What Students should check before renting | Yr Hyn y Dylai Myfyrwyr ei Wirio Cyn Rhentu

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Hi all, I’m Mohamed Abdelsamad, and I support estranged students through my work with the Students’ Union as your Estranged Students' Officer. This guide is also shaped by my own experience of renting in the private sector for the first time, where looking for contracts, guarantor requirements, and household bills felt confusing and easy to get wrong. 

If you’d like to get in touch, you can follow me on Instagram at @esofficercsuor email me at [email protected] 

Through my role, I’ve seen that many students — not only estranged students — face similar challenges when moving into private accommodation often without knowing what to check or what questions to ask. Sure, it gives you more independence, but it also comes with extra responsibilities. I’ve put this guide together to share practical advice based on mistakes I made myself, and things I wish I had known earlier. 

1. Check guarantor requirements before you apply 

Many landlords in the UK require a guarantor, but not all guarantors are accepted. 

What most landlords want: 

  • A UK-based guarantor
  • Someone who is employed, home-owning, and able to cover rent if you default

Important things to know: 

  • Private company guarantors (rent guarantor companies) are often not accepted
  • Student guarantor schemes may be accepted, but only if the landlord agrees
  • In most cases, the guarantor must be an individual, not a company

 

2. Take photos the moment you arrive 

This step can save you hundreds of pounds later.  

What to photograph: 

  • Gas meter reading
  • Electricity meter reading
  • Water meter (if accessible)
  • Every room: walls, floors & furniture
  • Appliances
  • Existing marks, stains or damage

Take clear, timestamped photos on day one.  

Why this matters: 

  • Prevents overpaying of utility bills
  • Protects your deposit when you move out
  • Helps prove damage existed before you moved in

 

3. Bundle your bills (It can save time & money) 

Unlike student accommodation, bills are usually not included in private rentals. 

Some companies offer bill bundles covering: 

  • Electricity
  • Gas
  • Water
  • Internet

These can be helpful if: 

  • You're sharing with others
  • You want predictable monthly costs
  • You don't want to manage multiple providers

Be careful with energy & water usage 

 

4. Be careful with energy & water usage 

This is a big adjustment if you’re used to halls. 

Remember: 

  • You now pay for every unit you use
  • Long showers, heaters left on, and tumble dryers add up fast
  • Winter bills can be much higher than expected

Tips: 

  • Turn off lights when not in use
  • Avoid leaving the heating on all day
  • Use energy-efficient settings where possible

 

5. Read the contract — especially these sections 

Before signing, double-check: 

  • Break clause (can you leave early?)
  • Rent review clauses
  • Who pays for repairs
  • Rules on subletting or guests

If something feels unclear, ask. Never assume. 

Student Advice offer a free contract checking service. Please email a copy of your contract to [email protected].

 

6. Get everything in writing 

Verbal promises don't protect you 

Always get confirmation for: 

  • Rent amount
  • Bills included/excluded
  • Repairs
  • Guarantor acceptance
  • Move-in conditions

Emails or messages are enough — just make sure you keep them. 

Helo bawb, Mohamed Abdelsamad ydw i, ac rwy'n cefnogi myfyrwyr sydd wedi’i ymddieithrio trwy fy ngwaith gydag Undeb y Myfyrwyr fel Swyddog Myfyrwyr sydd wedi’i Ymddieithrio. Mae'r canllaw hwn hefyd wedi'i lunio gan fy mhrofiad fy hun o rentu yn y sector preifat am y tro cyntaf, lle roedd chwilio am gontractau, gofynion gwarantwr, a biliau cartref yn teimlo'n ddryslyd ac yn hawdd cael yn anghywir. 

Os hoffech gysylltu, gallwch fy nilyn ar Instagram ar @esofficercsu neu anfon e-bost ataf ar [email protected]

TTrwy fy rôl, rwyf wedi gweld bod llawer o fyfyrwyr - nid myfyrwyr sydd wedi’i ymddieithrio yn unig - yn wynebu heriau tebyg wrth symud i lety preifat yn aml heb wybod beth i'w wirio neu ba gwestiynau i'w gofyn. Yn sicr, mae'n rhoi mwy o annibyniaeth i chi, ond mae hefyd yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol. Rwyf wedi rhoi'r canllaw hwn at ei gilydd i rannu cyngor ymarferol yn seiliedig ar gamgymeriadau a wnes i fy hun, a phethau yr hoffwn pe bawn i wedi'u gwybod yn gynharach. 

