An Update from your Women's Officer 2025/26 | Diweddariad gan eich Swyddog Menywod 2025/26

normal
No ratings yet. Log in to rate.

Hi, I’m Rowan, your Women’s Officer 25/26! This year has been incredibly busy, and I wanted to take a moment to introduce myself properly and share some of the work I’ve been doing across the Students’ Union and the wider campus.  

From the very beginning of my role, my focus has been rooted in my manifesto priorities: tackling sexual violence on campus and promoting women’s health through accessible, inclusive education surrounding breast cancer awareness, period dignity and contraception. Throughout the year, I’ve worked to approach all of this through an intersectional lens, making sure our campaigns and events reflect and support the diversity of Cardiff students.  

In September, I supported the introduction of misogyny training into committee training, which received really positive feedback and marked an important step in embedding safer, more informed student leadership. During Freshers’, I was out at fairs handing out contraception and period products, helping to normalise access to essential health resources from day one. I also continued my work with the University’s Tackling Sexual Violence Task Group, which I’m eager to continue developing.  

October was a standout month with our CoppaFeel! Pink Week campaign. Across three events and six society collaborations, we raised nearly £6000 and reached close to 3000 students with vital breast cancer awareness messaging. We delivered 45 ‘Boob Schools’ and turned YOLO pink in just one month! It was such an amazing achievement, and it was great to see so many students engaging with these conversations. (Remember to text UBT CARDIFF to 82228 to get free monthly text reminders).  

In November, I was involved in a wide range of initiatives, from supporting the AGM and contributing to policy discussions like the Pro-Choice motion and Sexual Violence Policy, to collaborating with the University on the 16 Days of Activism. I helped run stalls at the SU and YOLO, attended a White Ribbon Day event at the Senedd. Alongside this, I hosted and attended events with FemSoc and the Taylor Swift Society, creating spaces for both activism and community.  

December was a slightly quieter period, but I really valued being part of the Winter Wellbeing events, especially the market walks with Eve and Molly, creating small but meaningful moments of connection during a busy term,  

In January, I took part in Refreshers’ stalls and supported the Student Voice team in promoting the SU leadership elections, helping encourage more students to get involved in shaping their SU.  

March brought Women’s History Month, which was a key highlight. I helped organise the University’s Women’s History Month event and ended up stepping in as a speaker; something that pushed me out of my comfort zone but was incredibly rewarding. Throughout the month, we ran period dignity stalls, packed over 100 period packs with Molly for sports teams and hosted events including an IWD showcase and more Boob Schools. A key focus was ensuring these spaces were inclusive, particularly for queer students and ethnic minority students.  

Alongside this, I’ve been working with external organisations to strengthen our impact. I met with external charities to understand how we can embed misogyny, consent and bystander training more permanently into SU structures. I’ve also continued attending university working groups on tackling sexual violence and recently helped promote the sexual violence on placement consultation. One project that felt particularly personal was creating an informational video on meningitis with Josh, where I shared my own experience of meningococcal and septicaemia in first year to help raise awareness among students.  

Looking ahead, I’m really excited to continue promoting campaigns like Let’s Talk Consent and strengthening partnerships both within and beyond the SU. I’m also looking forward to continuing work with the Sexual Violence Task Group and developing how we deliver misogyny training in the future.  

More than anything, for me this role has been about collaboration. I’ve had so much fun supporting and attending the work of other Sabbatical and Campaign Officers and I’m excited to keep building on what we’ve started. Ultimately, I have adored celebrating you all, amplifying important conversations and continuing to create safer, more inclusive spaces across our campus.  

Helo, Rowan ydw i, eich Swyddog Menywod 25/26! Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn hynod o brysur, ac roeddwn i eisiau cymryd eiliad i gyflwyno fy hun yn iawn a rhannu rhywfaint o'r gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud ar draws Undeb y Myfyrwyr a'r campws ehangach.

Ers dechrau fy ehyfnod yn y rôl, mae fy ffocws wedi bod yn seiliedig ar flaenoriaethau fy maniffesto: mynd i'r afael â thrais rhywiol ar y campws a hyrwyddo iechyd menywod trwy addysg hygyrch a chynhwysol ynghylch ymwybyddiaeth o ganser y fron, urddas mislif a dulliau atal cenhedlu. Drwy gydol y flwyddyn, rwyf wedi gweithio i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni drwy lens groestoriadol, gan sicrhau bod ein hymgyrchoedd a'n digwyddiadau yn adlewyrchu ac yn cefnogi amrywiaeth myfyrwyr Caerdydd.

Ym mis Medi, cefnogais gyflwyno hyfforddiant ar gasineb at fenywod i hyfforddiant pwyllgorau. Cafodd hyn adborth cadarnhaol iawn ac roedd yn gam pwysig tuag at arweinyddiaeth myfyrwyr fwy diogel ymwybodol. Yn ystod y Glas, roeddwn i allan mewn ffeiriau yn dosbarthu cynhyrchion atal cenhedlu a mislif, gan helpu i normaleiddio mynediad at adnoddau iechyd hanfodol o'r diwrnod cyntaf un. Fe wnes i hefyd barhau â'm gwaith gyda Grŵp Gorchwyl Mynd i'r Afael â Thrais Rhywiol y Brifysgol, ac rwy'n edrych ymlaen at ei ddatblygu ymhellach.

