Statement: BUCS Men’s Rugby Fixture | Datganiad: Gêm Rygbi Dynion BUCS

No ratings yet. Log in to rate.

Statement on the Swansea v Cardiff BUCS Men’s Rugby Fixture

Cardiff Students’ Union is aware of the incident that took place during the BUCS men’s rugby fixture between Swansea University and Cardiff University, which resulted in the match being abandoned before full time. We recognise the concern this has caused and understand the heightened attention given the local rivalry and competitive context of the fixture.

Cardiff Students’ Union is in touch with British Universities & Colleges Sport and Swansea University. We will engage constructively with both bodies and will take appropriate action in line with any outcomes or recommendations arising from those processes.

While the scenes on the pitch were clearly disappointing, the information available to us at this stage does not indicate that Cardiff supporters were involved in the disorder during the fixture.

We are clear that behaviours on and around the pitch that escalate confrontation or contribute to unsafe environments are not acceptable. We will be engaging directly with the club to reinforce expectations around conduct, both during competition and in relation to wider matchday behaviour.

Sport plays a vital role in the Cardiff University student experience, bringing people together, building community, and fostering pride in representing the University. Our responsibility is to ensure this takes place in a safe environment, with clear expectations around behaviour so that competitive sport remains positive, inclusive, and respectful for everyone involved.

Datganiad ar Gêm Rygbi Dynion BUCS Abertawe v Caerdydd

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod gêm rygbi dynion BUCS rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, a arweiniodd at ddod â’r gêm i ben cyn y chwiban olaf. Rydym yn cydnabod y pryder y mae hyn wedi'i achosi ac yn deall y sylw cynyddol, o ystyried y gystadleuaeth leol a hanesyddol rhwng y ddau dîm, ynghyd â chyd-destun cystadleuol y gêm.

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd mewn cysylltiad â Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a Phrifysgol Abertawe. Byddwn yn cydweithio â'r ddau gorff ac yn cymryd camau priodol yn unol ag unrhyw ganlyniadau neu argymhellion a ddaw yn sgil y prosesau hynny.

Er bod yr hyn a welwyd ar y cae yn amlwg yn siomedig, nid yw'r wybodaeth sydd ar gael i ni ar hyn o bryd yn dangos bod cefnogwyr Caerdydd wedi bod yn rhan o'r anhrefn yn ystod y gêm.

Rydym yn glir nad yw unrhyw ymddygiad ar y cae nac o’i gwmpas sy'n cynyddu gwrthdaro neu'n cyfrannu at amgylcheddau anniogel yn dderbyniol. Byddwn yn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r clwb i atgyfnerthu disgwyliadau ynghylch ymddygiad, boed hynny yn ystod gemau neu mewn perthynas ag ymddygiad ehangach ar ddiwrnod gêm.

Mae chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol ym mhrofiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan ddod â phobl ynghyd, meithrin cymuned, a chryfhau ymdeimlad o falchder wrth gynrychioli'r Brifysgol. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod hyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel, gyda disgwyliadau clir ynghylch ymddygiad fel bod chwaraeon cystadleuol yn parhau i fod yn brofiad cadarnhaol, cynhwysol, sy’n dangos parch at bawb sy'n cymryd rhan.

Comments