Student Views 2025/26: Your Feedback in Action | Safbwynt y Myfyrwyr 2025/26: Eich Adborth ar Waith

normal
No ratings yet. Log in to rate.

Every year, we gather feedback from thousands of students through Speak Week, Student Staff Panels, College Forums, conversations with your elected representatives, and much more. That feedback helps us identify the biggest issues affecting students and forms the basis of our annual Student Views 

The Student Views are written by our Sabbatical Officers and provide evidence-based recommendations to Cardiff University on how the student experience can be improved. Once submitted, each Student View is assigned to a working group made up of University staff and Students’ Union representatives, who work throughout the following academic year to explore and implement the recommendations.

This year, four reports have been submitted covering some of the most significant issues students have faced during the 2025/26 academic year.

 

The Student View on Timetabling 

This year’s timetabling issues were one of the most widely raised concerns across the University. Students reported delays to timetable releases, last-minute room changes, long gaps between classes, accessibility barriers, and assessment deadlines being clustered together. Many students explained that these issues affected not only their studies but also their ability to work, travel, manage caring responsibilities and plan their lives outside university.

The report calls for a new "Student Success First" approach to timetabling, including earlier timetable publication, protected reading weeks, better assessment scheduling, improved technology, and timetables that better reflect students’ academic and wellbeing needs.

 

The Student View on Hybs 

Hybs were introduced to create more localised student support spaces across the University. However, feedback showed that many students remain unclear about what a Hyb is, what support it provides and how it differs from the previous reception services. Experiences also varied significantly depending on the school or location.

Students highlighted concerns around inconsistent support, limited study spaces, affordability of food and difficulties accessing specialist services. The report recommends creating a more consistent and clearly defined Hyb model across campus, with improved student support, affordable food options, better study facilities, and stronger opportunities for building community and belonging.

 

The Student View on PGR Teaching Opportunities 

Postgraduate Research (PGR) students play a vital role in delivering teaching across Cardiff University. Feedback from undergraduate students, academic staff and PGRs themselves showed overwhelming support for these teaching opportunities and recognised their importance for both undergraduate learning and postgraduate professional development.

However, ongoing institutional changes have created uncertainty around the teaching opportunities, training, financial stability and access to appropriate working spaces for PGRs. The report calls for the protection of PGR teaching opportunities, improved training and induction processes, better communication, stronger support for new tutors, and the overall protection of PGR office spaces and research communities.

 

Executive Summary & Unresolved Issues 

Alongside the three topic-specific reports, the Sabbatical Officer Team also produced an Executive Summary examining the progress made on previous Student Views and highlighting issues that students continue to raise year after year.

 

The report identifies five key areas where students are still seeking change:

  • Accessibility of services, buildings and learning resources.
  • Communication and transparency from the University.
  • Student support, including wellbeing services and Extenuating Circumstances.
  • Teaching quality, lecture recordings, and assessment practices.
  • Transport between campuses, accommodation sites, and placement locations.

The report recognises areas where progress has been made while highlighting concerns that remain unresolved.

 

What Happens Next? 

These reports represent the voices of thousands of Cardiff University students. They are now being formally considered by the University, with dedicated working groups bringing together Students’ Union representatives and University staff to review the recommendations and develop actions for the year ahead.

Thank you to every student who shared their experiences throughout the year. Whether you completed a Speak Week card, spoke to your Student Academic Representative, attended a forum or contacted an Officer directly, your feedback has helped shape these Student Views and will continue to influence positive change across Cardiff University.

Bob blwyddyn, rydym yn casglu adborth gan filoedd o fyfyrwyr drwy’r Wythnos Siarad, Paneli Staff Myfyrwyr, Fforymau Coleg, sgyrsiau gyda’ch cynrychiolwyr etholedig, a llawer mwy. Mae’r adborth hwnnw’n ein helpu i nodi’r materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr fwyaf ac sy’n ffurfio sail ein Safbwynt y Myfyrwyr blynyddol. 

Mae Safbwynt y Myfyrwyr wedi’i hysgrifennu gan ein Swyddogion Sabothol ac yn darparu argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i Brifysgol Caerdydd ar sut y gellir gwella profiad y myfyrwyr. Ar ôl ei gyflwyno, caiff pob Safbwynt Myfyriwr ei neilltuo i grŵp gwaith sy’n cynnwys staff y Brifysgol a chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn gweithio drwy gydol y flwyddyn academaidd ganlynol i archwilio a gweithredu'r argymhellion.

Eleni, cyflwynwyd pedwar adroddiad yn ymdrin â rhai o'r materion mwyaf arwyddocaol y mae myfyrwyr wedi'u hwynebu yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26.

