Shwmae May (and Term 3!). Term 2 may have flown by faster than a rugby ball at Welsh Varsity, but wow, did we pack it out.
From spotlight-stealing showcases to fierce competitions and big wins (we’re looking at you, Dance Varsity AND Welsh Varsity champs). Let’s recap and re-live the madness.
As the term rolled on, the Spring Showcase lit up our calendars with a dazzling celebration of music, dance, theatre and all-round talent from our amazing societies. Then it was Cardiff vs Swansea: round one saw our dancers bring the fire and take the W at Dance Varsity, before our athletes smashed it again at Welsh Varsity.
Election season brought a fresh wave of faces - six new Sabbatical Officers are ready to take the reins and rep you next year.
For those preparing to cross the stage and throw their caps in the air, Class of 2025 Grad Merch has officially landed at Love Cardiff.
To top it all off, award season buzz has begun, with shortlists released for the ESLA, SVMAs, AU Awards - have you got your glad rags ready? Whether you’re nominated or cheering your mates on, get ready to celebrate!
Spring Showcase & Dance Varsity
VP Societies & Volunteering organised both the Spring Showcase and Dance Varsity this term – the first Dance Varsity held by the SU in 10 years!
“Dance Varsity was such a success with everyone dancing their hearts out, as Cardiff triumphed against Swansea! This year’s Spring Showcase was also a vibrant celebration of talent, with 15 societies performing and bringing the best vibes to end an incredible term.” – VP Societies & Volunteering, Eve
Spring Elections
In Term 2 you elected 6 new Sabbatical Officers and ten Campaign Officers to represent you for the 2025/26 academic year! We can’t wait to see what they have in store; you can read the full results here. We are holding a Bye-Election for the role of VP Heath Park, read the Notice of Poll here, and keep an eye out for more information about the candidates ahead of voting week which will take place Tuesday 6th May – Friday 10th May.
Varsity
AU President & VP Sports, Georgia celebrates another shield win under her leadership!
“What an incredible day of student sports here in Cardiff! Both Cardiff and Swansea students showed up and showed out, and I am so proud of all the hard work and dedication our student athletes have put in. From thrilling matches to unforgettable moments, Welsh Varsity showcased the best of student sport and community, with the stands filled with passionate supporters cheering on their teams. Welsh Varsity truly lived up to its reputation as one of the most exciting student events of the year.” – AU President & VP Sports, Georgia
Read the full story here, and check out the full results.
Grad Merch
Calling class of 2025… you can finally get your hands on personalised merch to keep as a memory of your time at Cardiff University. For the first time ever, this year we have introduced ¼ zips as well as our classic hoodies. You can pre-order your favourite (or both!) now at shop.cardiffstudents.com.
Awards
In May we are hosting the ESLAs, SVMAs and AU Awards, congratulations to everyone shortlisted! Ticket reservations for the SVMAs and AU Awards are now closed, we can’t wait to see everyone celebrated for their achievements this year.
Term 3 means exam season, so make sure to get lots of rest and make use of Revision Aid around campus. Make the most of your last term with a Give it a Go trip, society events, award season, and the big one: graduation. Let’s go out with a bang!
Dyna ddiwedd ar Dymor 2!
Shwmae Mai (a Thymor 3!). Mae Tymor 2 wedi hedfan heibio yn gyflymach na phêl rygbi yn Varsity Cymru, ond wow, gwnaethon ni gymaint o bethau.
O arddangosfeydd anhygoel i gystadlu brwd a buddugoliaethau mawr (rydyn ni’n sôn amdanoch chi, pencampwyr y Varsity Dawns a Varsity Cymru). Gadewch i ni ail-edrych ac ail-fyw'r cyffro.
Wrth i'r tymor fynd yn ei flaen gwnaeth Gŵyl y Gwanwyn goleuo ein calendr gyda dathliad anhygoel o gerddoriaeth, dawns, theatr a thalent ein cymdeithasau gwych. Wedyn roedd yn bryd am Gaerdydd vs Abertawe: gwelodd rownd un ein dawnswyr yn ennill yn y Varsity Dawns, cyn i'n hathletwyr serennu yn Varsity Cymru.
Gwnaeth y tymor etholiadau gyflwyno wynebau newydd – mae chwe Swyddog Sabothol newydd yn barod i gamu i'r awenau a’ch cynrychioli blwyddyn nesaf.
