Mae myfyrwyr o Loegr wedi colli eu grantiau cynhaliaeth.

Ein barn ar y bleidlais ar grantiau cynhaliaeth yn Nhy'r Cyffredin ar 19 Ionawr.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Yn dilyn ymgyrchu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, galwyd trafodaeth diwrnod gwrthwynebu i herio'r llywodraeth ar ei bwriad o ddileu grantiau cynhaliaeth. Croesawom ni, fel Undeb y Myfyrwyr, y cyfle i herio gweithred annheg ac annemocrataidd gan bwyllgor yn erbyn miloedd o fyfyrwyr ledled y DU sy'n dibynnu ar Gyllid Myfyrwyr Lloegr. Yn gyntaf, cysylltom ni â'n holl aelodau drwy e-bost i'w hannog i gysylltu â'u AS. Yn ail, ymgyrchom ni ar gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'r drafodaeth gan ymgysylltu ag 80,000 a mwy o unigolion ar amryw o byst. Nesaf, gweithiom ni gydag undebau myfyrwyr ledled Cymru i greu ymagwedd i sicrhau y siaradodd pob undeb myfyrwyr â phob AS yn bersonol gan fanylu ar effaith sylweddol y ddeddfwriaeth hon ar fyfyrwyr.

Cawson ni wybod fore'r drafodaeth (19 Ionawr) bod modd i ASau Cymru gymryd rhan yn y drafodaeth, ond ni châi eu pleidlais ei chyfrif gydol yr holl benderfyniad, gan fod addysg yn fater datganoledig yng Nghymru. Fel undeb myfyrwyr, buom yn pryderu y byddai hepgor ASau Cymru o'r bleidlais, dan y ddeddfwriaeth newydd Pleidleisiau Lloegr yn Unig, yn cael effaith niweidiol ar ein myfyrwyr. Mae llawer o fyfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn dibynnu ar grantiau cynhaliaeth a ddarperir gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr. Mae'r myfyrwyr hyn yn cael eu cynrychioli gan ASau Cymreig. Cysylltom ni â Siaradwr Ty'r Cyffredin gan fynnu y dylid gwrthdroi'r penderfyniad i hepgor pleidleisiau ASau Cymru. Yn y pen draw, siomedig yw nad oedd modd i'r ASau hyn gyfrannu at gyfrif y bleidlais derfynol.

Cynhaliwyd y drafodaeth o 13:30 heddiw (19 Ionawr) gydag ond dyrnaid o ASau'n bresennol yn Nhy'r Cyffredin i drafod. Bu ein AS lleol, Jo Stevens, yn bresennol ac roedd hi'n gwbl gefnogol o'n hymgyrch. Yn ei haraith, bu hi hyd yn oed yn crybwyll profiadau ein His-lywydd Lles, Kate Delaney, fel rhywun sy'n derbyn grantiau cynhaliaeth. Pan ddaeth y bleidlais, ni phasiwyd y cynnig i ddileu'r Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gwelliant) 2015. Canlyniadau pleidlais ASau'r DU-gyfan oedd 292 o bleidleisiau o blaid a 306 yn erbyn y cynnig, a chanlyniadau'r bleidlais Lloegr-yn-unig oedd 203 o bleidleisiau o blaid a 291 yn erbyn y cynnig. Mae hyn yn golygu, o 1 Medi 2016 ymlaen, ni fydd grantiau cynhaliaeth bellach ar gael i fyfyrwyr presennol na darpar fyfyrwyr o Loegr.

Ein barn ar hyn

Ni allwn ni, fel eich Undeb Myfyrwyr, fynegi pa mor siomedig ydyn ni â'r penderfyniad hwn. Nid yn unig y bydd hwn yn effeithio ar y myfyrwyr tlotaf sy'n dyheu am ddod i'r brifysgol, ond bydd hwn yn gwneud tro gwael â nifer o'n myfyrwyr presennol. Rydym yn anghytuno'n llwyr â'r dull hwn o drin myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yn wahaniaethol.

Yn ystod y diwrnodau nesaf, byddwn yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar yr hyn i'w wneud nesaf. Yn bwysicach oll, byddwn yn gofyn beth allwn ni ei wneud ar eich cyfer chi. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglyn â beth mae'r newidiadau hyn yn ei olygu tra eich bod chi yn y Brifysgol, siaradwch â'ch swyddogion etholedig. Ni yw eich Undeb Myfyrwyr, ac rydym yma i'ch cynorthwyo â phob agwedd o'ch profiad yn y brifysgol.

Oddi wrth eich swyddogion etholedig

Comments

 
dominos