.


Teithio

Bysiau i ac o Lanrhymni

Os ydych chi wedi casglu band arddwrn am ddim i wylio’r gemau yng Nghaeau Chwarae Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni, bydd angen i chi deithio ar y bysiau gwennol a ddarperir. Ni fydd mynediad i unrhyw un sydd heb deithio ar y bysiau gwennol.

Bydd bysiau gwennol yn gadael o Ffordd Senghennydd gan ddechrau am 09:30 a byddant yn rhedeg bob 15 munud. Bydd y bysiau gwennol hyn yn dychwelyd o Lanrhymni i ganol y ddinas (Chwaraeon Cymru / Gerddi Sophia) o 13:00 - 17:00.

Bysiau i ac o Bwll Rhyngwladol Caerdydd

Bydd bysiau gwennol yn gadael o Erddi’r Orsedd (o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol) bob 15 munud o 08:15. Bydd y bysiau gwennol yn rhedeg mewn cylch rhwng Gerddi’r Orsedd a Phwll Rhyngwladol Caerdydd.

Comments