Statement: End the dispute | Datganiad: Dewch â'r anghydfod i ben

An open letter to Vice Chancellor Colin Riordan from your Sabbatical Officers | Llythyr agored i’r Is-Ganghellor Colin Riordan oddi wrth eich Swyddogion Sabothol

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Annwyl Is-Ganghellor,

This week marks yet another failure for students at Cardiff University.

Thousands of our final-year students will be receiving their transcripts, the culmination of years of hard work. However, many of these students will not be receiving the documents they have spent years working towards. Instead, they will receive pieces of paper littered with ‘missing marks’ from assessments and modules not yet assessed. This is on top of students having lost teaching, contact hours, supervision, and academic support due to strike action across the year. This will have severe consequences on employability, access to further study, and access to funding programmes for research, among other areas of our graduating students’ lives.

We call on you, as the Vice Chancellor of Cardiff University, to reimburse the fees of all students who have been impacted by the industrial action. The University have over-promised and under-delivered, with some students left without classified degrees.

This crisis has been growing for many months and should not have taken the university by surprise. Cardiff University has made the choice to intimidate and manipulate through the use of 50% pay deductions to staff for the entirety of the Marking and Assessment Boycott – one of the harshest penalties in the sector. This is a decision designed to break and invalidate the efforts of staff in the fight for better pay and conditions and disproportionately impacts members of our Union and especially our Postgraduate Students who teach.

We call on you, as the Vice Chancellor of Cardiff University, to immediately retract these threats and meaningfully engage with Cardiff UCU branch to find a resolution. This dispute is only going to end through willing and constructive negotiations.

We all came to university to learn, grow as people, and become part of a community much greater than ourselves. Our students recognise that the strike action is not only a fight for better pay and pensions, but is also one against pay inequality, precarious work, and excessive workloads. A fight which will not only benefit our postgraduate students who teach but all our students whose learning conditions are staffs’ working conditions. Our student support has continued to be loud and clear and was solidified in students’ overwhelming vote in favour of supporting UCU strike action at our Annual General Meeting in December 2022.

We call on you, as the Vice Chancellor of Cardiff University, to do everything within your power to support negotiations, ensure UCEA remain at the table, and make a fair offer to UCU.

Together we can end this dispute for good. Sign the petition and have your say.

The Sabbatical Officer Team of 2023/24  

 Angie Flores Acuña, Students’ Union President 

 Madison Hutchinson, Vice President Societies & Volunteering - (Received a transcript with “missing marks”)

 Georgia Spry, Vice President Sports and Athletic Union President - (Transcript delayed)

 Noah Russell, Vice President Undergraduate Students (Education & Welfare)

 Micaela Panes, Vice President Postgraduate Students (Education & Welfare)

Alex Meers, Vice President Heath Park Campus (Education & Welfare)

Deio Owen, Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru 


Annwyl Is-Ganghellor,

Mae'r wythnos hon yn nodi methiant arall i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Bydd miloedd o'n myfyrwyr blwyddyn olaf yn derbyn eu trawsgrifiadau, penllanw blynyddoedd o waith caled. Fodd bynnag, ni fydd llawer o'r myfyrwyr hyn yn derbyn y dogfennau y maent wedi treulio blynyddoedd yn gweithio tuag atynt. Yn hytrach, byddant yn derbyn darnau o bapur yn frith o 'farciau coll' am asesiadau a modiwlau nad ydynt wedi'u hasesu eto. Mae hyn ar ben yr addysgu, oriau cyswllt, goruchwyliaeth a chefnogaeth academaidd a gollodd myfyrwyr oherwydd streicio dros y flwyddyn. Bydd hyn yn arwain at oblygiadau difrifol o ran cyflogadwyedd, mynediad at astudiaethau pellach, a mynediad at raglenni ariannu ar gyfer ymchwil, ymhlith meysydd eraill ym mywydau ein myfyrwyr sy'n graddio.

Rydym yn galw arnoch chi, fel Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, i ad-dalu ffioedd yr holl fyfyrwyr y mae'r gweithredu diwydiannol wedi eu heffeithio arnynt. Gwnaethoch chi addo gormod a thangyflwyno, gyda rhai myfyrwyr wedi eu gadael heb raddau dosbarthedig.

Mae'r argyfwng hwn wedi bod yn tyfu ers misoedd lawer ac ni ddylai fod wedi synnu'r brifysgol. Mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud y dewis i ddychryn a thrin trwy ddefnyddio didyniadau cyflog o 50% i staff trwy gydol yr holl Foicot Marcio ac Asesu - un o'r cosbau llymaf yn y sector. Mae hwn yn benderfyniad sydd wedi'i gynllunio i dorri ac annilysu ymdrechion staff yn y frwydr dros well tâl ac amodau, ac mae’n effeithio'n anghymesur ar aelodau o'n Hundeb ac yn enwedig ein Myfyrwyr Ôl-raddedig sy'n addysgu.

Rydym yn galw arnoch chi, fel Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, i dynnu'r bygythiadau hyn yn ôl ar unwaith ac ymgysylltu'n ystyrlon â changen UCU Caerdydd i ddod o hyd i ddatrysiad. Dim ond trwy drafodaethau bodlon ac adeiladol y bydd yr anghydfod hwn yn dod i ben.

Daethom ni i gyd i'r brifysgol i ddysgu, tyfu fel pobl, a dod yn rhan o gymuned llawer mwy na ni ein hunain. Mae ein myfyrwyr yn cydnabod bod y streicio nid yn unig yn frwydr am well tâl a phensiynau, ond hefyd yn un yn erbyn anghydraddoldeb cyflog, gwaith ansicr, a llwyth gwaith gormodol. Brwydr a fydd nid yn unig o fudd i'n myfyrwyr ôl-raddedig sy'n addysgu, ond ein holl fyfyrwyr y mae eu hamodau dysgu yn amodau gwaith staff. Mae cefnogaeth ein myfyrwyr wedi parhau i fod yn uchel ac yn glir ac fe'i cadarnhawyd ym mhleidlais ysgubol myfyrwyr o blaid cefnogi streicio'r UCU yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Rhagfyr 2022.

Rydym yn galw arnoch chi, fel Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, i wneud popeth o fewn eich gallu i gefnogi trafodaethau, sicrhau bod UCEA yn parhau i fod yn rhan o’r drafodaethau, a gwneud cynnig teg i UCU.

Gyda'n gilydd gallwn ddod â'r anghydfod hwn i ben am byth. Llofnodwch y ddeiseb a lleisiwch eich barn.

Tîm Swyddogion Sabothol 2023/24  

 Angie Flores Acuña, Llywydd Undeb y Myfyrwyr 

 Madison Hutchinson, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli - (Wedi derbyn trawsgrifiad gyda “marciau coll”)

 Georgia Spry, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau - (Trawsgrifiad hwyr)

 Noah Russell, Is-lywydd Myfyrwyr Israddedig (Addysg a Lles)

 Micaela Panes, Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig (Addysg a Lles)

Alex Meers, Is-lywydd Parc y Mynydd Bychan (Addysg a Lles)

Deio Owen, Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru 

Comments

 
default