We are immensely proud to announce that your SU has been ranked the UK’s No.2 Students’ Union in the WhatUni Student Choice Awards 2025! This is the fourth consecutive year we’ve achieved 2nd place, and marks a decade of placing in the top 10.
With a student satisfaction score of 94% - our highest ever - and a record number of 5-star reviews, this result makes us the top-ranked Students’ Union in both Wales and Great Britain.
No other Welsh SU, and no other SU across the UK, has maintained such a consistently high ranking over the past four years. Diolch yn fawr Caerdydd - we couldn’t have done it without you!
We also placed 2nd in the Student Life category, which highlights the value students place on everything that happens outside the lecture hall, from extra-curricular activities to the general feel of campus. WhatUni describe this category as giving a full picture of what it’s really like to study somewhere, and we’re proud to see our vibrant, welcoming student community recognised so highly.
A huge congratulations to Queen’s University Belfast Students’ Union, who took the top spot this year, we'll be coming for you next time!
Our team attended the Awards in London on Wednesday 21st May and were ecstatic when the results were announced.
Madison Hutchinson, SU President (2024-25), had this to say:
“I’m so proud that students continue to rate their Students’ Union so highly. This award is a reflection of the passion, energy and care that students bring to everything we do, whether that’s campaigning for change, shaping our services, or building community. Being ranked 2nd in the UK for the fourth year in a row shows just how powerful student-led work can be.”

Having recently celebrated 50 years in our Park Place building, where we looked back on the history of the Students’ Union, this recognition is the perfect cherry on top of the cake to symbolise our success. CSU as an organisation and a physical space for students may be ever changing and evolving, but we maintain a constant purpose, one that has shaped student life for five decades.
Daniel Palmer, Chief Executive of Cardiff SU, added:
“As we mark 50 years in our Park Place building, this recognition feels particularly special. The building may look different today than it did in 1974, but the heart of it has always been the same, a place where students lead, organise, and make lasting memories. We’ve adapted our spaces and services to meet the changing needs of each new generation, and it’s clear from these results that students value what we’ve built together.”
We couldn’t have done it without you, our students! The SU is led and run by students for students, from Elected Officers to student staff and everyone who engages with us as a customer, voter, volunteer or YOLO-goer, thank you! A final special thank you to our incredible career staff team who work tirelessly behind the scenes to deliver exceptional services and experiences all year long.
We strive to provide the best possible student experience for anyone who walks through our doors during their time in Cardiff, and your support and feedback go a long way in helping us improve and achieve incredible milestones like this.
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod eich Undeb Myfyrwyr wedi cael ei restru fel Undeb Myfyrwyr Rhif 2 y DU yng Ngwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni? 2025! Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i ni gyrraedd yr 2il safle, ac mae'n nodi degawd o fod yn y 10 uchaf.
Gyda sgôr boddhad myfyrwyr o 94% - ein sgôr uchaf erioed - yn ogystal â’r nifer uchaf o adolygiadau 5 seren, mae'r canlyniad hwn yn ein gwneud ni'r Undeb Myfyrwyr uchaf ei safle yng Nghymru a Phrydain Fawr.
Nid oes unrhyw UM arall yng Nghymru, nac unrhyw UM arall ledled y DU, wedi cynnal safle mor uchel yn gyson dros y pedair blynedd diwethaf. Diolch yn fawr Caerdydd - ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heboch chi!
Fe wnaethon ni hefyd ddod yn 2il yn y categori Bywyd Myfyrwyr, sy'n tynnu sylw at y gwerth y mae myfyrwyr yn ei roi ar bopeth sy'n digwydd y tu allan i'r neuadd ddarlithio, o weithgareddau allgyrsiol i awyrgylch cyffredinol y campws. Mae WhatUni? yn disgrifio'r categori hwn fel un sy'n rhoi darlun cyflawn o sut beth yw astudio yn rhywle mewn gwirionedd, ac rydym yn falch o weld ein cymuned myfyrwyr fywiog a chroesawgar yn cael cydnabyddiaeth mor uchel.
Llongyfarchiadau mawr i Undeb Myfyrwyr Prifysgol y Frenhines, Belfast, a gipiodd y safle uchaf eleni, byddwn ni'n eich herio’r tro nesaf!
Mynychodd ein tîm y Gwobrau yn Llundain nos Fercher 21ain Mai, ac roeddent wrth eu bodd pan gyhoeddwyd y canlyniadau. Dyma oedd gan Madison Hutchinson, Llywydd Undeb Myfyrwyr (2024-25), i'w ddweud:
“Rwyf mor falch bod myfyrwyr yn parhau i roi sgôr mor uchel i’w Hundeb Myfyrwyr. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o'r angerdd, yr egni a'r gofal y mae myfyrwyr yn eu cynnig i bopeth a wnawn, boed hynny'n ymgyrchu dros newid, llunio ein gwasanaethau, neu adeiladu cymuned. Mae bod yn ail yn y DU am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn dangos pa mor bwerus y gall gwaith dan arweiniad myfyrwyr fod.”

Ar ôl dathlu 50 mlynedd yn ein hadeilad ym Mharc y Plas yn ddiweddar, lle buom yn edrych yn ôl ar hanes Undeb y Myfyrwyr, mae'r gydnabyddiaeth hon yn uchafbwynt i’n llwyddiant. Efallai bod UM Caerdydd fel sefydliad a gofod diriaethol i fyfyrwyr yn newid ac yn esblygu'n barhaus, ond rydym yn cynnal pwrpas cyson, un sydd wedi llunio bywyd myfyrwyr ers pum degawd.
Ychwanegodd Daniel Palmer, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Caerdydd:
“Wrth i ni nodi 50 mlynedd yn ein hadeilad ym Mhlas y Parc, mae'r gydnabyddiaeth hon yn teimlo'n arbennig iawn. Efallai bod yr adeilad yn edrych yn wahanol heddiw nag yr oedd ym 1974, ond mae ei galon wedi bod yr un fath erioed, lle mae myfyrwyr yn arwain, yn trefnu ac yn creu atgofion sy’n para oes. Rydym wedi addasu ein lleoliadau a'n gwasanaethau i ddiwallu anghenion newidiol pob cenhedlaeth newydd, ac mae'n amlwg o'r canlyniadau hyn fod myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r hyn rydym wedi'i adeiladu gyda'n gilydd.”
Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi, ein myfyrwyr! Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei arwain a'i redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, o Swyddogion Etholedig i staff myfyrwyr a phawb sy'n ymwneud â ni fel cwsmer, pleidleisiwr, gwirfoddolwr neu fynychwr YOLO, diolch! Ac i gloi, diolch arbennig i'n tîm staff gyrfa anhygoel sy'n gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i ddarparu gwasanaethau a phrofiadau eithriadol trwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r profiad myfyrwyr gorau posibl i unrhyw un sy'n cerdded trwy ein drysau yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd, ac mae eich cefnogaeth ac adborth yn mynd yn bell i'n helpu i wella a chyflawni cerrig milltir anhygoel fel hyn.