Sabb Officer Statement on Supreme Court Ruling | Datganiad Swyddogion ar ddyfarniad y Goruchaf Lys

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Sabbatical Officer Statement following the UK Supreme Court Ruling

We are extremely disappointed by the UK Supreme Court Ruling regarding the Equality Act, stating that the definition of “sex” refers to only “biological sex”. This decision undermines the human rights of trans, non-binary, and gender non-conforming people across the UK, including those within our student community.

This ruling does not change our values. Cardiff SU will always be a safe space for transgender, non-binary, and gender non-conforming people, as we will continue to stand with our trans students and fight for trans rights. We are committed to ensuring our spaces and community remain inclusive and supportive to all students, regardless of how they identify.

We understand that this news will be very difficult for many students. If you would like support, please reach out to our student advice service, you can contact Student Advice at Advice@cardiff.ac.uk or 02920 781410. There also exists several specialist LGBTQ+ charitable organisations such as: Gendered Intelligence, Not A Phase, Mermaids, Trans Aid Cymru, and Switchboard.

Whilst the future remains unclear, we are committed to ensuring we abide by the law alongside minimising any impact on trans people and fighting against the removal of their rights.  As things develop, we will communicate with all students and work with those most impacted. If you have specific concerns about how this decision might affect your student experience, or areas where you feel more clarity or change is needed, please get in touch. We want to hear from you and understand what support or reassurance would make a difference.

We say unequivocally, trans women are women, trans men are men, and your identity is not up for debate. We are also more than aware that statements can do little to show true allyship and support and it is through our actions we can truly support our trans community.

Your Sabbatical Officer Team, 2024-25.  

 

Datganiad gan eich Swyddogion Sabothol yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys

Rydym wedi ein siomi’n sylweddol gan ddyfarniad Goruchaf Lys y DU ynghylch y Ddeddf Cydraddoldeb, sydd wedi datgan bod y gair “rhyw” yn cyfeirio at “rhyw biolegol” yn unig. Mae’r penderfyniad hwn yn tanseilio hawliau dynol pobl draws, anneuaidd, a’r rheiny nad sy’n cydymffurfio o ran rhywedd ar draws y DU, gan gynnwys y rheiny o fewn ein cymuned fyfyrwyr.  

Nid yw'r dyfarniad hwn yn newid ein gwerthoedd. Bydd UM Caerdydd bob amser yn lle diogel i bobl draws, anneuaidd, a’r rheiny nad sy’n cydymffurfio o ran rhywedd, gan y byddwn yn parhau i sefyll gyda'n myfyrwyr traws ac yn brwydro dros hawliau traws. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gofodau a chymuned yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn gefnogol i'n holl fyfyrwyr, ni waeth beth fo’u hunaniaeth.

Rydym yn deall y bydd y newyddion hyn yn peri gofid i lawer o fyfyrwyr. Os hoffech gefnogaeth, cysylltwch â’n gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr ar Advice@caerdydd.ac.uk  neu 02920 781410. Mae hefyd nifer o sefydliadau elusennol LHDTC+ arbenigol megis: Gendered Intelligence, Not A Phase, Mermaids, Trans Aid Cymru, a Switchboard.

Er bod y dyfodol yn parhau i fod yn aneglur, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith tra’n lleihau unrhyw effaith ar bobl draws a brwydro yn erbyn camau sy’n cwtogi eu hawliau. Wrth i bethau ddatblygu, byddwn yn cysylltu â phob myfyriwr ac yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf. Os oes gennych bryderon penodol ynghylch effaith y penderfyniad ar eich profiad fel myfyriwr, neu os hoffech weld fwy o eglurder neu newid, cysylltwch â ni. Rydym am glywed gennych a deall pa gymorth neu gefnogaeth fyddai'n gwneud gwahaniaeth.

Rydym yn dweud yn ddiamheuol, mae menywod traws yn fenywod, mae dynion traws yn ddynion, ac nid yw eich hunaniaeth yn agored i drafodaeth. Rydym hefyd yn ymwybodol nid yw datganiadau yn gwneud llawer wrth ddangos cefnogaeth wirioneddol, ac mai trwy weithredu y gallwn wir ddangos ein cefnogaeth a chariad tuag at ein cymuned draws.  

Eich Tîm Swyddogion Sabothol, 2024-25.