Shwmae,
Ychydig amdanaf i... Sweezel ydw i, eich Swyddog Myfyrwyr Hŷn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ar hyn o bryd rydw i’n astudio ar gyfer gradd meistr mewn ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rwy'n angerddol iawn dros wella ansawdd bywyd myfyrwyr hŷn sy’n astudio ar hyn o bryd neu sy’n ystyried dechrau eu bywyd prifysgol. Mae bod yn fyfyriwr hŷn yn dod â llawer o heriau, lle bod angen cydbwyso gwaith, teulu a bywyd fel myfyriwr.
Felly, os ydych yn fyfyriwr hŷn ac rydych yn dod ar draws unrhyw anghyfleusterau yn ymwneud â’ch bywyd prifysgol, peidiwch oedi i gysylltu â mi. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ddatrys y broblem a chynrychioli myfyrwyr hŷn, gan godi problemau sy’n effeithio ar eich astudiaethau a bywyd academaidd. Hefyd, ymunwch â’r gymdeithas myfyrwyr hŷn er mwyn darganfod mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr hŷn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ceisiadau neu eich bod eisiau sgwrs, croeso i chi gysylltu â mi!