Notice of SU Senate Elections 2026 | Hysbysiad o Etholiadau Senedd yr UM

featured
No ratings yet. Log in to rate.

Nominations for our SU Senate Elections 2026 are now open.


Nominations Open: Monday 14th September, 10:00

Nominations Close: Thursday 22nd October, 18:00

How to submit a nomination: Head to https://cardiffstudents.typeform.com/SUSenate2026 and submit your nomination.

For this election all candidates are asked to answer two questions. These questions are aimed at helping students understand the type of student representative you would be if elected and the priorities you would have. Candidates have a maximum of 500 characters (approximately 80 words) for each question.

Below you can find the positions available in this election. The number of positions available can be found in brackets.


Eligibility Criteria: To be eligible to stand in this election you must be either a student of Cardiff University or a current Sabbatical Officer (in accordance with the Union’s governing documents) at the close of nominations. There are also additional eligibility criteria for some roles within this election as outlined in this attached document. Those running for Campaign Officer positions must be students at Cardiff University for the duration of the role (from 1st July 2026 to 30th June 2027).

Fit to Stand Requirements: When submitting their nominations students will be asked to confirm they are ‘fit to stand’. This means candidates standing in the election, to their knowledge and at the point of the close of nominations, do not have any current investigations or previous complaints upheld against them into matters relating to sexual misconduct, inappropriate sexual behaviour, relationship abuse and unhealthy relationships, sexual assault, sexual violence, violence, abuse, harassment, bullying, hate crimes, criminal conduct, physical assault, or discrimination. Any students who are unable to confirm they are ‘fit to stand’ will not be eligible to stand in the election.


Positions vacant

  • Student Senator (25)
  • Athletic Union Executive Committee (6)
  • Cymraeg Executive Committee (6)
  • International Executive Committee (6)
  • Postgraduate Executive Committee (6)
  • Societies & Communities Executive Committee (6)
  • Undergraduate Executive Committee (6)
  • SU President's Executive Committee (6)
  • Mature Students' Officer (1)
  • Student Carers and Parents Officer (1)


Voting

Voting opens: Monday 2nd November, 10:00

Voting closes: Thursday 5th November, 18:00


Results: Friday 6th November

More Information on the elections, including the election regulations, can be found here. For any queries, please email [email protected].



Mae enwebiadau ar gyfer Etholiadau Senedd yr UM 2026 bellach ar agor


Enwebiadau’n agor: Dydd Llun 14eg Medi, 10:00

Enwebiadau’n cau: Dydd Iau 22ain Hydref, 18:00

Sut i gyflwyno enwebiad: Ewch i https://cardiffstudents.typeform.com/SUSenate2026, a chyflwynwch eich enwebiad.

Ar gyfer yr etholiad hwn gofynnir i bob ymgeisydd ateb dau gwestiwn. Nod y cwestiynau hyn yw helpu myfyrwyr i ddeall sut fyddech yn eu cynrychioli pe byddech yn cael eich ethol, a beth fyddai eich blaenoriaethau. Mae gan ymgeiswyr hyd at 500 llythyren a gwagle (tua 80 gair) ar gyfer pob cwestiwn.

Isod gallwch ddod o hyd i’r rolau sydd ar gael. Mae’r nifer o bob rôl sydd ar gael i’w weld yn y cromfachau.


Meini Prawf Cymhwysedd: I fod yn gymwys i sefyll yn yr etholiad hwn rhaid i chi fod naill ai'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu'n Swyddog Sabothol presennol (yn unol â dogfennau llywodraethu'r Undeb) ar ddiwedd y cyfnod enwebu. Mae yna hefyd feini prawf cymhwysedd ychwanegol ar gyfer rhai rolau yn yr etholiad hwn fel yr amlinellir yn y ddogfen sydd wedi’i hatodi. Rhaid i'r rhai sy'n ymgeisio am swyddi Swyddog Ymgyrchu fod yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am gyfnod y rôl (o 1af Gorffennaf 2026 i 30ain Mehefin 2027).

Gofynion Addas i Sefyll: Wrth gyflwyno eu henwebiadau, gofynnir i fyfyrwyr gadarnhau eu bod yn 'addas i sefyll'. Mae hyn yn golygu nad oes gan ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad, hyd y gwyddant ac ar adeg cau'r enwebiadau, unrhyw ymchwiliadau presennol na chwynion blaenorol yn eu herbyn mewn materion sy'n ymwneud â chamymddwyn rhywiol, ymddygiad rhywiol amhriodol, cam-drin perthynas a pherthnasoedd afiach, ymosodiad rhywiol, trais rhywiol, trais, cam-drin, aflonyddu, bwlio, troseddau casineb, ymddygiad troseddol, ymosodiad corfforol, neu wahaniaethu. Ni fydd unrhyw fyfyrwyr sy'n methu â chadarnhau eu bod yn 'addas i sefyll' yn gymwys i sefyll yn yr etholiad.


Rolau gwag

  • Senedd y Myfyrwyr (25)
  • Pwyllgor Gwaith yr Undeb Athletau (6)
  • Pwyllgor Gwaith y Gymraeg (6)
  • Pwyllgor Gwaith Rhyngwladol (6)
  • Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig (6)
  • Pwyllgor Gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli (6)
  • Pwyllgor Gwaith Llywydd yr UM (6)
  • Pwyllgor Gwaith Israddedig (6)
  • Swyddog Myfyrwyr Hŷn (1)
  • Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni a Gofalwyr (1)


Pleidleisio

Pleidleisio’n agor: Dydd Llun 2il Tachwedd, 10:00

Pleidleisio’n cau: Dydd Iau 5ed Tachwedd, 18:00

Cyhoeddi canlyniadau: Dydd Gwener 6ed Tachwedd

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr etholiadau, gan gynnwys y rheoliadau, yma. Ar gyfer unrhyw ymholiadau, e-bostiwch [email protected].



Comments