Being a student is challenging, but trying to live sustainably as a student can seem expensive, inaccessible or even impossible. But that is NOT the case!
I have struggled with trying to live sustainably on a budget, as often the more sustainable options do seem to be so much more expensive. Or as a student coming up to exam season you don’t feel you have the energy or time to make sustainable choices. Yet there are many simple, affordable, or even FREE ways you can start living more sustainably and take action for our planet.
If you want to live more sustainably as a student but aren’t sure where to start, look no further! I have summarised my top 10 actions you can take as a Cardiff University student to begin living in a way that is better for people and the planet.
1. Prioritise where you shop
Where you shop matters. Every pound you spend is like a vote for the kind of world you want to live in. Buy from local sustainable businesses, such as the Cardiff zero waste stores Siop Sero, avoid big online companies like Amazon or Shien (which are TERRIBLE for the planet) and instead look out for B Certified companies.
2. Eat less meat
Large scale meat consumption is environmentally destructive, causing extensive land clearing, biodiversity loss, high greenhouse gas emissions and more… If going vegan isn’t yet for you, try ‘Meatless Mondays’ or replace some of your weekly meat and dairy with lower carbon plant-based alternatives. Also always try to source ethically and sustainably produced meat and seafood where possible.
3. Reduce consumption
This one is also great for a budget. Buy only what you need, this reduced waste and saves you money – a real win-win! Think now of Refuse, Reduce, Reuse, Repurpose, Recycle, with the first step being refusing to buy something if you don’t really need it. Choose charity shops, find your local repair café, organise a clothes swap with friends or maybe even learn a new skill and mend or upcycle something you already own!
4. Buy better
In line with no.3 buying better involves thinking more about your purchases. It can look like saving up a little bit before getting something new (when you have to) so you’re able to get something of a higher quality that will last longer – reducing the need to buy another in a years’ time! This tip can also involve buying seasonal and organic produce wherever possible and trying to not buy foods that have very high food miles. For example, I try not to buy fruit and veg that has crossed the equator - which can be judged by the little label of where the item has been grown.
5. Avoid packaging and sort your rubbish
This is simple but can make a huge difference in reducing your plastic waste. Lidl can be great for buying loose fruit and veg, just choose what you want and weigh it at the till! Another budget saving tip is to buy in bulk bags – cheaper and reduces the overall amount of packaging. It is also SO important to properly sort your recycling, even though it is not the most fun, otherwise it might just end up in general waste. Check out Cardiff Council website for their useful recycling search feature to check what can be recycled and how: A to Z of recycling.
6. Watch your water use
The global demand for freshwater is set to exceed supply by 40% by 2030 (World Economic Forum, 2023). So, using less water is beneficial for the planet and for your water bills. Make sure to turn off the tap when brushing your teeth and shorten your time in the shower. We also all know that housemate that leaves the tap running for 10 minutes to wash two teaspoons – educate them!
7. Travel sustainably
Choose to walk, cycle or use public transport rather than driving wherever possible. Not only is walking or cycling free but it is also better for your health! The University even has an initiative where you can earn rewards and win prizes by travelling more sustainably – check it out here: Betterpoints: Changing Steps Cardiff.
Of course, some journeys aren’t possible without a car, but could you try lift sharing if multiple people are going to the same place? Or could you get the train or coach home for the weekend instead of driving?
8. Choose reusable!
As someone who definitely needs a coffee before starting my day, I appreciate the need to be able to get a top-up while at uni. But did you know the UK throws away around 2.5 billion disposable cups a year?! Rather than contributing to that number, invest in a reusable cup – most coffee shops also give you a discount if you’re using your own cup so it will pay for itself in the long run!
The same goes for water bottles. There are refill stations in basically every university building so there is no excuse – and again, refills are FREE!
9. Unplug your electronics and turn off the lights
Many people leave computers, TVs, phones and other electronics plugged in all day. Or do you often leave lights on when you head to lectures? Either way the cost of leaving things plugged in or turned on when you’re not using them can add up. Bad for the planet and for your electricity bill! And remember to always switch-off before heading away for weekends or holidays.
10. Get involved!
There are so many amazing groups and initiatives at the SU, University and in Cardiff. Getting involved in an environmental volunteer group, a society or University scheme can be a great way of meeting like-minded people, contributing to saving the planet and can also boost your CV. Every voice counts in trying to create a sustainable future, so use yours! Call out unsustainable practices you see, convince your friends to try one of these tips or even contact your local councillor, Member of Senedd or Parliament to advocate for issues you’re passionate about.
