AGM 2019 | CCB 2019

Results of AGM 2019 | Canlyniadau'r CCB 2019

No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Our Annual General Meeting took place on Thursday 21st November. Below you will find a summary of the results of that meeting. For each motion, the 'AGM Resolves' section is included below, along with details of whether the motion passed or fell, and any actions that will take place in the future. Officers are mandated to work on the motions that passed and will keep students informed on progress.

President Jackie Yip has commented:

‘Thank you to everyone who attended AGM last night, I am so proud of everyone involved and those who spoke so passionately on the stage. There were some really exciting and lively debates so I hope that students are proud to have been involved. The Union are excited to work on our mandates and there is a lot to do.

My door is always open so if you have any queries please email me. On a final note I urge you to remember that there are only a few days register for the General Election – remember Don’t Let Your Voice Be Silence!’

Minutes

Minutes from AGM 2018 were: Approved

Submitted items

Memorandum and Articles of Association – administrative changes were:  Approved

The Sabbatical Officer Review

Numbers of Votes cast 434, therefore the threshold required for approval of any option was 217 (50% of the votes cast)

Option C: has the most number of votes at 335.

We appreciate that not all students will be happy with the result of the officer review. However, the Students’ Union provided options for the creation of a full-time Welsh Language Officer in the spirit of the motion that was approved by AGM last year.  Option C also proposes a further review of how Welsh Language can be embedded across the Students' Union’s activities.

 

The 2020/2021 sabbatical officer team will consist of:

• Students’ Union President

• Vice President Societies & Volunteering

• Vice President Sport & Athletic Union President

• Vice President Heath Park

• Vice President Postgraduate Students

• Vice President Education

• Vice President Welfare & Campaigns

Nominations for these positions and the campaign officer positions will open Monday 2 December at midday.

As part of this option being approved the Students’ Union will review the positions in place and the decision-making mechanisms the students’ union to review how representation of Welsh speakers and learners can be enhanced. It will be a year-long review that focuses on engaging Welsh speakers and learners and understanding their needs through active consultation. The students’ union will hope to launch its plan for the review soon.

Affiliations

Affiliations to British Universities and Colleges Sports and National Union of Students were: Approved

Motions

Policies last for 3 years, several policies were lapsing this year after passing three years ago. Some policies were brought back to AGM for them to be re-affirmed.

Lapsed policies:

  • Mental Health Campaign Officer – Please note: this officer will still exist
  • Challenge don’t censor
  • Being a Zero Tolerance Union
  • Periods in Poverty

Motion 1: Make Cardiff University Students’ Union a Living Wage Employer: Approved

AGM Resolves:

  1. That Cardiff Students’ Union applies to the Living Wage Foundation for Living Wage accreditation as soon as the necessary steps are taken.
  2. That all current and newly employed staff at Cardiff University Students’ Union are given a Living Wage of at least £9.30 per hour  within the next three academic years in accordance with the Living Wage Campaign.
  3. To ensure that there are no cuts to Mental Health services as a result of the implementation of the Real Living Wage.
  4. That Cardiff University Students’ Union immediately start planning to employ all on site contractors with the Living Wage within the next three academic years. 

Motion 2: A commitment to tackling institutional racism at Cardiff: Approved

AGM Resolves:

  1. The University to publicly acknowledge its duty to act on these findings and commit to finding solutions.
  2. To call on the University to release a public statement to the ECHR report, outlining what response is being taken and a commitment to timescales for implementing recommendations.
  3. The Students’ Union to work with the University to find solutions and implement changes at Cardiff, ensuring student voices are heard in developing the next steps.
  4. The Students’ Union to work with the National Union of Students Wales to lobby Higher Education Funding Council Wales (HEFCW) to ensure the recommendation from this report is acted upon and clear expectations are set on Universities from the funding body.

