Rhestrau Chwilio am Dai Undeb y Myfyrwyr
Ydych chi'n chwilio am lety?
Ydych chi'n chwilio am fyfyriwr o Brifysgol
Caerdydd
i gymryd eich lle yn eich cytundeb tenantiaeth?
Ydych chi'n chwilio am fyfyriwr o
Brifysgol
Caerdydd i ymuno â'ch tŷ y flwyddyn nesaf?
Mae'r Rhestrau Tai Cyngor i Fyfyrwyr wedi'u cynllunio
i'ch
helpu i hysbysebu unrhyw ystafelloedd gwag yn eich tŷ tra'n helpu'r rhai sy'n cael trafferth dod
o
hyd i
lety i ddod o hyd i ystafell sbâr.
Isod fe welwch ddwy restr ar wahân lle gallwch chi:
- Bostio rhestriad i hysbysebu ystafell sbâr yn eich tŷ neu,
- Bosito rhestriad i ddweud wrth eraill eich bod yn chwilio am lety neu i rannu tŷ.
Os hoffech bostio rhestriad ar unrhyw un o'r rhestrau tai hyn,
cliciwch ar y ddolen(nau) priodol isod.
O'r fan honno, byddwch yn gallu cyflwyno cais i'r rhestr
tai.
Bydd gofyn i chi ddarparu eich manylion cyswllt. Sylwer:
- Bydd eich manylion ond ar gael i fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd sy'n edrych ar y rhestr dai.
- Gallwch ddileu neu ofyn i ni ddileu eich manylion unrhyw bryd, a byddwn yn eu dileu o fewn un diwrnod
gwaith.
- Ni fydd Cyngor i Fyfyrwyr nac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cysylltu â chi o ganlyniad i rannu'r
manylion
hyn ac eithrio pan fydd eich rhestriad wedi'i chwblhau neu'n dod i ben.
Bydd myfyrwyr sy'n cyrchu'r Rhestr Tai yn gallu anfon neges
atoch i holi am eich ystafell gwag. Eich penderfyniad chi yw a fyddwch yn ateb ai peidio, ond os nad ydych
yn
chwilio am lety neu denant mwyach, gofynnwn i chi ddileu eich rhestriad.
Mae'r rhestrau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn
academaidd 2024 - 2025.
Blwyddyn academaidd 2024 - 2025
Myfyrwyr sy'n chwilio am lety 2024 –
2025
Myfyrwyr ag ystafell sbâr 2024 –
2025
Blwyddyn academaidd 2025 - 2026
Myfyrwyr sy'n chwilio am lety 2025 –
2026
Myfyrwyr ag ystafell sbâr 2025 - 2026
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r Rhestrau Tai, cysylltwch
â Chyngor i Fyfyrwyr gan ddefnyddio'r manylion isod.