1. Gwiriwch ofynion y gwarantwr cyn i chi wneud cais 

Mae llawer o landlordiaid yn y DU angen gwarantwr, ond nid yw pob gwarantwr yn cael ei dderbyn. 

Yr hyn y mae'r rhan fwyaf o landlordiaid ei eisiau: 

  • Gwarantwr yn y DU
  • Rhywun sy’n gyflogedig, yn berchen ar dŷ, ac yn gallu talu rhent os byddwch yn methu â thalu

Pethau pwysig i'w gwybod: 

  • Yn aml, ni dderbynnir gwarantwyr cwmnïau preifat (cwmnïau gwarantwr rhent)
  • Gellir derbyn cynlluniau gwarantwr myfyrwyr, ond dim ond os yw'r landlord yn cytuno
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i'r gwarantwr fod yn unigolyn, nid yn gwmni

 

2. Tynnwch luniau'r funud y byddwch yn cyrraedd 

Gall y cam hwn arbed cannoedd o bunnoedd i chi yn hwyrach. 

Beth i dynnu llun ohono: 

  • Darlleniad mesurydd nwy
  • Darlleniad mesurydd trydan
  • Mesurydd dŵr (os yw’n hygyrch)
  • Pob ystafell, waliau, lloriau, dodrefn
  • Offer
  • o Marciau, staeniau neu ddifrod presennol

Tynnwch luniau clir, gyda timestamps ar y diwrnod cyntaf. 

Pam mae hyn yn bwysig: 

  • Mae’n atal gor-dalu biliau cyfleustodau
  • Mae’n amddiffyn eich blaendal pan fyddwch chi'n symud allan
  • Mae’n helpu i brofi bod difrod wedi bodoli cyn i chi symud i mewn

 

3. Talwch eich biliau mewn un bwndel (Gall arbed amser ac arian) 

Yn wahanol i lety myfyrwyr, nid yw biliau fel arfer wedi'u cynnwys mewn rhenti preifat. 

Mae rhai cwmnïau'n cynnig bwndeli biliau sy'n cwmpasu:

  • Trydan
  • Nwy
  • Dŵr
  • Rhyngrwyd

Gall y rhain fod yn ddefnyddiol os: 

  • Rydych chi'n rhannu gydag eraill
  • Rydych chi eisiau costau misol rhagweladwy
  • Nid ydych chi eisiau rheoli darparwyr lluosog

Cymharwch brisiau bob amser — mae bwndeli'n gyfleus, ond nid bob amser y rhataf. 

 

4. Byddwch yn ofalus gyda defnydd ynni a dŵr 

Mae hwn yn addasiad mawr os ydych chi wedi arfer â neuaddau. 

Cofiwch: 

  • Rydych chi nawr yn talu am bob uned rydych chi'n ei defnyddio
  • Mae cawodydd hir, gwresogyddion wedi'u gadael ymlaen, a sychwyr dillad yn cronni'n gyflym
  • Gall biliau'r gaeaf fod yn llawer uwch nag y disgwylir

Awgrymiadau: 

  • Diffoddwch oleuadau ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • Osgowch adael y gwres ymlaen drwy'r dydd
  • Defnyddiwch osodiadau sy'n effeithlon o ran ynni lle bo modd

 

5. Darllenwch y contract — yn enwedig yr adrannau hyn 

Cyn llofnodi, gwiriwch ddwywaith: 

  • Cymal torri (allwch chi adael yn gynnar?)
  • Cymalau adolygu rhent
  • Pwy sy'n talu am atgyweiriadau
  • Rheolau ar is-osod neu westeion

Os yw rhywbeth yn teimlo'n aneglur, gofynnwch. Peidiwch byth â thybio. 

Mae Cyngor Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth gwirio contractau am ddim. Anfonwch gopi o'ch contract drwy e-bost at [email protected] 

 

6. Cael popeth mewn ysgrifen 

Nid yw addewidion ar lafar yn eich amddiffyn chi. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cadarnhad ar gyfer: 

  • Swm y rhent
  • Biliau wedi'u cynnwys/eu heithrio
  • Atgyweiriadau
  • Derbyniad gwarantwr
  • Amodau symud i mewn

Mae e-byst neu negeseuon yn ddigon — gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cadw. 

Comments