We host a range of fairs during Freshers' Week, giving you the opportunity to meet the students who run our clubs, societies and volunteering projects. You can also find out what services are available to Cardiff University students and pick up some awesome freebies!
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ffeiriau yn ystod Wythnos y Glas, gan roi'r cyfle i chi gwrdd â'r myfyrwyr sy'n rhedeg ein clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli. Gallwch hefyd ddarganfod pa wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chasglu rhai freebies anhygoel!
There will be different companies every day and the student stalls change across the two-day Societies and Volunteering Fairs so we recommend coming to all the fairs. To find out who’s attending and plan your time, click on the link below.
Bydd gwahanol gwmnïau bob dydd a bydd stondinau myfyrwyr yn newid ar draws y deuddydd o Ffeiriau Cymdeithasau a Gwirfoddoli, felly rydym yn argymell dod i'r holl ffeiriau. I ddarganfod pwy sy'n mynd i fod yno a chynllunio'ch amser, cliciwch ar y ddolen isod.
This year, we’re expanding the fairs across 5 days and bringing you a brand-new Friday Freebies Fair. This event is all about freebies, live music, giveaways and plenty to sample from local and national brand owners and venues.
Eleni, rydym yn ehangu'r ffeiriau dros 5 diwrnod ac yn dod â Ffair Freebies newydd sbon i chi ar y dydd Gwener. Mae’r digwyddiad newydd sbon hwn i gyd yn ymwneud â nwyddau rhad ac am ddim, cerddoriaeth fyw, y cwmnïau gorau, cystadlaethau a digon i’w flasu.
Please book a free entry ticket at the time you would like to arrive at the fair. There are lots of slots to choose from throughout the day.
Archebwch docyn mynediad am ddim ar yr amser yr hoffech gyrraedd y ffair. Mae yna lawer o slotiau i ddewis ohonynt drwy gydol y dydd.
Heath Fairs & IMG Fair
Ffeiriau'r Mynydd Bychan a Ffair IMG
You won’t need a ticket to attend the Heath Freshers’ Fairs and IMG (Intra Mural Games) Fair, you can arrive at any time while these fairs are open. We will scan your student card at the entrance.
Ni fydd angen tocyn arnoch i fynychu Ffeiriau’r Glas y Mynydd Bychan a Ffair IMG (Gemau Mewn-golegol), gallwch gyrraedd unrhyw bryd tra bod y ffeiriau hyn ar agor. Byddwn yn sganio'ch cerdyn myfyriwr wrth y fynedfa.