We host a range of fairs during Freshers' Week, giving you the opportunity to meet the students who run our clubs and societies. You can also find out what services are available to Cardiff University students and pick up some awesome freebies!
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ffeiriau yn ystod Wythnos y Glas, gan roi'r cyfle i chi gwrdd â'r myfyrwyr sy'n rhedeg ein clybiau a chymdeithasau. Gallwch hefyd ddarganfod pa wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chasglu rhai freebies anhygoel!
There will be different companies every day and the student stalls change across the two-day Societies and Freebies Fairs so we recommend coming to all the fairs.
Bydd gwahanol gwmnïau bob dydd a bydd stondinau myfyrwyr yn newid ar draws y deuddydd o Ffeiriau Cymdeithasau a Freebies, felly rydym yn argymell dod i'r holl ffeiriau.
Please book a free entry ticket at the time you would like to arrive at the fair. There are lots of slots to choose from throughout the day.
Archebwch docyn mynediad am ddim ar yr amser yr hoffech gyrraedd y ffair. Mae yna lawer o slotiau i ddewis ohonynt drwy gydol y dydd.
Accessibility
Hygyrchedd
If you have accessibility requirements, please take the lift to level one where staff will meet you and assist you to enter the fair.
Os oes gennych ofynion hygyrchedd, ewch yn y lifft i lefel un lle bydd staff yn cwrdd â chi ac yn eich cynorthwyo i fynd i mewn i’r ffair.
A quiet hour is available at the start of each fair. This hour is reserved for neurodiverse and disabled students who benefit from the reduced capacity and lowered music levels.
Mae awr dawel ar gael ar ddechrau pob ffair. Mae'r awr hon wedi'i neilltuo ar gyfer myfyrwyr niwro-amrywiol ac anabl sy’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn amgylchedd tawelach, gyda llai o bobl a lefelau cerddoriaeth is.
Heath Fairs
Ffeiriau'r Mynydd Bychan
You won’t need a ticket to attend the Heath Freshers’ Fairs, you can arrive at any time while these fairs are open. We will scan your student card at the entrance.
Ni fydd angen tocyn arnoch i fynychu Ffeiriau’r Glas y Mynydd Bychan, gallwch gyrraedd unrhyw bryd tra bod y ffeiriau hyn ar agor. Byddwn yn sganio'ch cerdyn myfyriwr wrth y fynedfa.