Taylor Receives NSVA Recognition | Taylor yn Derbyn Cydnabyddiaeth NSVA

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Taylor, a dedicated advocate for LGBTQIA+, BAME, and Neurodivergent students at Cardiff University, has been recognised for their outstanding achievements at the esteemed National Societies and Volunteering Awards (NSVA), being shortlisted and achieving runner up in The Extra Mile Award. 

Taylor's remarkable contributions, especially their initiative of sensory reduction sessions, have received special recognition. These sessions have successfully fostered a more inclusive environment for neurodivergent individuals, while also receiving praise for their positive impact on mental health across the student community.

Beyond their efforts, Taylor has actively participated in various societies, emerging as a true champion for the student voice, also being awarded the Student Leader Award at this year’s SVMA awards. Their involvement has spanned across different groups, empowering individuals, and driving positive change within the university community. Taylor's advocacy for LGBTQIA+, BAME, and neurodivergent students at Cardiff University has been instrumental in creating a supportive and inclusive atmosphere for all.

Shreshth Goel, VP Societies and Volunteering at Cardiff Students’ Union said: "The recognition at NSVA is a testament to Taylor's exceptional dedication in championing marginalised students and fostering an inclusive campus environment. Taylor's work has left a permanent mark on our university community, and we are immensely proud to have them as an integral part of our student body."

"My experiences with in Cardiff SU have been absolutely incredible. It's allowed me access to so many opportunities that I wouldn't have been able to have otherwise, meet so many incredible people from places I wouldn't have expected and find new passions outside what I thought I had.” 
 

"I really started engaging with the SU when I was a first year, but I really think there's no best time to do it, even if you're only in Cardiff for a term or its your last year! The societies that I am involved in have brought me so much happiness and made my time at Cardiff Uni so much more enjoyable."

Taylor

Inspired by Taylor's incredible accomplishments, Cardiff Students’ Union encourages all students to take an active role in shaping their university experience. Joining societies and volunteering provide unique opportunities for personal growth, fostering friendships, and making a positive impact on the community. By signing up to societies or volunteering, students can explore their passions, broaden their horizons, and contribute to creating an inclusive and vibrant campus environment.

See how you can get involved here.


Mae Taylor, eiriolwr ymroddedig dros fyfyrwyr LHDTCRhA+, Duon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a Niwrowahanol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau rhagorol yn y Gwobrau Cymdeithasau a Gwirfoddoli Cenedlaethol (NSVA), gan gyrraedd y rhestr fer a dod yn ail yng Ngwobr yr Ail Filltir. 

Mae cyfraniadau anhygoel Taylor, yn enwedig eu menter sy’n cynnwys sesiynau tawelu’r synhwyrau, wedi derbyn cydnabyddiaeth arbennig. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn llwyddiannus wrth feithrin amgylchedd mwy cynhwysol ar gyfer unigolion niwrowahanol, tra hefyd yn derbyn canmoliaeth am eu heffaith gadarnhaol ar iechyd meddwl ar draws cymuned y myfyrwyr.

Y tu hwnt i'w hymdrechion, mae Taylor wedi cymryd rhan weithredol mewn gwahanol gymdeithasau, gan ddod i'r amlwg fel gwir hyrwyddwr llais y myfyrwyr, gan ennill Gwobr Arweinydd Myfyrwyr yng ngwobrau SVMA eleni. Mae eu cyfranogiad wedi rhychwantu gwahanol grwpiau, gan rymuso unigolion, a sbarduno newid cadarnhaol o fewn cymuned y brifysgol. Mae eiriolaeth Taylor ar gyfer myfyrwyr LHDTCRhA+, Duon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a niwrowahanol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn allweddol wrth greu awyrgylch cefnogol a chynhwysol i bawb.

Dywedodd Shreshth Goel, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Caerdydd: "Mae'r gydnabyddiaeth yn NSVA yn dyst i ymroddiad eithriadol Taylor wrth hyrwyddo myfyrwyr ymylol a meithrin amgylchedd cynhwysol ar y campws. Mae gwaith Taylor wedi gadael marc parhaol ar gymuned ein prifysgolion, ac rydym yn hynod falch o'u cael fel rhan annatod o'n corff myfyrwyr."

"Mae fy mhrofiadau gydag UM Caerdydd wedi bod yn hollol anhygoel. Maent wedi fy ngalluogi i gael mynediad at gymaint o gyfleoedd na fyddwn wedi gallu eu cael fel arall, cwrdd â chymaint o bobl anhygoel o lefydd na fyddwn i wedi'u disgwyl a dod o hyd i ddiddordebau newydd y tu allan i'r hyn roeddwn i'n meddwl fod gen i.
 

"Fe wnes i wir ddechrau ymgysylltu â'r UM pan oeddwn i yn fy mlwyddyn gyntaf, ond dw i wir yn meddwl nad oes amser gorau i'w wneud, hyd yn oed os mai dim ond am dymor ry’ch chi yng Nghaerdydd neu ei bod hi’ch blwyddyn olaf! Mae'r cymdeithasau dwi’n ymwneud â nhw wedi dod â chymaint o hapusrwydd i mi ac wedi gwneud fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd gymaint yn fwy difyr."

Taylor

Wedi'u hysbrydoli gan gyflawniadau anhygoel Taylor, mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn annog pob myfyriwr i gymryd rhan weithredol wrth lunio eu profiad yn y brifysgol. Mae ymuno â chymdeithasau a grwpiau gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd unigryw ar gyfer twf personol, meithrin cyfeillgarwch, a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Trwy gofrestru i gymryd rhan mewn cymdeithasau neu weithgareddau gwirfoddoli, gall myfyrwyr archwilio eu diddordebau, ehangu eu gorwelion, a chyfrannu at greu amgylchedd cynhwysol a bywiog ar y campws.

Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan yma.

Comments

 
dominos