Hello! My name is Millie Davies, and I am your 2025/26 Accessibility Officer. Throughout this year, one of my main priorities has been to make campus accessible to everyone, ensuring that students with visible and invisible disabilities feel recognised and supported. This has included events for Disability History Month, promoting access to accessible period products, and advocating for better physical accessibility across campus. I have also worked with the EDI Hub and encouraged a review of the AccessAble guides to highlight areas where accessibility issues persist.
A central part of my work has been introducing the Sunflower Lanyard scheme into the Students’ Union. The Sunflower Lanyard scheme, or the Hidden Disabilities Sunflower, is a widely recognised symbol across the UK, indicating that the wearer has an invisible disability or mental health condition. The lanyard is a simple but effective tool that helps others understand that the wearer may require additional time, patience or support, especially in busy or demanding situations. For me, ensuring that students with invisible disabilities feel seen and accommodated has been a key part of making campus accessible for all.
When I realised that Cardiff Students’ Union did not offer these lanyards, it became clear that this was a gap that needed to be addressed. As someone with a hidden disability who has personally benefited from the scheme in other settings, I understand how valuable it could be for students navigating larger events and crowded spaces within the Students’ Union. I am pleased that the Sunflower lanyards are now available at the Students’ Union, with a limited number also provided during NOVIS society events.
Looking ahead, my priority is to expand this provision further. I aim to secure additional lanyards for both the Students’ Union and Heath Park, ensuring that students across the entire campus can access this support.
Helo! Fy enw i yw Millie Davies, a fi yw eich Swyddog Hygyrchedd ar gyfer 2025/26. Drwy gydol y flwyddyn hon, un o fy mhrif flaenoriaethau oedd gwneud y campws yn hygyrch i bawb, gan sicrhau bod myfyrwyr ag anableddau gweladwy ac anweledig yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod a’u cefnogi. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Anabledd, hyrwyddo mynediad at gynhyrchion mislif hygyrch, ac eiriol dros hygyrchedd corfforol gwell ar draws y campws. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda’r Hwb EDI ac wedi annog adolygiad o’r canllawiau AccessAble er mwyn tynnu sylw at feysydd lle mae problemau hygyrchedd yn parhau.
Rhan ganolog o’m gwaith oedd cyflwyno cynllun Laniard Blodyn Haul i Undeb y Myfyrwyr. Mae’r cynllun Laniard Blodyn Haul, neu’r Blodyn Haul Anableddau Cudd, yn symbol sy’n cael ei gydnabod ledled y DU, sy’n dangos bod gan y sawl sy’n ei wisgo anabledd anweledig neu gyflwr iechyd meddwl. Mae’r laniard yn arf syml ond effeithiol sy’n helpu eraill i ddeall y gallai’r sawl sy’n ei wisgo fod angen amser, amynedd neu gefnogaeth ychwanegol, yn enwedig mewn sefyllfaoedd prysur neu heriol. I mi, mae sicrhau bod myfyrwyr ag anableddau anweledig yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u cynnwys wedi bod yn rhan allweddol o wneud y campws yn hygyrch i bawb.
Pan sylweddolais nad oedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cynnig y laniards hyn, daeth yn amlwg bod hwn yn fwlch yr oedd angen ei fynd i’r afael ag ef. Fel rhywun ag anabledd cudd sydd wedi elwa’n bersonol o’r cynllun mewn lleoliadau eraill, rwy’n deall pa mor werthfawr y gallai fod i fyfyrwyr wrth fynychu digwyddiadau mwy a mannau llawn pobl o fewn Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n falch bod laniards Blodyn Haul Bellach ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, gyda nifer gyfyngedig hefyd yn cael eu darparu yn ystod digwyddiadau Cymdeithas NOVIS.
Wrth edrych ymlaen, fy mhrif flaenoriaeth yw ehangu’r ddarpariaeth hon ymhellach. Fy nod yw sicrhau laniards ychwanegol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr a Pharc y Mynydd Bychan, gan sicrhau y gall myfyrwyr ar draws y campws cyfan gael mynediad at y gefnogaeth hon.