Cymorth ariannol i Fyfyrwyr Gofal Iechyd

Gan Tim, safbwynt myfyriwr nyrsio iechyd meddwl.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Gan Tim, safbwynt myfyriwr nyrsio iechyd meddwl. 

Fy enw i yw Tim a dwi’n fyfyriwr nyrsio iechyd meddwl yn fy ail flwyddyn. Efallai nad ydych yn ymwybodol bod myfyrwyr nyrsio, ynghyd â bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill yn derbyn addysg am ddim. Mae ein ffioedd yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn cael bwrsariaeth gan y GIG. Mae £1000 o’r fwrsariaeth hon yn cael ei dalu i bawb ag elfennau pellach ar brawf yn dibynnu ar amgylchiadau personol. Mae myfyrwyr hefyd yn gallu gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth lai.

Mae gan fyfyrwyr gofal iechyd graddau dwys iawn gyda hyd at 40 awr yr wythnos mewn darlithoedd a lleoliadau gwaith lle disgwylir iddynt weithio ar wardiau neu gyda thimau cymuned yn dysgu gan staff clinigol. Gall y dysgu clinigol hwn gyfateb i 2,300 o  oriau gwaith, yn darparu gofal cleifion dros y tair blynedd y radd. Mae hyn yn aml yn golygu gweithio sifftiau hyd at 13 awr, nosweithiau a phenwythnosau yn golygu y gall fod yn anodd ymgymryd â gwaith cyflogedig rheolaidd gan fod hefyd gennym asesiadau academaidd fel myfyrwyr eraill.

Mae’r Llywodraeth wedi cynnig dileu'r cymorth ariannol i fyfyrwyr gofal iechyd yn Lloegr a symud tuag at system o fenthyciadau yn golygu y byddwn yn talu i weithio! Er y gall hwn ymddangos yn rhesymol, yn ein gwneud yn unol â holl fyfyrwyr eraill, mae dros 150,000 wedi llofnodi'r ddeiseb yn gwrthwynebu'r newidiadau hyn!

Er bod y cynigion ond yn effeithio myfyrwyr yn Lloegr, mae Undeb y Myfyrwyr wedi mabwysiadu polisi’n gwrthwynebu newidiadau hyn a byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth Cymru, os ydyn nhw’n dewis dilyn eu hesiampl. Fel aelod o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr rydym yn sefyll gyda chydweithwyr ar draws y wlad i sicrhau tegwch i bawb.

Roeddwn yn ffodus i gael tocyn i fynychu trafodaeth yn y Senedd gydag aelodau o'r Pwyllgor Deisebau Seneddol a gweld y ddadl yn trafod y cynigion. Roeddwn yn gallu siarad a chynrychioli barn myfyrwyr yng Nghymru. Fe wnes i bwysleisio’r effaith y bydd mwy o ddyled yn cael ar fyfyrwyr y dyfodol. Yr effaith fydd, nifer uwch o fyfyrwyr ar ansawdd yr addysg mewn prifysgolion a hefyd ar addysg y gweithwyr proffesiynol presennol yn gallu cynnig eu myfyrwyr ar leoliad gwaith. Rydym i gyd yn gwybod fod addysg yn well mewn grwpiau llai ac, ar gyfer gofal iechyd, bydd addysg waeth yn golygu gofal gwaeth yn rhoi cleifion mewn perygl.

Daeth llawer o bobl i’r ddadl gydag Aelodau Seneddol o'r pleidiau yn amddiffyn y GIG a myfyrwyr gofal iechyd. Roedd digon o edmygedd ar gyfer y gwaith y mae myfyrwyr gofal iechyd yn ei wneud ar leoliadau clinigol a’r ymdrechion y maent yn eu defnyddio i gefnogi staff y gwasanaeth iechyd.

Roedd cytundeb, ymysg ASau a myfyrwyr fod angen gwneud rhywbeth i gynyddu nifer y staff gofal iechyd. Ni fydd dyled o tua £55,000 yn denu pobl i broffesiynau lle mae cwmpas cyfyngedig i ennill cyflogau uchel. Mae angen gwneud rhywbeth ond nid dyma’r ateb.

Un o'r sylwadau mwyaf trawiadol oedd gan Ben Gummer, y Gweinidog sy'n cynrychioli’r Llywodraeth. Awgrymodd bod symud i system benthyciad, sef yr un y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n ei ddefnyddio yn ymestyn y MANTEISION a daeth newidiadau 2012 i fyfyrwyr. Dwi’n gofyn i chi, beth yw'r manteision o ddyled enfawr, dyled y bydd y trethdalwr yn fwy na thebyg yn ei ddileu?

Comments

 
dominos