It’s not an all-or-nothing approach. This may seem like a lot of changes to make but making these small changes throughout our daily lives truly do all add up. Imagine if all Cardiff Uni students did just half of this list – that would a HUGE number of little actions adding up to create a HUGE amount of change in Cardiff. Be part of that positive change and help build our environmentally sustainable future!
Mae bod yn fyfyriwr yn heriol, ond gall ceisio byw'n gynaliadwy fel myfyriwr fod yn ddrud, yn anhygyrch a theimlo’n amhosibl hyd yn oed. Ond NID yw hynny'n wir!
Rwyf wedi cael trafferth ceisio byw'n gynaliadwy ar gyllideb, gan fod yr opsiynau mwy cynaliadwy yn aml yn llawer drutach. Neu fel myfyriwr sy'n agosáu at dymor arholiadau nid ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r egni na'r amser i wneud dewisiadau cynaliadwy. Eto i gyd mae yna lawer o ffyrdd syml, fforddiadwy, neu hyd yn oed AM DDIM y gallwch chi ddechrau byw'n fwy cynaliadwy a chymryd camau gweithredu dros ein planed.
Os ydych chi eisiau byw'n fwy cynaliadwy fel myfyriwr ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, does dim rhaid i chi edrych ymhellach! Rwyf wedi crynhoi fy 10 cam gweithredu gorau y gallwch chi eu cymryd fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd i ddechrau byw mewn ffordd sy'n well i bobl a'r blaned.
1. Meddylwch am ble rydych chi’n siopa
Mae ble rydych chi'n siopa yn bwysig. Mae pob punt rydych chi'n ei wario fel pleidlais dros y math o fyd rydych chi am fyw ynddo. Prynwch gan fusnesau cynaliadwy lleol, fel Siop Sero Caerdydd, osgowch gwmnïau ar-lein mawr fel Amazon neu Shien (sy'n OFNADWY i'r blaned) ac yn lle hynny chwiliwch am gwmnïau Ardystiedig B.
2. Bwytewch llai o gig
Mae bwyta cig ar raddfa fawr yn niweidiol i'r amgylchedd, gan achosi clirio tir helaeth, colli bioamrywiaeth, allyriadau nwyon tŷ gwydr uchel a mwy… Os nad yw mynd yn fegan yn addas i chi eto, rhowch gynnig ar ‘Ddydd Llun Di-gig’ neu amnewid rhywfaint o’ch cig a’ch cynnyrch llaeth wythnosol gyda dewisiadau eraill sy’n dod o blanhigion ac sydd â llai o garbon. Hefyd, ceisiwch bob amser ddefnyddio cig a bwyd môr a gynhyrchir yn foesegol ac yn gynaliadwy lle bo modd.
3. Lleihau defnydd
Mae hwn hefyd yn wych ar gyfer cyllidebu. Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch chi yn unig, mae hyn yn lleihau gwastraff ac yn arbed arian i chi – sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill! Meddyliwch nawr am Wrthod, Lleihau, Ailddefnyddio, Ailbwrpasu, Ailgylchu, gan ddechrau gyda gwrthod prynu rhywbeth os nad oes ei angen arnoch chi mewn gwirionedd. Dewiswch siopau elusen, dewch o hyd i'ch caffi atgyweirio lleol, trefnwch gyfnewid dillad gyda ffrindiau neu efallai hyd yn oed ddysgu sgil newydd a thrwsio neu ailgylchu rhywbeth sydd gennych chi’n barod!
4. Prynu’n well
Yn unol â rhif 3, mae prynu'n well yn golygu meddwl mwy am beth rydych chi’n ei brynu. Gall edrych fel arbed fyny ychydig cyn cael rhywbeth newydd (pan fydd yn rhaid i chi) fel y gallwch gael rhywbeth o ansawdd uwch a fydd yn para'n hirach - gan leihau'r angen i brynu un arall ymhen blynyddoedd! Gall yr awgrym hwn hefyd gynnwys prynu cynnyrch tymhorol ac organig lle bynnag y bo modd a cheisio peidio â phrynu bwydydd sydd â milltiroedd bwyd uchel iawn. Er enghraifft, rwy'n ceisio peidio â phrynu ffrwythau a llysiau sydd wedi croesi'r cyhydedd - y gellir gweithio hynny allan yn ôl y label bach o ble mae'r eitem wedi'i thyfu.
