This blog forms a part of the accountability process for Campaign Officers. As per the Union’s governing documents, Campaign Officers are required to write blogs which update the student body on what they have been up to, providing an insight into their work as your elected officers. If you have any questions regarding Campaign Officer accountability, please contact Democracy@cardiff.ac.uk.
Hi Everyone
I’m Grace a final year Media and Comms student at Cardiff University and your Mental Health Officer.
Since my last blog update in March, I have been incredibly busy not only wrapping up my degree but also making sure students on campus know where to go to receive mental health and wellbeing support. As many of you know the exam and assessment period can be an extremely tough time for students. There are many different things students must juggle all at once such as their degree, part-time work, sports and society commitments. All these things have a significant impact on our mental health.
In April we had Welsh Varsity where the Mind Cymru logo was put on the back of supporter t-shirts. This is something my Sabbatical buddy and your VP Sports and Athletic Union President, Georgia Spry, organised. At Varsity I filmed both the Men’s and Women’s football team and we asked them questions about pressure, procrastination and mental health and wellbeing in sport. After Varsity the Cardiff University social media team came into the Student Media Office to interview me about the work I do as Sports Editor for Gair Rhydd and Sports Director at CUTV. I have used my platform in Student Media to promote mental health in sport especially with our CULF Documentary which at the time of writing this has 657 views which is our most viewed video.
In May it was awards season! As the treasurer and wellbeing officer for Student Minds it was an absolute privilege to win ‘Best Student Led Service of the Year’. The events we have done throughout the year to promote mental health and wellbeing on campus have been great and I am so glad we got the recognition we thoroughly deserve! The second week of May was Mental Health Awareness Week. The theme of the week was community. I worked with Cardiff Mind and the Cardiff City Football Club Foundation sharing all their resources on my Instagram page. I was interviewed by the Cardiff University social media team during mental health awareness week to promote services on campus to support students such as Student Connect, Student Advice and Talk Campus. For the remainder of my time in office I look forward to helping the Sabbatical Officers with Revision Aid and Feed Your Flat. Check out the Cardiff Students Instagram page for more information.
Overall, I have met all my manifesto points for the year by creating more awareness on how students can receive support, speaking to Sports Societies wellbeing-officers to discuss the importance of balancing their workloads as student athletes and completing university work in order to maintain good mental health and well-being. It has been an absolute pleasure to be the 2024/25 Mental Health Officer I would like to thank everyone at the Union and Senate who have supported me throughout this academic year.
Mae'r blog hwn yn ffurfio rhan o'r broses atebolrwydd ar gyfer Swyddogion Ymgyrchoedd. Yn unol â dogfennau llywodraethu'r Undeb, mae gofyn i Swyddogion Ymgyrchoedd ysgrifennu blogiau sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r corff myfyrwyr ynghylch yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud, gan roi mewnwelediad i'w gwaith fel eich swyddogion etholedig. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch atebolrwydd Swyddogion Ymgyrchoedd, mae croeso i chi gysylltu â Democracy@cardiff.ac.uk.
Helo bawb,
Grace ydw i, myfyrwraig Cyfryngau a Chyfathrebu yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd a'ch Swyddog Iechyd Meddwl.
Ers y blog diwethaf ym mis Mawrth, rydw i wedi bod yn hynod o brysur, nid yn unig yn gorffen fy ngradd ond hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr ar y campws yn gwybod ble i fynd i dderbyn cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant. Fel y gŵyr llawer ohonoch, gall y cyfnod arholiadau ac asesiadau fod yn gyfnod anodd iawn i fyfyrwyr. Mae yna lawer o bethau gwahanol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cydbwyso, i gyd ar yr un pryd, fel eu gradd, gwaith rhan-amser, chwaraeon a’u hymrwymiad i gymdeithasau. Mae’r holl bethau hyn yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd meddwl.
Ym mis Ebrill cynhaliwyd Farsiti Cymru lle gosodwyd logo Mind Cymru ar gefn crysau-t cefnogwyr. Dyma rywbeth a drefnwyd gan fy ffrind Sabothol a'ch Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau, Georgia Spry. Yn ystod Farsiti, ffilmiais dîm pêl-droed y Dynion a'r Menywod a gofynnwyd cwestiynau iddyn nhw am y gwahanol bwysau maen nhw’n ei wyneb, oedi diangen ac iechyd meddwl a llesiant mewn chwaraeon. Ar ôl Farsiti daeth tîm cyfryngau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd i Swyddfa Cyfryngau'r Myfyrwyr i gynnal cyfweliad â fi am y gwaith rwy'n ei wneud fel Golygydd Chwaraeon i Gair Rhydd a Chyfarwyddwr Chwaraeon ar gyfer Teledu Undeb Caerdydd. Rydw i wedi defnyddio fy llwyfan ar Gyfryngau Myfyrwyr i hyrwyddo iechyd meddwl mewn chwaraeon, yn enwedig gyda'n Rhaglen Ddogfen CULF sydd, ar adeg ysgrifennu hwn, wedi cael 657 o ymweliadau sef ein fideo a welwyd gan y nifer fwyaf o bobl.
Mis Mai oedd tymor y gwobrau! Fel trysorydd a swyddog llesiant Meddyliau Myfyrwyr, roedd yn anrhydedd ennill 'Gwasanaeth Gorau’r Flwyddyn dan Arweiniad Myfyrwyr'. Mae'r digwyddiadau rydyn ni wedi'u cynnal trwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant ar y campws wedi bod yn wych, ac rwyf mor falch ein bod ni wedi cael y gydnabyddiaeth rydyn ni'n ei haeddu'n llwyr! Ail wythnos mis Mai oedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Thema’r wythnos oedd cymuned. Gweithiais gyda Mind Caerdydd a Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gan rannu eu holl adnoddau ar fy nhudalen Instagram. Cefais fy nghyfweld gan dîm cyfryngau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn ystod wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl i hyrwyddo gwasanaethau ar y campws i gynnig cymorth i fyfyrwyr fel Student Connect, Student Advice a Talk Campus. Am weddill fy amser yn y rôl, rwy'n edrych ymlaen at helpu'r Swyddogion Sabothol gyda Chymorth Adolygu a Bwydo Eich Fflat. Gallwch fwrw golwg ar dudalen Instagram Myfyrwyr Caerdydd am ragor o wybodaeth.
Ar y cyfan, rydw i wedi cyflawni pob un o’m pwyntiau maniffesto ar gyfer y flwyddyn trwy greu mwy o ymwybyddiaeth o sut y gall myfyrwyr dderbyn cefnogaeth, siarad â swyddogion llesiant y Cymdeithasau Chwaraeon i drafod pwysigrwydd cydbwyso eu llwythi gwaith fel myfyrwyr-athletwyr a chwblhau gwaith prifysgol er mwyn cynnal iechyd meddwl a llesiant da. Mae wedi bod yn bleser pur bod yn Swyddog Iechyd Meddwl 2024/25. Hoffwn ddiolch i bawb yn yr Undeb a'r Senedd sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol y flwyddyn academaidd hon.