At Cardiff Students’ Union, we know that university life isn’t always easy – especially when the cost of living makes even the basics feel out of reach. That’s why we’ve launched The Pantri: a free service for all Cardiff University students where you can pick up essential food and hygiene products in a welcoming, judgment-free space.
Why we created The Pantri
We’ve seen first-hand how tough things are for students right now. A 2024 survey by the National Union of Students (NUS) found that 14% of students used food banks during the 2023–24 academic year – double the 7% recorded just two years earlier [NUS UK].
Closer to home, a 2025 BBC News report, citing a NUS Cymru survey, revealed that 58% of students in Wales have skipped meals because of rent and housing cost pressures [BBC News]. At Cardiff Students’ Union, our Feed Your Flat campaign distributed over 2,500 essential items in Summer 2025 alone, a clear sign of the support students need.
These figures are stark, but they confirm what we already know: food poverty is a growing reality for many students, directly affecting health, wellbeing and the ability to thrive at university. That’s why we created The Pantri, to provide consistent, year-round support so you never have to choose between studying and eating.
How it works
-
Who can use it? Any Cardiff University student.
-
When is it open? Every Tuesday & Thursday, 1pm–4pm.
-
Where is it? Student Advice Reception, Level 3, Students’ Union building.
-
What’s available? A range of food and hygiene products.
When you visit, we’ll just ask for your student number. This helps us understand how the service is being used and if you’re accessing The Pantri regularly, we may suggest a chat with one of our Student Advisors so we can connect you to other financial support that could help. Everything is designed to be discreet, supportive and stigma-free.
Our promise to you
We’re committed to making The Pantri a sustainable, long-term service. At your Students’ Union, our message is simple: we’ve got your back. If you’re feeling the squeeze, you’re not alone – and The Pantri is here for you.
At the same time we are aware that whilst The Pantri will provide invaluable support to our students, it does not address the root cause of the problem. Students should not have to rely on resources such as this to survive and we are committed to continuing lobbying both the university and the government to provide a better financial deal for students.
Yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, rydyn ni’n gwybod nad yw bywyd prifysgol bob amser yn hawdd – yn enwedig pan fydd costau byw yn gwneud i hyd yn oed y nwyddau sylfaenol deimlo allan o gyrraedd. Dyna pam rydyn ni wedi lansio Y Pantri: gwasanaeth am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd lle gallwch chi gasglu cynhyrchion bwyd a hylendid hanfodol mewn amgylchedd croesawgar, heb i neb farnu.
Pam y gwnaethom greu’r Pantri
Rydym wedi gweld yn uniongyrchol pa mor anodd yw pethau i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Canfu arolwg yn 2024 gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) fod 14% o fyfyrwyr wedi defnyddio banciau bwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24- dwbl y 7% a gofnodwyd ddwy flynedd ynghynt [NUS UK].
Yn nes at adref, datgelodd adroddiad Newyddion y BBC yn 2025, gan ddyfynnu arolwg gan NUS Cymru, fod 58% o fyfyrwyr yng Nghymru wedi hepgor prydau bwyd oherwydd pwysau costau rhent a thai [Newyddion y BBC]. Yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, dosbarthodd ein hymgyrch Bwydo Eich Fflat dros 2,500 o eitemau hanfodol yn Haf 2025 yn unig, arwydd clir o’r gefnogaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr.
Mae’r ffigurau hyn yn ddigalon, ond maent yn cadarnhau’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod: mae tlodi bwyd yn realiti cynyddol i lawer o fyfyrwyr, gan effeithio’n uniongyrchol ar iechyd, lles a’r gallu i ffynnu yn y brifysgol. Dyna pam y gwnaethom greu’r Pantri, i ddarparu cefnogaeth gyson, drwy gydol y flwyddyn fel nad oed rhaid i chi byth orfod dewis rhwng astudio a bwyta.
Sut mae’n gweithio
-
Pwy all ei ddefnyddio? Unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd.
-
Pryd mae ar agor? Bob dydd Mawrth a dydd Iau, 1yp–4yp.
-
Ble mae e? Derbynfa Cyngor i Fyfyrwyr, Lefel 3, Adeilad Undeb y Myfyrwyr.
-
Beth sydd ar gael? Amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a hylendid.
Pan fyddwch chi’n ymweld, byddwn ni’n gofyn am eich rhif myfyriwr yn unig. Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio ac os ydych chi'n defnyddio’r Pantri yn rheolaidd, efallai y byddwn ni'n awgrymu sgwrs gydag un o'n Cynghorwyr Myfyrwyr fel y gallwn ni eich cysylltu â chymorth ariannol arall a allai eich helpu. Mae popeth wedi’i gynllunio i fod yn ddisylw, yn gefnogol ac yn rhydd o stigma.
Ein haddewid i chi
Rydym wedi ymrwymo i wneud Y Pantri yn wasanaeth cynaliadwy, hirdymor. Yn Undeb y Myfyrwyr, mae ein neges yn syml: rydym yma i’ch cefnogi. Os ydych chi’n teimlo’r pwysau, nid ydych chi ar eich pen eich hun – ac mae’r Pantri yma i chi.
Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol, er y bydd y Pantri yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i’n myfyrwyr, nad yw’n mynd i’r afael â gwraidd y broblem. Ni ddylai myfyrwyr orfod dibynnu ar adnoddau fel hyn i oroesi ac rydym wedi ymrwymo i barhau i lobïo'r brifysgol a'r llywodraeth i ddarparu gwell bargen ariannol i fyfyrwyr.