We’re pleased to announce that The Pantri is expanding to Heath Park Campus.
From Thursday 19th February, students will be able to access The Pantri at Heath Park Campus, based in the IV Lounge. Opening times will be the same as our Cathays location: every Tuesday and Thursday, 1pm–4pm.
Following the overwhelming response to The Pantri at our Cathays Students’ Union, opened by your VP International, Hanan, it’s been made clear just how vital accessible support is for students across our community. We’re proud to now be extending that same support to students at the Heath Park campus.
This expansion has been secured by your VP Heath Park, Joshua Tandy, who has been working to ensure that students based at Heath Park have better access to cost-of-living support on their own campus.
The Pantri provides free food and essential hygiene items to support students experiencing financial hardship or feeling the impact of rising living costs. Delivered in a welcoming, non-judgemental space, it offers practical help to ensure you can access support when you need it and ease pressure on your budget.
How it works
Who can use it? Any Cardiff University student.
When is it open? Every Tuesday & Thursday, 1pm–4pm.
Where is it? IV Lounge, Heath Park
What’s available? A range of food and hygiene products.
When you visit, we’ll just ask for your student number. This helps us understand how the service is being used and if you’re accessing The Pantri regularly, we may suggest a chat with one of our Student Advisors so we can connect you to other financial support that could help. Everything is designed to be discreet, supportive and stigma-free.
Whilst we hope The Pantri will provide invaluable support to our students, it does not address the root cause of the problem. Students should not have to rely on resources such as this to survive and we are committed to continuing lobbying both the university and the government to provide a better financial deal for students.
We look forward to welcoming you to The Pantri at Heath Park from Thursday 19th February.
For more information about The Pantri visit: The Pantri
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Y Pantri yn ehangu i Gampws Parc y Mynydd Bychan.
O ddydd Iau 19eg Chwefror, bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad i'r Pantri ar Gampws Parc y Mynydd Bychan, sydd wedi'i leoli yn y Lolfa IV. Bydd yr oriau agor yr un peth â'n lleoliad yn Cathays: bob dydd Mawrth a dydd Iau, 1yp–4yp.
Yn dilyn yr ymateb aruthrol i Y Pantri yn Undeb Myfyrwyr Cathays, a agorwyd gan eich Is-lywydd Rhyngwladol, Hanan, mae wedi dod yn glir pa mor hanfodol yw cefnogaeth hygyrch i fyfyrwyr ar draws ein cymuned. Rydym yn falch o fod bellach yn ymestyn yr un gefnogaeth i fyfyrwyr ar gampws Parc y Mynydd Bychan.
Mae'r ehangiad hwn wedi cael ei sicrhau gan eich IL Parc y Mynydd Bychan, Joshua Tandy, sydd wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gan fyfyrwyr sydd wedi'u lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan fynediad gwell at gymorth costau byw ar eu campws eu hunain.
Mae'r Pantri yn darparu bwyd ac eitemau hylendid hanfodol am ddim i gefnogi myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol neu'n teimlo effaith costau byw cynyddol. Wedi'i ddarparu mewn gofod croesawgar, heb feirniadaeth, mae'n cynnig cymorth ymarferol i sicrhau y gallwch gael mynediad at gefnogaeth pan fydd ei angen arnoch ac i leddfu'r pwysau ar eich cyllideb.
Sut mae'n gweithio
Pwy all ei ddefnyddio? Unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd.
Pryd mae ar agor? Bob dydd Mawrth a dydd Iau, 1yp–4yp.
Ble alla i ddod o hyd iddo? Lolfa IV, Parc y Mynydd Bychan
Beth sydd ar gael? Amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a hylendid.
Pan fyddwch chi'n ymweld, byddwn ni'n gofyn am eich rhif myfyriwr yn unig. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ac os ydych chi'n defnyddio’r Pantri yn rheolaidd, efallai y byddwn ni'n awgrymu sgwrs gydag un o'n Cynghorwyr Myfyrwyr fel y gallwn ni eich cysylltu â chymorth ariannol arall a allai helpu. Mae popeth wedi'i gynllunio i fod yn gefnogol, yn rhydd o stigma ac i beidio â thynnu sylw.
Er ein bod yn gobeithio y bydd y Pantri yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i'n myfyrwyr, nid yw'n mynd i'r afael â gwraidd y broblem. Ni ddylai myfyrwyr orfod dibynnu ar adnoddau fel hyn i oroesi ac rydym wedi ymrwymo i barhau i lobïo'r brifysgol a'r llywodraeth i ddarparu bargen ariannol well i fyfyrwyr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Pantri ym Mharc y Mynydd Bychan o ddydd Iau 19eg Chwefror.
Am ragor o wybodaeth am y Pantri ewch i: Y Pantri