Diweddariad: Effaith newidiadau i Grantiau Cynhaliaeth

Beth fydd yn digwydd gyda’ch grantiau cynhaliaeth

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Yn dilyn y penderfyniad yr wythnos diwethaf i beidio â darparu grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr o Loegr, gallwn nawr ddarparu rhywfaint o eglurder ychwanegol ar yr effaith y gallai hyn gael ar fyfyrwyr presennol a newydd. Isod, mae rhai o gwestiynau a ofynnir yn aml, a fydd gobeithio’n esbonio sut efallai y bydd hyn yn eich effeithio chi:

Dwi’n fyfyriwr llawn amser sy'n hanu o Loegr (hy, mae fy nghyfeiriad adref yn Lloegr) a:

Dwi’n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Caerdydd a blwyddyn nesaf fe fyddaf yn mynd i fy ail/drydydd/pedwerydd/pumed flwyddyn

Bydd myfyrwyr o Loegr sydd wedi cychwyn cwrs yn y Brifysgol cyn Awst 2016, yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am grantiau cynhaliaeth, yn ogystal â benthyciadau cynhaliaeth a ffioedd dysgu. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar https://www.gov.uk/student-finance/continuing-fulltime-students

Rwyf yn fyfyriwr llawn amser sy’n bwriadu dod i Gaerdydd yn 2016

Ni fydd myfyrwyr o Lloegr sy’n dechrau cwrs newydd yn, neu ar ôl Awst 2016 yn gymwys i ymgeisio am grantiau cynhaliaeth. Bydd benthyciadau ffioedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth a chymorth gyda chostau byw ar gael. Bydd hyd at £8,200 y flwyddyn o fenthyciadau cynhaliaeth ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghaerdydd. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar https://www.gov.uk/student-finance/new-fulltime-students

Dwi’n fyfyriwr o Gymru (h.y., mae fy nghyfeiriad cartref yng Nghymru) ym Mhrifysgol Caerdydd

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau trefniadau cymorth ariannol i Fyfyrwyr Cymru o Awst 2016 ymlaen eto. Gydag etholiadau Llywodraeth Cymru mis Mai 2016, mae'n amhosibl rhagweld pa gymorth ariannol fydd ar gael i fyfyrwyr. 

Nid yw’r penderfyniad a wnaed yn ddiweddar i beidio â darparu grantiau Cynhaliaeth i fyfyrwyr o Loegr yn effeithio ar fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghaerdydd neu mewn sefydliadau eraill yn y DU.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr Cymru ar http://www.studentfinancewales.co.uk/.

Os ydych dal yn ansicr ynghylch y trefniadau ariannu o ran grantiau cynhaliaeth, cysylltwch â Chymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ceir manylion sut y gellir cysylltu â nhw ar http://www.cardiff.ac.uk/studentsupport/

Nid ydym wedi gallu cael eglurder ynghylch grantiau cynhaliaeth ac unrhyw newidiadau a allai effeithio myfyrwyr sydd wedi torri ar draws eu astudiaeth, gohirio neu sydd am gael eu trosglwyddo. Cyn gynted ag y gallwn gadarnhau unrhyw effaith i fyfyrwyr yn y sefyllfaoedd hynny byddwn yn gwneud hynny. Yn yr un modd, wrth i gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr Cymru ddod yn gliriach, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth.

Comments

 
default