Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref

Mae ein Llywydd UM yn esbonio sut y mae’r Datganiad Hydref wedi effeithio myfyrwyr.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Mae ein Llywydd UM, Claire Blakeway, yn esbonio sut y mae Datganiad Hydref wedi effeithio myfyrwyr.

Dyma fy ymateb i ddatganiad yr hydref. Mae’r ddogfen hon wedi cael ei gyflwyno i ein AS lleol yn ogystal â’r Brifysgol dros yr wythnosau diwethaf. Yn dilyn penderfyniadau diweddar y llywodraethau i ddiddymu grantiau cynhaliaeth, mae’r ymateb o gwmpas y maes wedi cael ei ddiweddaru a gallwch ei ddarganfod ar ein gwefan.

Cyhoeddodd George Osborne, Canghellor y Trysorlys, y mwyafrif cyntaf o Ddatganiad Hydref y Llywodraeth Geidwadol – a’r Adolygiad Gwariant- ar y 25ain Tachwedd 2015. Roedd y gyllideb hon yn darparu hyd yn oed mwy o bwysau ariannol i fyfyrwyr, yn creu hinsawdd anoddach i fyfyrwyr a’u mynediad i addysg uwch.

 Er gwaethaf y gwrthwynebiad cryf mewn ymgynghoriad diweddar ynghylch newidiadau i ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, bydd y trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn cael eu rhewi ar £21,000, h.y., pan fyddwch yn dechrau ennill £21,000 neu fwy, bydd yn rhaid i chi ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr. NID yw hyn yn unol â chyfartaledd enillion. Unwaith eto, mae hyn yn cosbi myfyrwyr sydd eisoes mewn dyled.  Mae hyn yn newid ôl-weithredol i delerau ac amodau’r cytundeb benthyciadau myfyriwr Mae hyn wir yn bygwth ymddiriedaeth y myfyrwyr yn y llywodraeth a’u system benthyciadau i fyfyrwyr.

Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith enfawr ar holl raddedigion ond yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig sy’n derbyn incwm llai. Mae ymchwil UCM yn dangos fod merched a grwpiau graddedigion duon a lleiafrifoedd ethnigrwydd yn cael eu heffeithio'n anghymesur oherwydd newidiadau hyn yn ogystal.

Fe wnaeth Mr Osborne ailddatgan ei ymrwymiad i ddisodli grantiau cynhaliaeth gyda benthyciadau. Mae cael gwared ar grantiau o'r fath yn creu hyd yn oed fwy o rwystrau i fyfyrwyr gael mynediad at addysg uwch. Dylai mynediad i addysg fod yn seiliedig ar allu academaidd a pharodrwydd i ddysgu’n unig, nid ar gefndir ariannol yr unigolyn. Mae'r risgiau hyn yn gwneud addysg yn gwbl anhygyrch i grwpiau mawr o fyfyrwyr a’n annog myfyrwyr i hyd yn oed ystyried addysg brifysgol. Mae'n gwbl annheg i'r myfyrwyr hyn ddioddef a gadael y brifysgol â dyled hyd yn oed yn fwy!

Mae newidiadau arfaethedig y Llywodraeth i ddileu'r bwrsariaethau GIG yn Lloegr hefyd yn peri pryder mawr. Os yw’r newidiadau hyn yn mynd yn ei flaen, fe fydd yn cael effaith uniongyrchol ar weithle’r GIG yn y dyfodol gyda llai o bobl yn cael eu denu tuag at yrfa gofal iechyd, a mwy o fyfyrwyr yn ystyried y baich ariannol sy’n gysylltiedig â’r costau ychwanegol a ddaw yn sgìl y newidiadau hyn.  Bydd y cyllid ychwanegol yn achosi cynnydd pellach yn y nifer o Nyrsiai, Bydwreigiaeth a gwasanaethau gofal iechyd cysylltiedig sydd yn tynnu yn ôl, sydd eisoes yn uchel oherwydd y pwysau ariannol y mae myfyrwyr yn wynebu wrth gychwyn eu cyrsiau. Mae Katey Beggan, Is-Lywydd Parc y Mynydd Bychan, wedi creu dau lythyr agored gan nodi pryderon a gwrthwynebiad Undeb y Myfyrwyr a fydd yn cael eu danfon at Weinidogion perthnasol y Llywodraethau.

Ar hyn o bryd, bydd y newidiadau arfaethedig ond gymwys i fyfyrwyr sydd yn astudio yn Lloegr. Fodd bynnag, fel sy’n dod yn fwy aml, os bydd y newidiadau yma’n digwydd yn Lloegr, bydd Llywodraeth Cymru fwy na thebyg yn dilyn. Oherwydd y rhesymau hyn, mae Undeb y Myfyrwyr yn gwrthwynebu’r newidiadau ynghylch ariannu a argymhellwyd i addysg uwch ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd, a wnaed gan y Trysorlys. 

Mae'r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi toriadau i Gronfa Cyfleoedd i Fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu y bydd gan fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a thlotach llai o siawns o fynd i brifysgol a mewn fwy o berygl o roi'r gorau i Brifysgol. Unwaith eto, mae hyn yn gwneud addysg hyd yn oed yn llai hygyrch ar gyfer grwp sydd eisoes yn agored i niwed.

Ar nodyn mwy positif, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddant yn ymestyn benthyciadau cyrsiau ôl-raddedig a addysgir a chodi’r cap oedran arfaethedig i 60 oed. Mae hyn yn gwneud addysg ôl-raddedig yn llawer mwy hygyrch.

Mae’r newyddion sy’n dod yn sgil y toriadau diweddar yn codi pryder mawr ac rydym ni, ar y cyd â UCM yn mynnu gweithred drwy’r ymgyrch #CutTheCosts. Mae'n siomedig fod y Llywodraeth yn amlwg yn anwybyddu lleisiau myfyrwyr ar hyn o bryd. Byddwn yn ymgyrchu ymhellach drwy’r ymgyrch #CutTheCosts yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn gwahodd ein AS lleol, Jo Stevens, ar y campws fel y gall myfyrwyr leisio’u pryderon yn uniongyrchol wrth Jo. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu gymryd rhan yn yr ymgyrch cysylltwch â ni drwy e-bostio SUpresident@caerdydd.ac.uk

Claire Blakeway

Llywydd Undeb Myfyrwyr 

Comments

 
dominos