Event Information
- Cymraeg
- Freshers Events
- Microsite Events
TOCYNNAU AR GAEL YN FUAN
Yn cyflwyno: Yr UMCCwis! Cwis dafarn newydd sbon ar gyfer Pythefnos y Glas 2026! Casglwch dîm o’ch ffrindiau, rhowch eich gwybodaeth ar brawf a mwynhewch noson ble fyddwn ni'n ceisio darganfod aelodau mwya' peniog UMCC. Gyda digon o gwestiynau, cystadlu a gwobrau i’w hennill, dyma’r cyfle perffaith i gwrdd â phobl newydd, cael hwyl gyda’ch ffrindiau a dechrau’r flwyddyn academaidd mewn steil!
Cwis iaith-Gymraeg, ond agored i bawb!
Awgrymir cystadlu mewn timau o 5, ond croeso i chi greu tîm ar y noson.
Bydd y bar ar agor!