Cardiff Students' Union is committed to ensuring that all job applicants and members of staff are treated equally, without discrimination. When recruiting for any position across the organisation, an Equality Monitoring form is required to be completed by all candidates. This is intended to help us record diversity of applications and to understand the successes of any initiatives in place that improve accessibility of recruitment practices. The form is purposely separate from the application form and does not play a part in the recruitment process. To see more about our recruitment process visit cardiffstudents.com/about/hwr/work-with-us Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd swydd ac aelod o staff yn cael eu trin yn gyfartal, heb wahaniaethu. Wrth recriwtio ar gyfer unrhyw swydd ar draws y sefydliad, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ffurflen Monitro Cydraddoldeb. Bwriad hyn yw ein helpu i gofnodi amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr ac i ddeall llwyddiannau unrhyw fentrau sydd ar waith i wella hygyrchedd arferion recriwtio. Mae'r ffurflen ar wahân i'r ffurflen gais ac nid yw'n rhan o’r broses recriwtio. I weld mwy am ein proses recriwtio ewch i cardiffstudents.com/about/hwr/work-with-us
On the 5th April 2025 (the snapshot date) there were 820 employees recorded as being paid for work by Cardiff Students’ Union. This was based on a split of 566 females and 254 males, resulting in a split of 69.02% females and 30.98% male workforce. These employees consisted of both career and student staff. There were 717 student workers and 103 career staff employees. Ar 5ed Ebrill 2024 (dyddiad y ciplun) cofnodwyd bod 987 o weithwyr yn cael eu talu am waith gan Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Roedd hyn yn seiliedig ar raniad o 653 o fenywod a 334 o ddynion, gan arwain at raniad o 66.16% o fenywod a 35.42% o ddynion yn y gweithlu. Roedd y gweithwyr hyn yn cynnwys staff gyrfa a staff myfyrwyr. Roedd 888 o weithwyr yn fyfyrwyr a 99 o weithwyr yn staff gyrfa.
Currently the Gender Pay Gap reporting mechanisms only allow or us to report on male and female genders. Where some of our members of staff identify as non-binary individuals, HR have had to use the gender from the individual’s passport in order to comply with the regulations. Ar hyn o bryd dim ond ar rywiau gwrywaidd a benywaidd y mae mecanweithiau adrodd y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn caniatáu inni adrodd. Lle mae rhai o'n haelodau staff yn nodi eu hunain fel unigolion anneuaidd, mae'r Adnoddau Dynol wedi gorfod defnyddio'r rhyw o basbort yr unigolyn er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau.
Below is a summary of our gender pay gap reported figures based on the 5th April 2025.Isod mae crynodeb o'n ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau a adroddwyd yn seiliedig ar 5ed Ebrill 2025.
Detailed below are the results as they stand for our current staff, which will be published on the main pages of the government’s website. The data is based on the 5th April 2025.Manylir isod ar y canlyniadau fel y maent ar gyfer ein staff presennol, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar brif dudalennau gwefan y llywodraeth. Mae'r data yn seiliedig ar 5ed Ebrill 2025.
Mean: The mean pay gap stands at 6.9%. Meaning, on average, women are paid 6.9% less than men. The mean figures are calculated based on both career and student staff.Cymedr: Mae'r bwlch cyflog cymedrig yn 6.9%. Sy'n golygu, ar gyfartaledd, bod menywod yn cael eu talu 6.9% yn llai na dynion. Cyfrifir y ffigurau cymedrig yn seiliedig ar staff gyrfa a staff myfyrwyr.
Median: The median pay gap stands at 0.0%. Meaning that the middle pay rate for females is equal to males.Canolrif: Mae'r bwlch cyflog canolrif yn 0.0%. Sy'n golygu bod y gyfradd gyflog ganol i fenywod yn hafal i ddynion.
Neither male nor female employees received bonus pay during this period.Ni dderbyniodd gweithwyr gwrywaidd na benywaidd gyflog bonws yn ystod y cyfnod hwn.
Pay per QuartileCyflog fesul Chwartel
Upper quartile: Male 44.4% | Female 55.6%Chwartel uchaf: Gwryw 44.4% | Benyw 55.6%
Upper middle quartile: Male 23.4% | Female 73.8% Chwartel canol uchaf: Gwryw 23.4% | Benyw 73.8%
Lower middle quartile: Male 31.6% | Female 67.8%Chwartel canol isaf: Gwryw 31.6% | Benyw 67.8%
Lower quartile: Male 23.9% | Female 76.1%Chwartel isaf: Gwryw 23.9% | Benyw 76.1%
The figures above show that there are more females in each quartile; however, this is in part linked to the overall greater number of females to males in the wider organisation; 566 females to 254 males. Mae'r ffigurau uchod yn dangos bod mwy o fenywod ym mhob chwartel; fodd bynnag, mae hyn yn gysylltiedig yn rhannol â'r nifer uwch o fenywod i ddynion yn y sefydliad ehangach; 566 o fenywod i 254 o ddynion.
