Gweithdrefn Adolygu'r Brifysgol
Mae
Gweithdrefn Adolygu'r Brifysgol
yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am adolygiad o benderfyniad ffurfiol gan
y Brifysgol. Fodd bynnag, gallwch ond wneud hyn gan ddefnyddio un o'r
seiliau dilys canlynol:
- afreoleidd-dra gweithdrefnol,
-
penderfyniad afresymol heb ei gefnogi gan y ffeithiau a gyflwynwyd, neu
- argaeledd tystiolaeth newydd.
Rhaid cyflwyno'r cais am adolygiad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y
penderfyniad, gan fanylu'r sail am adolygiad a'i gefnogi gyda thystiolaeth
berthnasol.
Mae'r broses adolygu yn cynnwys y Pennaeth Achosion Myfyrwyr, sy'n asesu
cymhwysedd y cais, ac os yw'n gymwys am adolygiad bydd yn cael ei adolygu
gan Uwch Swyddog neu Academydd annibynnol a fydd naill ai'n cynnal y
penderfyniad gwreiddiol, yn cyfeirio'r achos yn ôl am ystyriaeth bellach,
neu'n gwneud penderfyniad newydd.
Gall y weithdrefn cymryd amser, a bydd y Brifysgol yn ystyried yr achos
cyn gynted â phosib, ond gall gymryd hirach na'r amser a argymhellir gan
yr OIA sef 90 diwrnod. Os yw oedi yn achosi problemau sylweddol, gall
myfyrwyr godi cwyn gyda'r Brifysgol.
Os ydych angen cyngor ynghylch cais am adolygiad cysylltwch ag aelod
o'r tîm. Nid yw Cyngor i Fyfyrwyr yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Mae ein
cyngor yn annibynnol a'n gyfrinachol - e-bostiwch [email protected]
neu ffoniwch 02920781410
Os ydych yn cael trafferth gyda'ch astudiaethau oherwydd amgylchiadau
personol mae cymorth ar gael. Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr
a/neu eich Tiwtor Personol. Mae Gwasanaethau Bywyd y Myfyrwyr hefyd ar
gael i'ch helpu.
Cwestiynau Cyffredin
Pwy all ddefnyddio Gweithdrefn Adolygu'r Brifysgol?
Gall unrhyw fyfyriwr sydd wedi derbyn penderfyniad ffurfiol gan y
Brifysgol sy'n eu galluogi i gael mynediad at y Weithdrefn Adolygu ei
ddefnyddio.
Pa mor hir sydd gennyf i gyflwyno cais am adolygiad?
Rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 14 ar ôl derbyn y penderfyniad.
Nid yw 14 diwrnod yn gyfnod hir iawn yn enwedig os oes angen i chi
gyflwyno tystiolaeth ychwanegol. Rydym yn eich cynghori i gyflwyno
eich cais am adolygiad erbyn y dyddiad cau, nodi eich sail am wneud
felly, a datgan y bydd gwybodaeth a/neu dystiolaeth bellach i ddilyn.
Sut ydw i'n cyflwyno cais am adolygiad?
Anfonwch e-bost at y Pennaeth Achosion Myfyrwyr ar
[email protected], gan nodi sail eich cais am adolygiad a
darparu tystiolaeth. Mae'n bwysig esbonio pam rydych yn cyflwyno cais
am adolygiad.
Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n gwneud cais o fewn 14 diwrnod?
Bydd ceisiadau hwyr ond yn cael eu hystyried os allwch esbonio pam nad
oedd yn rhesymol neu'n bosib i chi gwrdd â'r dyddiad cau gwreiddiol.
Rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau,
nodi'r sail a datgan y bydd gwybodaeth a/neu dystiolaeth ychwanegol i
ddilyn. Os nad yw hyn yn bosib cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr am
arweiniad pellach.
Beth ddylen ei gynnwys yn fy nghais am adolygiad?
Esboniwch yn glir eich sail am adolygiad a darparwch unrhyw
dystiolaeth sydd gennych. Byddwch yn ymwybodol y bydd eich achos yn
cael ei asesu yn seiliedig ar y wybodaeth byddwch yn ei darparu.
Darparwch ddogfennau yn ymwneud â'r penderfyniad gwreiddiol gan
efallai na fydd gan Achosion Myfyrwyr y wybodaeth hon.
Sicrhewch eich bod yn deall y weithdrefnau sy'n berthnasol i'ch cais
am adolygiad a chyfeiriwch atynt lle bod angen. Gallwch wirio'r
Rheoliadau Academaidd
yma.
Ystyriwch y penderfyniad a'r rhesymau am y penderfyniad yn ofalus.
Pwy sy'n penderfynu os yw fy nghais yn gymwys am ystyriaeth?
Bydd Uwch Swyddog o'r tîm Achosion Myfyrwyr neu Academydd annibynnol
nad sy'n gysylltiedig â'ch ysgol yn adolygu eich achos.
Beth yw canlyniadau posib adolygiad?
Gall yr adolygiad gynnal y penderfyniad gwreiddiol, cyfeirio'r achos
yn ôl am ystyriaeth bellach, neu arwain at benderfyniad newydd yn unol
â rheoliadau'r Brifysgol.
Os yw fy adolygiad yn cael ei wrthod, beth allaf wneud nesaf?
Efallai byddwch am ystyried cyfeirio'r achos at
Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA)
ac mae gennych 12 mis i wneud felly ers i chi dderbyn eich llythyr
Cwblhau Gweithdrefnau (COP).