Motion 3: UCU Strike Action: Approved

AGM Resolves

  1. To mandate elected officers to stand in solidarity with UCU and publish a public statement of support for 2018/19 action, before the 25th November
  2. To mandate the elected officers to work with UCU and encourage the university to meet the demands of the union regarding the Four Fights and pensions
  3. To mandate the elected officers to give UCU a communication platform with students online and offline to raise awareness about the UCU strike and demands
  4. The Students’ Union should work with UCU to facilitate and promote ‘Teach Out’ sessions for students during the strike period
  5. The Students’ Union should lobby the University for fee reimbursements for any lost contact hours.
  6. The Vice President Postgraduate Students will encourage PGR students who teach, that want to support the strike, to join UCU and apply to the UCU Strike fund – a fund that subsidises lost income for those that strike.
  7. The Vice President Postgraduate will encourage students to support and engage with staff at rallies and on the picket lines

Motion 4: Radical Environmental Policy: Approved

AGM Resolves:

  1. That Cardiff University Students’ Union must create and begin distributing a ‘Tell the Truth’ campaign about the climate and ecological crises on campus by the end of the next academic term. This must be actioned by at least the VP Welfare, VP Education and Ethical and Environmental Officer, and be done in collaboration with interested campaigning groups and environmental groups such as Extinction Rebellion Cardiff Students.
  2. That the Students’ Union, through those elected officers and collaborative groups, must lobby the University to communicate the truth about these crises to students by the end of the next academic term.
  3. That the Students’ Union must commit to both halting any biodiversity loss in its actions and a carbon net zero target of 2025. These commitments must be added to the Students’ Union’s environmental policy immediately.
  4. That the Students’ Union must lobby the University to commit immediately, in its environmental policy, to halting any biodiversity loss in its actions and to a carbon net zero target of 2025.

Motion 5: Adopt an official pro-choice stance: Approved

AGM Resolves
  1. Cardiff University Students’ Union will publicly announce their stance as pro-choice and clearly state on the CUSU “Pregnancy Support” webpage and any other applicable webpages such as in the “Policy” webpage.
  2. Changing the pregnancy and abortion related terminology throughout the Students’ Union to make it unbiased and medically accurate. For example, on the CUSU “Pregnancy Support” webpage referring to a “foetus” at 13-weeks, instead of a “baby”.
  3. Addition of links to unbiased, medically accurate, academically referenced and up-to-date information regarding pregnancy and abortion on the CUSU website.
  4. Up-to-date information on pregnancy, abortion and where to seek medical help on the back of the SU toilet stall doors to ensure students in abusive relationships can also access the information.
  5. The VP of Welfare and Campaigns will be responsible for ensuring that the Students’ Union campaigns and strategies support the pro-choice stance to provide an equal, safe and inclusive environment for students.
  6. The VP of Welfare and Campaigns, in collaboration with the Mental Health, Women’s and LGBT+ officers, will create a pro-choice awareness campaign that highlights the importance of access to safe and legal abortion using statistically and/or medically backed information.
  7. The VP of Societies and Volunteering will be responsible for ensuring that Students’ Union affiliated societies do not spread misinformation about abortion and pregnancy nor participate in activities against SU policy.
  8. The Students’ Union and Cardiff University should work together to ensure that students understand their rights to bodily autonomy and abortion.
 

Canlyniadau’r CCB

Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 21ain Tachwedd. Isod fe welwch grynodeb o ganlyniadau'r cyfarfod hwnnw. Ar gyfer bob cynnig, caiff yr adran ‘Penderfyna’r CCB’ ei gynnwys isod, ynghyd â manylion ar os pasiodd/ methodd y cynnig, ac unrhyw weithredu a ymgymerir yn y dyfodol. Caiff Swyddogion eu mandadu i weithio ar y cynigion a gaiff eu pasio a  chadw myfyrwyr wedi eu hysbysu ar ddatblygiadau.

