Statement in response to evacuation of YOLO (Wednesday 18 February)
On Wednesday evening, the fire alarm was activated during YOLO. Following our standard safety procedures, the building was immediately evacuated to ensure the safety of everyone inside.
After a full check of the premises by staff, it was confirmed that there was no fire risk and the event was able to safely reopen. All students were allowed back into the venue, with free re-entry provided.
Initial investigations indicate that the alarm was activated maliciously. We are currently reviewing CCTV and other information to identify the individual responsible.
Deliberately setting off a fire alarm without cause is a criminal offence. It creates unnecessary risk, disrupts a safe evacuation process, and impacts thousands of students who attend and enjoy these events responsibly each week.
If you have any information about the incident, we strongly encourage you to come forward to support our investigation by emailing [email protected].
The safety of our students is always our priority. We would like to thank attendees and staff for following instructions promptly and calmly while the checks were carried out.
We are proud to host one of the largest Students’ Union club nights in the UK, with over 4,000 of you attending each week and doing so responsibly. It’s that collective attitude and respect for one another that makes these nights such a positive part of the student experience. Thank you to everyone who helps make it so special.
We look forward to seeing you back at YOLO next week!
Datganiad mewn ymateb i wacáu’r adeilad yn YOLO (Dydd Mercher 18 Chwefror)
Nos Fercher, cafodd y larwm tân ei actifadu yn ystod YOLO. Yn unol â’n gweithdrefnau diogelwch safonol, cafodd yr adeilad ei wacáu ar unwaith i sicrhau diogelwch pawb oedd y tu mewn.
Ar ôl i'r staff gynnal archwiliad llawn o’r safle, cadarnhawyd nad oedd unrhyw berygl tân a chafodd y digwyddiad ei ailagor yn ddiogel. Caniatawyd i bob myfyriwr ddychwelyd i'r lleoliad, gyda mynediad am ddim.
Mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu bod y larwm wedi'i actifadu'n faleisus. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r hyn a ddaliwyd ar ein camerâu CCTV a gwybodaeth arall er mwyn dod o hyd i’r unigolyn sy'n gyfrifol.
Mae actifadu larwm tân yn fwriadol heb achos dilys yn drosedd. Mae'n creu risg ddiangen, yn amharu ar broses wacáu ddiogel, ac yn effeithio ar filoedd o fyfyrwyr sy'n mynychu ac yn mwynhau'r digwyddiadau hyn yn gyfrifol bob wythnos.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, rydym yn eich annog yn gryf i ddod ymlaen i gefnogi ein hymchwiliad drwy e-bostio [email protected].
Diogelwch ein myfyrwyr yw ein blaenoriaeth bob amser. Hoffem ddiolch i'r mynychwyr a'r staff am ddilyn cyfarwyddiadau'n brydlon ac yn bwyllog tra oedd y gwiriadau'n cael eu cynnal.
Rydym yn falch o gynnal un o nosweithiau clwb Undeb Myfyrwyr mwyaf y DU, gyda dros 4,000 ohonoch yn mynychu bob wythnos ac yn gwneud hynny'n gyfrifol. Yr agwedd gydweithredol honno a'r parch sydd gennym at ein gilydd sy'n gwneud y nosweithiau hyn yn rhan mor gadarnhaol o brofiad y myfyrwyr. Diolch i bawb sy'n helpu i'w gwneud mor arbennig.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ôl yn YOLO yr wythnos nesaf!