Navigating fasting as an International Student| Ymdopi ag ymprydio fel Myfyriwr Rhyngwladol

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ramadan Kareem, everyone! It’s that long awaited time of the year. 

Ramadan commenced in February to mark the beginning of the holy month where Muslims observe fast and spiritual enrichment. This is my 3rd year fasting in Cardiff away from home and it has always been a fulfilling experience. To me, Ramadan is so much more than just abstaining from food for a certain period every day, it is to build your spiritual character and keep a vibrant community.

Fasting from sunup to sundown, improving spiritual connection to the religion, performing increased acts of worship all while maintaining attendance and a consistent studying schedule is a brief insight into the long and arduous month.

But Ramadan has been so thrilling for me as an international student despite these challenges.

I’m sure everyone is harping on about the recent uptake of windy and rainy weather in Cardiff, but fasting in a colder climate definitely has its advantages, especially when your parched throat starts to make itself evident in the afternoon; at least it isn’t boiling hot! But do bundle up against the frivolous cold.

Despite a heavy focus on spiritual improvement, there is no end to thinking about food. Wake up to eat a brief breakfast for suhoor. Come midday, your tummy might start rumbling in class. Soon enough, 4pm rolls around and you start to think about iftar. Do I have enough groceries? Do I have leftovers from yesterday? Should I just order takeout? These are all questions I’m riddled with daily. For those who have fasted during Ramadan before, we all know the need to eat diminishes throughout the month as your body adjusts to the routine. But it can still be exhausting as you experience decision-fatigue about what food to eat. Most just try to get by; others, prepare for a specific diet. One thing I find most challenging is being away from family. I miss the Ramadan bazaars in Malaysia that would open in the late afternoons, rows of stalls offering a variety of fried, grilled or sugary snacks. I think about the sweet lemonade I used to prepare for my family to break our fast, a tradition I have not followed for the past 3 years. I crave my mother’s warm masala chai she would make on the stove with black tea and cardamom pods, the sweet scent wafting through the house a calming balm. So, my late afternoons are spent replicating recipes from home, the taste always a little imperfect.

Living within campus also means access to the diverse Muslim community. We can learn, share and grow with each other with the difficulties of fasting, but importantly, the joys of partaking in the holy month. Students usually take to local mosques to perform taraweeh prayers with the community, joining students and residential families. Walking to City Road afterwards with friends to enjoy a warm cup of chai and sweet desserts is my favourite reward for a long, well-spent day.

When night rolls around, one of the most persistent challenges in Ramadan reveals itself: deciding the time for bed. Fasting begins with the sunrise, so it is an observed practice to wake up earlier to eat a meal, and if anyone gets as hungry as I do, even 45 minutes before to prepare a proper nutritious meal. So, planning your sleeping schedule ahead of time can be a very important part of how you fare during Ramadan - even an extra hour of sleep will make a great difference to your day! Exam season approaches quickly with the end of Ramadan so consistent work throughout Ramadan is a must. Sleep is your best friend in this!

Ramadan away from family can be bittersweet. The feeling of being lonesome tends to creep up unexpectedly - I’ve had my fair share of dejected moments. But it quickly vanishes as new happy memories are created while I cook with my housemates for iftar, building moments for future nostalgia. Time spent here in Cardiff will always be a piece of home for me. For everyone's first time, or second time, or umpteenth time, spending Ramadan apart from family, may you find a sense of home away from home.

 

Ramadan Kareem, bawb! Dyma'r amser hwnnw o'r flwyddyn rydyn ni wedi bod yn aros amdano.

Dechreuodd Ramadan ym mis Chwefror i nodi dechrau'r mis sanctaidd lle mae Mwslimiaid yn ymprydio ac yn cyfoethogi'n ysbrydol. Dyma fy nhrydedd flwyddyn yn ymprydio yng Nghaerdydd i ffwrdd o adref ac mae bob amser wedi bod yn brofiad boddhaol. I mi, mae Ramadan yn gymaint mwy na dim ond ymatal rhag bwyd am gyfnod penodol bob dydd, mae'n adeiladu eich cymeriad ysbrydol a chadw cymuned fywiog.

Mae ymprydio o godiad haul i fachlud haul, gwella cysylltiad ysbrydol â'r grefydd, perfformio mwy o weithredoedd o addoliad i gyd wrth gynnal presenoldeb ac amserlen astudio gyson yn gipolwg byr ar y mis hir a llafurus.

Ond mae Ramadan wedi bod mor gyffrous i mi fel myfyriwr rhyngwladol er gwaethaf yr heriau hyn.

Rwy'n siŵr bod pawb yn cwyno am y tywydd gwyntog a glawog diweddar yng Nghaerdydd, ond mae gan ymprydio mewn hinsawdd oerach ei fanteision yn bendant, yn enwedig pan fydd eich gwddf sychedig yn dechrau dod i'r amlwg yn y prynhawn; o leiaf nid yw'n hynod boeth! Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn barod am yr oerfel.

Er gwaethaf ffocws trwm ar welliant ysbrydol, does dim diwedd ar feddwl am fwyd. Deffro i fwyta brecwast byr ar gyfer suhoor. Erbyn canol dydd, efallai y bydd eich bol yn dechrau gwneud synau yn y dosbarth. Yn fuan iawn, mae 4yp yn dod ac rydych chi'n dechrau meddwl am iftar. Oes gen i ddigon o fwyd? Oes gen i fwyd dros ben o ddoe? A ddylwn i archebu tecawê? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau sy’n codi bob dydd. I'r rhai sydd wedi ymprydio yn ystod Ramadan o'r blaen, rydyn ni i gyd yn gwybod bod yr angen i fwyta yn lleihau drwy gydol y mis wrth i'ch corff addasu i'r drefn. Ond gall fod yn flinedig o hyd wrth i chi brofi blinder penderfynu ynghylch pa fwyd i'w fwyta. Mae'r rhan fwyaf yn ceisio palu ymlaen; mae eraill yn paratoi ar gyfer diet penodol. Un peth rwy'n ei chael hi'n fwyaf heriol yw bod i ffwrdd o'r teulu. Rwy'n colli basâr Ramadan ym Malaysia a fyddai'n agor yn hwyr yn y prynhawn, rhesi o stondinau yn cynnig amrywiaeth o fyrbrydau wedi'u ffrio, eu grilio neu llawn siwgr. Rwy'n meddwl am y lemwnêd melys roeddwn i'n arfer ei baratoi i'm teulu dorri ein hympryd, traddodiad nad wyf wedi'i ddilyn ers y 3 blynedd diwethaf. Rwy'n hiraethu am masala chai cynnes fy mam y byddai hi'n ei wneud ar y stôf gyda the du a chodau cardamom, yr arogl melys yn chwythu trwy'r tŷ fel cwtsh cysurus. Felly, rwy'n treulio fy mhrynhawniau hwyr yn ailddefnyddio ryseitiau o gartref, y blas bob amser ychydig yn amherffaith.

Mae byw o fewn y campws hefyd yn golygu mynediad at y gymuned Fwslimaidd amrywiol. Gallwn ddysgu, rhannu a thyfu gyda'n gilydd gydag anawsterau ymprydio, ond yn bwysicach fyth, llawenydd cymryd rhan yn y mis sanctaidd. Fel arfer, mae myfyrwyr yn mynd i fosgiau lleol i berfformio gweddïau taraweeh gyda'r gymuned, gan ymuno â myfyrwyr a theuluoedd preswyl. Cerdded i City Road wedyn gyda ffrindiau i fwynhau paned gynnes o chai a phwdinau melys yw fy hoff uchafbwynt ar ôl diwrnod hir, wedi'i dreulio'n dda.

Pan fydd y nos yn dod, mae un o'r heriau mwyaf parhaus yn Ramadan yn datgelu ei hun: penderfynu ar yr amser i fynd i'r gwely. Mae ymprydio yn dechrau gyda chodiad haul, felly mae'n arferiad deffro'n gynharach i fwyta pryd o fwyd, ac os bydd unrhyw un yn mynd mor llwglyd â fi, hyd yn oed 45 munud cyn hynny i baratoi pryd maethlon go iawn. Felly, gall cynllunio'ch amserlen gysgu ymlaen llaw fod yn rhan bwysig iawn o sut rydych chi'n ymdopi yn ystod Ramadan - bydd hyd yn oed awr ychwanegol o gwsg yn gwneud gwahaniaeth mawr i'ch diwrnod! Mae tymor arholiadau'n prysur agosáu gyda diwedd Ramadan felly mae gwaith cyson drwy gydol Ramadan yn hanfodol. Cwsg yw eich ffrind gorau yn hyn!

Gall Ramadan i ffwrdd o'r teulu fod yn chwerwfelys. Mae'r teimlad o fod yn unig yn tueddu i ddod i'r amlwg yn annisgwyl - rydw i wedi cael fy siâr o eiliadau isel. Ond mae'n diflannu'n gyflym wrth i atgofion hapus newydd gael eu creu tra byddaf yn coginio gyda fy nghyd-letywyr ar gyfer iftar, gan adeiladu eiliadau ar gyfer hiraeth yn y dyfodol. Bydd yr amser a dreulir yma yng Nghaerdydd bob amser yn ddarn o gartref i mi. I bawb sy’n treulio Ramadan oddi wrth eu teulu am y tro cyntaf, yr ail dro, neu’r ugeinfed tro, boed i chi ddod o hyd i ymdeimlad o gartref oddi cartref.

 

 

Comments