Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefydliad aelodaeth nid er elw, sy’n annibynnol o Brifysgol Caerdydd, ac
sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer ei aelodau. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth
academaidd, gweithredu masnachol, a chyngor ariannol a lles. Mae UMC yn derbyn grant gan Brifysgol
Caerdydd ac incwm gan ei adran fasnachol sy’n cynnwys lleoliadau, bariau, y SiopSwyddi, ac asiant
dai. Mae wedi’i lywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a’i gefnogi gan Uwch Dîm Rheoli,
tua 100 o staff llawn amser, a 300 o staff sy’n fyfyrwyr.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi’i lywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy’n cynnwys
Swyddogion Sabothol etholedig, Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr, ac Ymddiriedolwyr Allanol.
Mae’r Bwrdd wedi’i gefnogi gan Uwch Dîm Rheoli, tua 100 o staff llawn amser, a 300
o staff sy’n fyfyrwyr.
Mae gan y Bwrdd 15 aelod ac mae’n cwrdd o leiaf pedair gwaith y flwyddyn. Mae Ymddiriedolwyr
wedi’u hethol (neu eu dewis) yn seiliedig ar y criteria a amlinellir yn Erthyglau
Cymdeithasu’r Undeb, er mwyn sicrhau bod arweiniad ar ran myfyrwyr ac arbenigedd proffesiynol.
Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd yn cynnwys:
- Saith Ymddiriedolwr Sabothol
- Tri Ymddiriedolwr sy’n Fyfyrwyr
- Dau Ymddiriedolwr wedi’u Henwebu gan y Brifysgol
- Tri Ymddiriedolwr Allanol
Prif Gyfrifoldebau
Mae gan bob Ymddiriedolwr gyfrifoldeb i:
Sicrhau fod UMC yn gweithredu yn unol â’i amcanion elusennol a dogfennau
llywodraethu
Sicrhau bod UMC yn dilyn ei Strategaeth, Gweledigaeth, a Gwerthoedd
Helpu UMC i gyflawni ei amcanion er budd aelodau
Sicrhau bod UMC yn dilyn unrhyw ddeddfwriaethau a rheoliadau perthnasol
Sicrhau nad yw UMC yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau allai peryglu ei sefydlogrwydd ariannol,
ei aelodau neu ei enw da
Gweithio gydag Ymddiriedolwyr eraill a staff mewn modd adeiladol
Cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Bwrdd
Defnyddio eu sgiliau a phrofiadau proffesiynol i sicrhau bod UMC yn rhedeg yn dda ac yn
effeithiol
Chwilio am gyngor allanol proffesiynol pan fod risg i’r Undeb neu le bod Ymddiriedolwyr
yn torri disgwyliadau eu rôl
Cyfrannu at y Bwrdd a’r Undeb trwy greu syniadau, herio arferion, meddwl ymhellach, a
chefnogi a hyrwyddo arloesedd a chreadigrwydd.