Mae’r Llywydd, Jackie Yip wedi gwneud sylw:

‘Diolch i bawb a oedd yn bresennol yn y CCB neithiwr, rydw i’n hynod falch o bawb a gymerodd ran a’r rheiny a siaradodd mor angerddol ar y llwyfan. Bu llawer o ddadleuon cyffrous a thanllyd felly rydw i’n gobeithio bod myfyrwyr yn falch eu bod wedi cymryd rhan. Mae’r Undeb yn edrych ymlaen at weithio ar ein mandadau ac mae llawer i’w wneud.

Rydw i wastad yn hapus i drafod felly os oes gennych chi unrhyw ymholiadau e-bostiwch fi. Ar nodyn olaf rydw i’n eich cymell chi i gofio mai dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i chi gofrestru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol - cofiwch Peidiwch â Gadael i’ch Llais Gael ei Dawelu!’

Cofnodion

Cafodd Cofnodion CCB 2018 eu: Cymeradwyo

Eitemau a Gyflwynwyd

Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu - cafodd newidiadau gweinyddol eu:  Cymeradwyo

Adolygiad Swyddogion Sabothol

Nifer y pleidleisiau a fwriwyd oedd 434, felly y trothwy gofynnol ar gyfer cymeradwyo unrhyw opsiwn oedd 217 (50% o’r pleidleisiau a fwriwyd)

Opsiwn C: sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau gyda 335.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi na fydd pob myfyriwr yn hapus â chanlyniad yr adolygiad swyddogion. Fodd bynnag, fe ddarparodd Undeb y Myfyrwyr opsiynau ar gyfer creu Swyddog Iaith Gymraeg llawn amser yn ysbryd y cynnig a gafodd ei gymeradwyo gan y CCB llynedd.  Mae Opsiwn C hefyd yn cynnig adolygiad pellach o’r ffordd y gall yr Iaith Gymraeg gael ei fewnosod ymhellach ar draws weithgareddau'r Undeb.

Bydd tîm swyddogion sabothol 2020/2021 yn cynnwys:

• Llywydd Undeb y Myfyrwyr

• Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli

• Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletaidd

• Is-lywydd Parc y Mynydd Bychan

• Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig

• Is-lywydd Addysg

• Is-lywydd Lles ac Ymgyrchoedd

Bydd enwebiadau ar gyfer y safleoedd hyn a’r swyddogion ymgyrch yn agor Ddydd Llun 2 Rhagfur am hanner dydd.

O ganlyniad i’r opsiwn hwn yn cael ei gymeradwyo, bydd Undeb y Myfyrwyr yn adolygu'r swyddi sy’n bodoli ar hyn o bryd a'r mecanweithiau ar gyfer gwneud penderfyniadau, bydd Undeb y Myfyrwyr yn adolygu sut gellir gwella cynrychiolaeth ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Bydd yn adolygiad blwyddyn o hyd a fydd yn ffocysu ar ymgysylltu â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg a deall eu hanghenion drwy ymgynghori taer. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio lansio eu cynllun ar gyfer yr adolygiad yn fuan.

Ymlyniadau

Cafodd ymlyniadau i Chwaraeon Prifysgolion Prydeinig a Cholegau Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eu: Cymeradwyo

Cynigion

Mae polisïau yn para 3 blynedd, roedd sawl polisi yn darfod eleni wedi iddynt gael eu pasio tair blynedd yn ôl. Daeth rhai polisïau yn ôl i’r CCB er mwyn cael eu hailddatgan.