The quartile figures are calculated based on the career and casual staff, therefore include all student staff. This shows that women are paid more than men in the upper and lower quartiles of jobs.Mae'r ffigurau chwartel wedi'u cyfrifo yn seiliedig ar y staff gyrfa ac achlysurol, felly maent yn cynnwys yr holl staff myfyrwyr. Mae hyn yn dangos bod menywod yn cael eu talu mwy na dynion yn y chwarteli uchaf ac isaf o swyddi.
The organisation aspires to demonstrate diversity across all areas of the company and be representative, where possible, of society and of the students who use our services. Mae'r sefydliad yn anelu at ddangos amrywiaeth ar draws pob maes o'r cwmni a bod yn gynrychioliadol, lle bo modd, o gymdeithas ac o'r myfyrwyr sy'n defnyddio ein gwasanaethau.
In terms of the organisation’s current figures, the organisation is confident that employees are being paid fairly for the roles that they undertake. This is achieved through a detailed job evaluation process which ensures all aspects of a post are reviewed and taken into account when salary grades are determined. Cardiff Students’ Union is committed to ensuring that all staff are treated equally and fairly under the terms of its policy and practices covering equality, diversity and inclusion. This embraces all the terms and conditions of employment of which equal pay for work of equal value is a key principle. We recognise that to achieve equal pay for employees carrying out equal work, we must operate a pay system which is transparent, based on objective criteria and free from unfair bias on any grounds. CSU has a bespoke job evaluation process which enables the requirements considered necessary to undertake the role to be assessed against eight key factors each of which has several levels. This ensures consistency and fairness for evaluating the pay of different positions. O ran ffigurau cyfredol y sefydliad, mae'r sefydliad yn hyderus bod gweithwyr yn cael eu talu'n deg am y rolau y maent yn eu cyflawni. Cyflawnir hyn trwy broses fanwl o werthuso swyddi sy'n sicrhau bod pob agwedd ar swydd yn cael ei hadolygu a'i hystyried wrth bennu graddfeydd cyflog. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg o dan delerau ei bolisi a'i arferion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn cwmpasu holl delerau ac amodau cyflogaeth, ac mae cyflog cyfartal am waith o werth cyfartal yn egwyddor allweddol. Rydym yn cydnabod, er mwyn cyflawni cyflog cyfartal i weithwyr sy'n cyflawni gwaith cyfartal, bod rhaid i ni weithredu system gyflog sy'n dryloyw, yn seiliedig ar feini prawf gwrthrychol ac yn rhydd rhag unrhyw ragfarn annheg. Mae gan UMC broses benodol o werthuso swyddi sy'n galluogi asesu’r gofynion sydd eu hangen i gyflawni rôl yn erbyn wyth ffactor allweddol, pob un â sawl lefel. Mae hyn yn sicrhau cysondeb a thegwch wrth werthuso cyflog ar gyfer gwahanol swyddi.
As a company, we provide many benefits and alternative ways which employees can utilise throughout their employment. This includes some of our other policies within the company certifying that flexibility exists in terms of working patterns and reduced/condensed hours, to support all staff that may have caring commitments. There are also the options of maternity, paternity, adoption leave, shared parental leave and special leave to ensure all employees of all genders have a fair choice in their home life decisions.Fel cwmni, rydym yn darparu llawer o fuddion a ffyrdd amgen y gall gweithwyr eu defnyddio drwy gydol eu cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys rhai o'n polisïau eraill o fewn y cwmni sy'n cadarnhau bod hyblygrwydd ar gael o ran patrymau gwaith ac oriau llai/cywasgedig, er mwyn cefnogi pob aelod o staff a allai fod â chyfrifoldebau gofalu. Mae yna hefyd opsiynau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhiant a rennir ac absenoldeb arbennig i sicrhau bod gan bob gweithiwr o bob rhyw ddewis teg yn eu penderfyniadau bywyd cartref.
The organisation considers that the existing practices in place are sufficient and should lead to further improvements in gender balance. At present the upper quartile is 55.6% female; however, there is still some further balance to achieve when looking at the career staff element only. A continued focus will be made on using positive action where appropriate to attempt to increase diversity across our organisation. As part of this, the organisation would consider promoting or recruiting a candidate who is of equal merit to another, but who we reasonably believe has a protected characteristic (as defined by the Equality Act 2010) that is under-represented in the organisation.Mae'r sefydliad o'r farn bod yr arferion presennol sydd ar waith yn ddigonol a dylent arwain at welliannau pellach o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau. Ar hyn o bryd, mae’r chwartel uchaf yn cynnwys 54.7% o fenywod; fodd bynnag, mae rhywfaint o gydbwysedd pellach i'w gyflawni o hyd wrth edrych ar yr elfen staff gyrfa yn unig. Bydd ffocws parhaus yn cael ei roi ar ddefnyddio gweithredu cadarnhaol lle bo'n briodol i geisio cynyddu amrywiaeth ar draws ein sefydliad. Fel rhan o hyn, byddai'r sefydliad yn ystyried hyrwyddo neu recriwtio ymgeisydd sydd o deilyngdod cyfartal i un arall, ond yr ydym yn credu'n rhesymol bod ganddo nodwedd warchodedig (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad.