National Emergency Briefing: Why you should care | Briff Argyfwng Cenedlaethol pam ddylech chi boeni

normal
No ratings yet. Log in to rate.

At the end of November 2025 (I know, a while ago!) I attended the UK’s first National Emergency Briefing on the Climate and Nature Crisis in Westminster, London. Attending as your representative in my capacity as the Ethical and Environmental Officer, I felt a duty to ensure that the messages from this essential briefing were heard in Cardiff, as the future of our planet is fundamentally the future of humanity.

Ten leading scientists and experts presented the latest assessment of the climate and nature crisis, covering a range of themes including weather extremes, energy transitions, economics, food and national security, and nature.

I won’t sugarcoat it, the picture that was painted during this briefing was severe and rather bleak. But that is only if we don’t act now. Immediate, decisive action is needed on an international scale, from national governments to universities and each of us individually.

Without change, in the next twenty years, the increases in flooding, drought and sea level rise that we are already experiencing will be multiplied. These climatic changes have significant consequences for health, food security and the economy, not to mention that the loss of nature and biodiversity is compounding each of these consequences. A scary reality. One that is only set to worsen if further action is not taken.

Yet there were also some elements of hope shared by this expert panel. The latest science has shown that if we do act, on an individual, local, national and global scale, we can bend the curve on climate change and nature loss. A bright future is attainable, but it will take us all, doing that little bit more, convincing others to also make change, and standing up for the future that we want to see. It might seem like an over-used phrase, but there truly is No Planet B, and you, me, this University and humanity need to do everything we can to protect this incredible planet while we still have time.

If you want to get involved in my work as your Ethical and Environmental Officer, follow my Instagram for updates on events, campaigns, resources and more!

Liliana Tarrant Snedden, eich Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol 2025-26

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2025 (dw i'n gwybod, tipyn yn ôl!) mynychais Gyfarfod Briffio Brys Cenedlaethol cyntaf y DU ar yr Argyfwng Hinsawdd a Natur yn San Steffan, Llundain. Gan fynychu fel eich cynrychiolydd yn rhinwedd fy swydd fel y Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol, teimlais ddyletswydd i sicrhau bod negeseuon y briff hanfodol hwn yn cael eu clywed yng Nghaerdydd, gan mai dyfodol ein planed yw dyfodol dynoliaeth yn y bôn.

Cyflwynodd deg gwyddonydd ac arbenigwr blaenllaw yr asesiad diweddaraf o'r argyfwng hinsawdd a natur, gan gwmpasu ystod o themâu gan gynnwys eithafion tywydd, trawsnewidiadau ynni, economeg, bwyd a diogelwch cenedlaethol, a natur.

Wna i ddim ei wneud i swnio’n well nag ydyw, roedd y darlun a baentiwyd yn ystod y sesiwn friffio hon yn ddifrifol ac yn eithaf tywyll. Ond dim ond os na fyddwn yn gweithredu nawr y mae hynny'n wir. Mae angen gweithredu ar unwaith, yn bendant ar raddfa ryngwladol, o lywodraethau cenedlaethol i brifysgolion a phob un ohonom yn unigol.

Heb newid, yn yr ugain mlynedd nesaf, bydd y cynnydd mewn llifogydd, sychder a chodiad yn lefel y môr yr ydym eisoes yn eu profi yn lluosogi. Mae gan y newidiadau hinsoddol hyn ganlyniadau sylweddol i iechyd, diogelwch bwyd a'r economi, heb sôn am y ffaith bod colli natur a bioamrywiaeth yn gwaethygu pob un o'r canlyniadau hyn. Realiti brawychus. Un sydd ond yn debygol o waethygu os nad ydynt yn cymryd camau pellach.

Eto roedd rhai elfennau o obaith a rannwyd gan y panel arbenigol hwn hefyd. Mae'r wyddoniaeth ddiweddaraf wedi dangos, os ydym yn gweithredu, ar raddfa unigol, leol, genedlaethol a byd-eang, y gallwn blygu'r gromlin ar newid hinsawdd a cholli natur. Mae dyfodol disglair yn gyraeddadwy, ond bydd yn rhaid i ni i gyd wneud ychydig bach mwy, gan argyhoeddi eraill i wneud newid hefyd, a sefyll dros y dyfodol yr ydym eisiau ei weld. Efallai y bydd yn ymddangos fel ymadrodd sy'n cael ei or-ddefnyddio, ond nid oes Planed B mewn gwirionedd, ac mae angen i chi, fi, y Brifysgol hon a dynoliaeth wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y blaned anhygoel hon tra bod dal gennym amser.

Os hoffech gymryd rhan a gweld fy ngwaith fel eich Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol, dilynwch fy Instagram  am y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, adnoddau a mwy!

Comments