I’r rheiny sy’n paratoi i groesi’r llwyfan a thaflu eu capiau i'r awyr, mae nwyddau graddio Dosbarth 2025 nawr wedi glanio yn Caru Caerdydd.
Ac ar ben hynny oll, mae hwyl y tymor gwobrwyo wedi cychwyn, gyda rhestrau byr yr ESLAs, SVMAs a gwobrau’r UA wedi’u rhyddhau – ydych chi’n barod? Boed os ydych wedi eich enwebu neu am gefnogi eich ffrindiau, paratowch i ddathlu!
Gŵyl y Gwanwyn a’r Varsity Dawns
Gwnaeth yr IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli drefnu Gŵyl y Gwanwyn a’r Varsity Dawns tymor yma – y Varsity Dawns cyntaf i gael ei gynnal yn yr UM ers 10 mlynedd!
“Roedd y Varsity Dawns yn gymaint o lwyddiant gyda phawb yn gwneud eu gorau wrth i Gaerdydd curo Abertawe! Roedd Gŵyl y Gwanwyn eleni hefyd yn ddathliad bywiog o dalent, gydag 15 cymdeithas yn perfformio a’n dod â’r holl hwyl am y diweddglo gorau i dymor anhygoel.” - IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli, Eve.
Etholiadau’r Gwanwyn
Yn Nhymor 2 fe wnaethoch chi ethol 6 Swyddog Sabothol newydd a 10 Swyddog Ymgyrchu i'ch cynrychioli ym mlwyddyn academaidd 2025/26! Ni allwn aros i weld beth fyddan nhw’n ei wneud; gallwch ddarllen y canlyniadau llawn yma. Rydym nawr yn cynnal Is-Etholiad ar gyfer y rôl o IL Parc y Mynydd Bychan. Darllenwch yr Hysbysiad o Etholiad yma, a chadwch lygad allan am ragor o wybodaeth ynghylch yr ymgeiswyr cyn yr wythnos pleidleisio a fydd o ddydd Mawrth 6ed Mai – dydd Gwener 10fed Mai.
Varsity
Mae Llywydd yr UA a’r IL Chwaraeon, Georgia, yn dathlu ennill y darian unwaith eto!
“Am ddiwrnod anhygoel o chwaraeon myfyrwyr yma yng Nghaerdydd! Gwnaeth myfyrwyr Caerdydd ac Abertawe perfformio i'w heithaf, ac rwyf mor falch o holl waith caled ac ymroddiad ein hathletwyr. O gemau cyffrous i eiliadau bythgofiadwy, fe wnaeth Varsity Cymru arddangos y gorau o chwaraeon myfyrwyr a’n cymuned, gyda llwyth o gefnogwyr brwd yno yn cefnogi eu timoedd. Gwnaeth Varsity Cymru cwrdd â’n holl ddisgwyliadau unwaith eto fel un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous y flwyddyn i fyfyrwyr.” - Llywydd yr UA a’r IL Chwaraeon, Georgia.
Darllenwch y stori lawn yma, a gwelwch yr holl ganlyniadau.
Nwyddau Graddio
Yn galw ar ddosbarth 2025... gallwch nawr gael gafael ar nwyddau wedi’u personoli i'w cadw fel atgof o’ch amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac am y tro cyntaf, eleni rydym wedi cyflwyno siwmperi ¼ sip yn ogystal â’n hwdis arferol. Gallwch archebu o flaen llaw nawr ar shop.cardiffstudents.com.
Gwobrau
Ym mis Mai rydym yn cynnal yr ESLAs, SVMAs a gwobrau’r UA. Llongyfarchiadau i bawb ar y rhestrau byr! Ni allwn aros i weld pawb yn cael eu cydnabod a’u dathlu am eu cyflawniadau eleni.
Mae Tymor 3 yn golygu tymor arholiadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu am eich hun ac yn defnyddio ein hymgyrch Cymorth Adolygu a fydd o amgylch y campws. Gwnewch y mwyaf o’ch tymor olaf gyda theithiau Rho Gynnig Arni, digwyddiadau cymdeithasau, seremonïau gwobrwyo, a’r un fawr: graddio! Gadewch i ni orffen gyda bang!