Myfyrwyr wedi cael eu twyllo.

Ein barn ar benderfyniad ddoe i ddileu'r grantiau cynhaliaeth.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Ddoe, cafodd myfyrwyr eu twyllo. O hyn ymlaen, ni fydd myfyrwyr Lloegr yn gallu gwneud cais am grantiau ar gyfer cynhaliaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae grantiau cynhaliaeth wedi cael eu diddymu, yn golygu fod Addysg Uwch hyd yn oed yn fwy anhygyrch. Mae hyn yn Ddeddf drist sy’n rhoi hyd yn oed mwy o ddyled ar fyfyrwyr tlawd.

Yn hytrach na chynnal dadl lawn a phleidlais yn y Senedd, fe wnaeth y pwyllgor ddeddfwriaeth wneud y penderfyniad hwn y tu ôl i ddrysau caeedig. Dim ond 18 o ASau a bleidleisiodd i gael gwared ar grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr Lloegr. Sut y gall unrhyw benderfyniad sy'n effeithio ar filiynau o fyfyrwyr, a’u rhoi mewn dyled sylweddol, gael ei wneud fel hyn? Nid dyma beth yw democratiaeth. Rydym yn annog aelodau o Dy'r Arglwyddi i gymryd ochr y myfyrwyr a rhoi terfyn ar hyn.

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr fel arfer yn graddio gyda hyd at £40,500 o ddyled mewn tair blynedd. Ond i fyfyrwyr sy'n dibynnu ar grantiau cynhaliaeth, bydd hyn yn cynyddu i £53,000 ac fe fyddant yn gorfod ysgwyddo benthyciadau ychwanegol yn lle grantiau.

Mae'r swm hwn o ddyled yn creu rhwystr enfawr i fyfyrwyr gael mynediad at Addysg Uwch. Dylai mynediad i addysg fod yn seiliedig ar allu a pharodrwydd i ddysgu, nid ar gefndir ariannol yr unigolyn. Mae cael gwared ar grantiau cynhaliaeth yn gwahaniaethu yn peryglu gwneud addysg yn anhygyrch i nifer fawr o grwpiau o fyfyrwyr a byddwn yn gwneud ein gorau i frwydro yn erbyn hyn. Rydym yn eich annog i anfon eich sylwadau ar y mater hwn i SUPresident@caerdydd.ac.uk a’ch AS lleol.

Fe wnawn ni’n siwr ein bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Eich Swyddogion Etholedig

Comments

 
default