Roedd mis Hydref yn fis nodedig gyda'n hymgyrch Wythnos Binc CoppaFeel!. Ar draws tri digwyddiad a chwe chydweithrediad â chymdeithasau, fe godon ni bron i £6000 a chyrhaeddon ni bron i 3000 o fyfyrwyr gyda negeseuon hanfodol i godi ymwybyddiaeth am ganser y fron. Cynhaliwyd 45 sesiwn 'Boob School' a thrawsnewidiwyd YOLO yn binc, i gyd mewn un mis! Roedd yn gyflawniad anhygoel, ac roedd yn wych gweld cymaint o fyfyrwyr yn ymgysylltu â'r sgyrsiau hyn. (Cofiwch anfon neges destun at UBT CAERDYDD i 82228 i gael negeseuon atgoffa misol am ddim.

Ym mis Tachwedd, roeddwn i'n rhan o ystod eang o fentrau, o gefnogi'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfrannu at drafodaethau polisi fel y cynnig O Blaid Dewis a'r Polisi Trais Rhywiol, i gydweithio â'r Brifysgol ar yr ymgyrch 16 Diwrnod o Weithredu. Fe helpais i redeg stondinau yn yr UM ac yn YOLO a mynychais ddigwyddiad Diwrnod y Rhuban Gwyn yn y Senedd. Yn ogystal â hyn, trefnais a mynychais ddigwyddiadau gyda FemSoc a Chymdeithas Taylor Swift, gan greu mannau ar gyfer gweithredu ac adeiladu cymuned.

Roedd mis Rhagfyr ychydig yn dawelach, ond roeddwn i wir yn gwerthfawrogi bod yn rhan o ddigwyddiadau Gofalu gyda’r Gaeaf, yn enwedig y teithiau cerdded i’r farchnad gydag Eve a Molly, gan greu eiliadau bach ond ystyrlon o gysylltiad yn ystod tymor prysur.

Ym mis Ionawr, cymerais ran yn nigwyddiad y Ffair Ail-groesawu a chefnogais dîm Llais y Myfyrwyr wrth hyrwyddo etholiadau arweinyddiaeth yr UM, gan helpu i annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn llunio dyfodol eu Hundeb.

Daeth Mis Hanes Menywod ym mis Mawrth, a oedd yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Helpais i drefnu digwyddiad Mis Hanes Menywod y Brifysgol a chamu i mewn fel siaradwr yn y diwedd; rhywbeth a’m heriodd i gamu y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfarwydd i mi, ond a oedd yn brofiad hynod werth chweil. Drwy gydol y mis, cynhaliom stondinau urddas mislif, pacio dros 100 o becynnau mislif gyda Molly ar gyfer timau chwaraeon a chynnal digwyddiadau gan gynnwys arddangosfa IWD a mwy o ‘Boob Schools’. Ffocws allweddol oedd sicrhau bod y mannau hyn yn gynhwysol, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr hoyw a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

Yn ogystal â hyn, rwyf wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau allanol i gryfhau ein heffaith. Fe wnaethom gyfarfod ag elusennau allanol i ddeall sut y gallwn ni ymgorffori hyfforddiant ar gasineb at fenywod, cydsyniad a bod yn wyliwr gweithredol yn fwy parhaol yn strwythurau Undeb y Myfyrwyr. Rwyf hefyd wedi parhau i fynychu gweithgorau prifysgol ar fynd i'r afael â thrais rhywiol ac yn ddiweddar wedi helpu i hyrwyddo'r ymgynghoriad ar drais rhwiol ar leoliad. Un prosiect a oedd yn teimlo'n arbennig o bersonol oedd creu fideo gwybodaeth ar lid yr ymennydd gyda Josh, lle rhannais fy mhrofiad fy hun o meningococcal a septisemia yn y flwyddyn gyntaf i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr.

Wrth edrych ymlaen, rwy'n gyffrous iawn i barhau i hyrwyddo ymgyrchoedd fel Trafod Cydsyniad a chryfhau partneriaethau o fewn yr Undeb Myfyrwyr a thu hwnt. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Grŵp Gorchwyl Trais Rhywiol a datblygu sut rydym yn darparu hyfforddiant ar gasineb at fenywod yn y dyfodol. Yn fwy na dim, mae'r rôl hon wedi bod yn ymwneud â chydweithio. Rwyf wedi cael cymaint o hwyl yn cefnogi a mynychu gwaith Swyddogion Sabothol ac Ymgyrch eraill ac rwy'n gyffrous i barhau i adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddechrau. Yn y pen draw, mae wedi bod yn fraint dathlu eich llwyddiannau, codi llais ar faterion pwysig a pharhau i greu campws mwy diogel, cynhwysol a chefnogol i bawb.

 

Comments