 

Safbwynt y Myfyrwyr ar Amserlennu 

Roedd problemau amserlennu eleni yn un o'r pryderon a godwyd amlaf ar draws y Brifysgol. Adroddodd myfyrwyr am oedi wrth ryddhau amserlenni, newidiadau ystafelloedd munud olaf, bylchau hir rhwng dosbarthiadau, rhwystrau hygyrchedd, a therfynau amser asesu agos at ei gilydd. Esboniodd llawer o fyfyrwyr fod y problemau hyn nid yn unig yn effeithio ar eu hastudiaethau ond hefyd ar eu gallu i weithio, teithio, rheoli cyfrifoldebau gofalu a chynllunio eu bywydau y tu allan i'r brifysgol.

Mae'r adroddiad yn galw am ddull newydd "Student Success First" o amserlennu, gan gynnwys cyhoeddi amserlenni'n gynharach, wythnosau darllen gwarchodedig, gwell amserlennu ar gyfer asesiadau, technoleg well, ac amserlenni sy'n adlewyrchu anghenion academaidd a lles myfyrwyr yn well.

 

Safbwynt y Myfyrwyr ar Hybs

Cyflwynwyd Hybs i greu mannau cymorth i fyfyrwyr a oedd yn fwy lleol ar draws y Brifysgol. Fodd bynnag, dangosodd adborth fod llawer o fyfyrwyr dal yn ansicr ynghylch beth yw Hyb, pa gymorth y mae'n ei ddarparu a sut mae'n wahanol i'r gwasanaethau derbynfa blaenorol. Roedd profiadau hefyd yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar yr ysgol neu'r lleoliad.

Tynnodd myfyrwyr sylw at bryderon ynghylch cefnogaeth anghyson, diffyg mannau astudio, fforddiadwyedd bwyd ac anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau arbenigol. Mae'r adroddiad yn argymell creu model Hyb mwy cyson wedi'i ddiffinio’n gliriach ar draws y campws, gyda gwell cymorth i fyfyrwyr, opsiynau bwyd fforddiadwy, cyfleusterau astudio gwell, a chyfleoedd cryfach i feithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn.

 

Safbwynt y Myfyrwyr ar Gyfleoedd Addysgu PGR

Mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig (PGR) yn chwarae rhan hanfodol wrth addysgu ar draws Prifysgol Caerdydd. Dangosodd adborth gan fyfyrwyr israddedig, staff academaidd a myfyrwyr PGR eu hunain gefnogaeth ysgubol i'r cyfleoedd addysgu hyn, gan gydnabod eu pwysigrwydd i ddysgu israddedigion ac i ddatblygiad proffesiynol ôl-raddedig.

Fodd bynnag, mae newidiadau sefydliadol parhaus wedi creu ansicrwydd ynghylch y cyfleoedd addysgu, hyfforddiant, sefydlogrwydd ariannol a mynediad at fannau gwaith addas i fyfyrwyr PGR. Mae'r adroddiad yn galw am ddiogelu cyfleoedd addysgu PGR, gwella prosesau hyfforddi ac ymsefydlu, cyfathrebu gwell, cefnogaeth gryfach i diwtoriaid newydd, a diogelu swyddfeydd a chymunedau ymchwil PGR yn gyffredinol.

 

Crynodeb Gweithredol a Materion sydd Heb eu Datrys

Yn ogystal â'r tri adroddiad penodol i bynciau, cynhyrchodd y Tîm Swyddogion Sabothol Grynodeb Gweithredol hefyd yn archwilio'r cynnydd a wnaed ar Safbwyntiau Myfyrwyr blaenorol a thynnu sylw at faterion y mae myfyrwyr yn parhau i'w codi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Mae'r adroddiad yn nodi pum maes allweddol lle mae myfyrwyr yn dal i eisiau gweld newid:

  • Hygyrchedd gwasanaethau, adeiladau ac adnoddau dysgu.
  • Cyfathrebu a thryloywder gan y Brifysgol.
  • Cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau lles ac Amgylchiadau Esgusodol.
  • Ansawdd addysgu, recordiadau darlithoedd, ac arferion asesu.
  • Cludiant rhwng campysau, safleoedd llety, a lleoliadau.

Mae'r adroddiad yn cydnabod meysydd lle mae cynnydd wedi'i wneud a’n tynnu sylw at bryderon sy'n parhau i fod heb eu datrys.

Beth Sy’n Digwydd?

Mae'r adroddiadau hyn yn cynrychioli lleisiau miloedd o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Maent bellach yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Brifysgol, gyda gweithgorau ymroddedig yn dod a chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol at ei gilydd i adolygu'r argymhellion a datblygu camau gweithredu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Diolch i bob myfyriwr a rannodd eu profiadau drwy gydol y flwyddyn. P'un a wnaethoch chi gwblhau cerdyn Wythnos Siarad, siarad â'ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, mynychu fforwm neu gysylltu â Swyddog yn uniongyrchol, mae eich adborth wedi helpu i lunio'r Safbwynt y Myfyrwyr hyn a bydd yn parhau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol ar draws Prifysgol Caerdydd.

Comments