5. Osgowch ddeunydd pacio, a sortiwch eich sbwriel
Mae hyn yn syml ond gall wneud gwahaniaeth enfawr wrth leihau eich gwastraff plastig. Gall Lidl fod yn wych ar gyfer prynu ffrwythau a llysiau rhydd, dewiswch yr hyn rydych chi ei eisiau a'i bwyso wrth y til! Awgrym arall i arbed arian yw prynu mewn bagiau swmp – mae'n rhatach ac yn lleihau cyfanswm y deunydd pacio. Mae hefyd MOR bwysig sortio eich ailgylchu'n iawn, er nad yw'n hwyl iawn, fel arall gallai bennu lan yn y gwastraff cyffredinol. Edrychwch ar wefan Cyngor Caerdydd am eu teclyn chwilio ailgylchu ddefnyddiol i wirio beth y gellir ei ailgylchu a sut: A i Z ailgylchu.
6. Cadwch lygad ar eich defnydd dŵr
Mae disgwyl i'r galw byd-eang am ddŵr croyw fod 40% yn fwy na'r cyflenwad erbyn 2030 (Fforwm Economaidd y Byd, 2023). Felly, mae defnyddio llai o ddŵr yn fuddiol i'r blaned ac i'ch biliau dŵr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd y tap wrth frwsio'ch dannedd ac yn byrhau'ch amser yn y gawod. Mae gan bob un ohonom y ffrind hwnnw sy'n gadael y tap i redeg am 10 munud i olchi dwy lwy de – addysgwch nhw!
7. Teithio’n gynaliadwy
Dewiswch gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru lle bynnag y bo modd. Mae cerdded neu feicio, nid yn unig am ddim ond mae hefyd yn well i'ch iechyd! Mae gan y Brifysgol fenter hyd yn oed lle gallwch ennill gwobrau a gwobrau trwy deithio'n fwy cynaliadwy – edrychwch arni yma: Betterpoints: Changing Steps Cardiff.
8. Ailddefnyddiwch!
Fel rhywun sydd angen coffi cyn dechrau fy niwrnod, rwy'n gwerthfawrogi'r angen am goffi tra yn y brifysgol. Ond oeddech chi'n gwybod bod y DU yn taflu tua 2.5 biliwn o gwpanau tafladwy i ffwrdd y flwyddyn?! Yn hytrach na chyfrannu at y nifer hwnnw, buddsoddwch mewn cwpan ailddefnyddiadwy - mae'r rhan fwyaf o siopau coffi hefyd yn rhoi gostyngiad i chi os ydych chi'n defnyddio'ch cwpan eich hun felly bydd yn talu amdano'i hun yn y tymor hir!
Mae'r un peth yn wir am boteli dŵr. Mae gorsafoedd ail-lenwi ym mron pob adeilad prifysgol felly does dim esgus - ac unwaith eto, mae ail-lenwi AM DDIM!
9. Datgysylltwch eich electroneg, diffoddwch y goleuadau
Mae llawer o bobl yn gadael cyfrifiaduron, teledau, ffonau ac electroneg arall wedi'u plygio i mewn drwy'r dydd. A ydych chi'n aml yn gadael goleuadau ymlaen pan fyddwch chi'n mynd i ddarlithoedd? Gall cost gadael pethau wedi'u plygio i mewn neu wedi'u troi ymlaen pan nad ydych chi'n eu defnyddio fod yn uchel. Drwg i'r blaned ac i'ch bil trydan! A chofiwch ddiffodd bob amser cyn mynd i ffwrdd am benwythnosau neu wyliau.
10. Cymryd rhan
Mae cymaint o grwpiau a mentrau anhygoel yn yr UM, y Brifysgol ac yng Nghaerdydd. Gall cymryd rhan mewn grŵp gwirfoddolwyr amgylcheddol, cymdeithas neu gynllun Prifysgol fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un anian, cyfrannu at achub y blaned a gall hefyd roi hwb i'ch CV. Mae pob llais yn cyfrif wrth geisio creu dyfodol cynaliadwy, felly defnyddiwch eich un chi! Adnabyddwch eich arferion anghynaladwy, perswadiwch eich ffrindiau i roi cynnig ar un o'r awgrymiadau hyn neu hyd yn oed cysylltwch â'ch cynghorydd lleol, Aelod Senedd neu Senedd i eiriol dros faterion rydych chi'n angerddol amdanynt.
Dydy hi ddim yn bopeth neu ddim byd, mae pob cam bach yn cyfrif. Gall hyn ymddangos fel llawer o newidiadau i'w gwneud ond mae gwneud y newidiadau bach hyn drwy gydol ein bywydau beunyddiol yn gwneud gwahaniaeth. Dychmygwch pe bai holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gwneud dim ond hanner y rhestr hon - byddai hynny'n nifer ENFAWR o gamau bach yn creu newid ENFAWR yng Nghaerdydd. Byddwch yn rhan o'r newid cadarnhaol hwnnw a helpwch i adeiladu dyfodol amgylcheddol cynaliadwy!