Mae Nerth Dy Draed yn ôl am flwyddyn arall!
Clwb rhedeg iaith-Gymraeg ble mae'r sgwrs a'r awyr iach yn werth mwy na'r PB. Dim ots os ydych chi'n chwilio am ffordd newydd o gadw'n heini yn ystod y brifysgol, neu'n paratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd, dyma gyfle hollol chill i ymestyn y coesa' - a siwr gawn ni goffi ar ddiwedd y daith!
Cyfarfod tu allan i adeilad yr Undeb ar ochr Heol Senghennydd.