Polisïau a oedd yn darfod:

  • Swyddog Ymgyrch Iechyd Meddwl - Noder: bydd y swyddog hwn yn parhau mewn bodolaeth
  • Herio nid Sensro
  • Bod yn Undeb Dim Goddefgarwch
  • Misglwyf mewn Tlodi

Cynnig 1: Gwneud Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Gyflogwr Cyflog Byw: Cymeradwywyd

Penderfyna’r CCB:

  1. Fod Undeb y Myfyrwyr Caerdydd yn gwneud cais i’r Sefydliad Cyflog Byw am achrediad Cyflog Byw cyn gynted a gaiff y camau angenrheidiol eu cymryd.
  2. Bod holl staff presennol a newydd a gaiff eu cyflogi gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn derbyn cyflog byw o leiaf £9.30 yr awr o fewn y tair blynedd academaidd nesaf i gyfateb a’r Ymgyrch Cyflog Byw.
  3. I sicrhau nad fydd unrhyw doriadau i wasanaethau Iechyd Meddwl o ganlyniad i gyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
  4. Bod Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynllunio yn syth, i gyflogi yr holl gontractwyr ar y safle gyda’r Cyflog Byw o fewn y tair blynedd academaidd nesaf. 

Cynnig 2: Ymrwymiad i fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol yng Nghaerdydd: Cymeradwywyd

Penderfyna’r CCB:

  1. Dylai’r Brifysgol gydnabod yn gyhoeddus eu dyletswydd i weithredu ar y canfyddiadau hyn a bod yn ymroddedig i ganfod datrysiadau.
  2. I alw ar y Brifysgol i ryddhau datganiad cyhoeddus i’r adroddiad ECHR, yn amlinellu pa ymateb sy’n cael ei wneud ac ymrwymiad i amserlen i weithredu’r awgrymiadau.
  3. Undeb y Myfyrwyr i weithio gyda’r Brifysgol i ddarganfod atebion a rhoi newidiadau mewn grym, gan sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed wrth ddatblygu’r camau nesaf.
  4. Undeb y Myfyrwyr i weithio gydag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i lobio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i sicrhau’r argymhelliad o’r adroddiad hwn yn cael ei weithredu a disgwyliadau clir yn cael eu rhoi ar Brifysgolion gan y corff cyllido.

Cynnig 3: Gweithredu Diwydiannol UCU: Cymeradwywyd

Penderfyna’r CCB:

  1. I fandadu swyddogion etholedig i sefyll mewn undod gyda UCU a chyhoeddi datganiad cyhoeddus o gefnogaeth dros weithredu 2018/19, cyn 25ain Tachwedd.
  2. I fandadu’r swyddogion etholedig i weithio gydag UCU ac i annog y Brifysgol i gwrdd â gofynion yr Undeb yn ymwneud â’r ‘Four Fights’ a phensiynau 
  3. I fandadu y swyddogion etholedig i roi llwyfan cyfathrebu i UCU gyda myfyrwyr ar-lein ac oddi ar y we i godi ymwybyddiaeth ynglyn â’r streic a gofynion UCU
  4. Dylai Undeb y Myfyrwyr weithio gyda UCU i hwyluso a hyrwyddo sesiynau ‘Teach-Out’ i fyfyrwyr yn ystod cyfnod y streic
  5. Dylai Undeb y Myfyrwyr lobio’r Brifysgol i gael ad-daliad ffi am unrhyw oriau cyswllt a gaiff eu colli.
  6. Bydd Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig yn annog myfyrwyr ÔRY sy’n addysgu, sydd eisiau cefnogi’r streic, i ymuno â UCU ac i wneud cais i’r gronfa Streic UCU - cronfa sy’n rhoi cymhorthdal am incwm a gollwyd i’r rheiny sy’n streicio.
  7. Bydd Is-lywydd Ôl-raddedig yn annog myfyrwyr sy’n cefnogi’r streic i gefnogi ac ymgysylltu gyda staff mewn ralïau ac ar y llinell biced

Cynnig 4: Polisi Amgylcheddol Radical: Cymeradwywyd

Penderfyna’r CCB:

  1. Mae’n rhaid i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd greu a dechrau lledaenu ymgyrch ‘Dweud y Gwir’ ynglyn â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol ar y campws erbyn diwedd y tymor academaidd nesaf. Mae angen hyn gael ei weithredu gan o leiaf IL Lles, IL Addysg a Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol, a hynny ar y cyd gyda grwpiau ymgyrchu ac amgylcheddol sydd â diddordeb megis Extinction Rebellion Myfyrwyr Caerdydd.
  2. Y mae’n rhaid i Undeb y Myfyrwyr, drwy’r swyddogion etholedig a grwpiau cydweithredol hynny, lobio’r Brifysgol i gyfathrebu’r gwir am yr argyfyngau hyn i fyfyrwyr erbyn diwedd y tymor academaidd nesaf.
  3. Mae’n rhaid i Undeb y Myfyrwyr ymrwymo i roi’r gorau i unrhyw golled bioamrywiaeth yn ei weithredoedd a tharged o ddim carbon net erbyn 2025. Mae’n rhaid i’r ymrwymiadau hyn gael eu hychwanegu i bolisi amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr ar unwaith.
  4. Mae angen i Undeb y Myfyrwyr lobio’r Brifysgol i ymrwymo ar unwaith, yn ei bolisi amgylcheddol, i roi terfyn ar unrhyw golled fioamrywiaeth yn ei weithredoedd ac i ychwanegu at darged o gyflawni dim carbon net erbyn 2025.

Cynnig 5: Mabwysiadu safiad swyddogol o blaid dewis (pro-choice): Cymeradwywyd

Penderfyna’r CCB:

  1. Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi yn gyhoeddus eu safiad o blaid dewis ac yn datgan yn glir ar dudalen gwe “Cefnogaeth Beichiogrwydd” UMPC ac unrhyw dudalennau gwe perthnasol eraill megis yn nhudalen gwe “Polisi”.
  2. Newid terminoleg berthnasol i feichiogrwydd ac erthylu drwy gydol Undeb y Myfyrwyr er mwyn ei wneud yn ddiduedd ac yn feddygol gywir. Er enghraifft, ar dudalen gwe “Cefnogaeth Beichiogrwydd” UMPC cyfeirio at “ffoetws” ar 13-wythnos yn hytrach na “babi”.
  3. Ychwanegu dolenni at wybodaeth ddi-duedd, feddygol gywir, wedi ei gyfeirnodi yn academaidd a chyfoes yn ymwneud â beichiogrwydd ac erthylu ar wefan UMPC.
  4. Gwybodaeth gyfoes ar feichiogrwydd, erthylu a lle i gael cymorth meddygol ar gefnau drysau toiledau yr Undeb i sicrhau bod myfyrwyr mewn perthynas dreisgar hefyd yn gallu cyrchu gwybodaeth.
  5. Bydd IL Lles ac Ymgyrchoedd yn gyfrifol dros sicrhau bod ymgyrchoedd a strategaethau Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi safiad o blaid dewis i ddarparu amgylchedd gyfartal, diogel a chynhwysol i fyfyrwyr.
  6. Bydd IL Lles ac Ymgyrchoedd, gan gydweithio â swyddogion Iechyd Meddwl, Merched a LGBT+, yn creu ymgyrch ymwybyddiaeth o blaid dewis sy’n pwysleisio pwysigrwydd cyrchu erthyliad diogel a chyfreithlon gan ddefnyddio gwybodaeth wedi ei gefnogi gan ystadegau a neu wybodaeth feddygol.
  7. Bydd IL Cymdeithas a Gwirfoddoli yn gyfrifol am sicrhau nad yw cymdeithasau sydd wedi eu hymlynu at Undeb y Myfyrwyr yn lledaenu gwybodaeth anghywir am erthylu a beichiogrwydd nac yn ymgymryd mewn gweithgareddau yn erbyn polisi yr Undeb.
  8. Dylai Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd gydweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn deall eu hawliau i ymreolaeth gorfforol ac erthyliad.

 

 

 

Comments

 
dominos