Graduate Tutor and Demonstrator Contracts | Contractau Tiwtoriaid ac Arddangoswyr Graddedig

A statement from your VP Postgraduate Students.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

As many of you will be aware, from August 2023 Postgraduate Tutors and Demonstrators should be employed under a proper contract of employment instead of the old Code of Practice. This is something that the Students’ Union, along with many Postgraduate Researchers (PGRs), have campaigned for since 2017/18.

We understand that these contracts are far from perfect and that we need to continue to lobby for their improvement, particularly in areas surrounding the cap on hours which significantly impacts part-time PGRs. Despite this, securing contracts of employment for PGRs is a monumental win which obtains and protects fundamental employment rights and benefits for Graduate Tutors and Demonstrators.

I have been pleased to see most Schools working hard to properly implement Graduate Tutor and Demonstrator contracts, even with late notice of the terms and conditions and tight deadlines for allocating and delivering undergraduate teaching. Although this has been encouraging, I have been made aware of instances where some Schools have attempted to employ Graduate Demonstrators through alternative means. Since September, we have prevented two Schools from employing Demonstrators without contracts and we will continue to lobby those that fail to respect their PGRs and prevent them from obtaining the rights and benefits they deserve.

If you are a Graduate Tutor or Demonstrator, you should not be employed through Jobshop unless this work is very short term (three months or less), ad-hoc, or does not fit the Tutor or Demonstrator job descriptions. I urge you all to check your role against the job descriptions provided by the University.

If you believe that you are working as a Graduate Demonstrator or Tutor and are not employed on a contract or are employed through Jobshop, please email: VPPostgraduate@Cardiff.ac.uk

Solidarity,

Micaela Panes (Vice-President Postgraduate Students)

 


Fel y bydd llawer ohonoch eisoes yn gwybod, o fis Awst 2023 dylai Tiwtoriaid Ôl-raddedig ac Arddangoswyr cael eu cyflogi o dan gontract priodol o gyflogaeth yn lle’r hen Côd Ymarfer. Mae hyn yn rhywbeth mae’r Undeb Myfyrwyr, ynghyd ag Ymchwilwyr Ôl-raddedig (YÔR), wedi bod yn ymgyrchu dros ers 2017/18.

Rydym yn deall fod y contractau yma’n bell o fod yn berffaith ac rydym yn parhau i lobïo i’w gwella, yn enwedig mewn ardaloedd yn ymwneud â’r cyfyngiad oriau sy’n effeithio’n fawr ar YÔRau rhan amser. Er hyn, mae sicrhau contractau o gyflogaeth i YÔRau yn fuddugoliaeth aruthrol sy’n ennill ac yn diogelu hawliau a buddion cyflogaeth sylfaenol i Diwtoriaid ac Arddangoswyr Graddedig.

Rydw i’n falch i weld y rhan fwyaf o Ysgolion yn gweithio’n galed i weithredu contractau Tiwtoriaid ac Arddangoswr Graddedig, hyd yn oed gyda rhybudd hwyr o'r telerau ac amodau a therfynau amser tynn am ddyrannu a chyflwyno addysg israddedig. Er bod hyn yn galonogol, rydw i wedi cael gwybod am achlysuron lle bod rhai Ysgolion wedi ceisio cyflogi Arddangoswyr Graddedig drwy ddulliau eraill. Ers mis Medi, rydym wedi atal dwy Ysgol rhag cyflogi Arddangoswyr heb gontractau a byddwn yn parhau i lobïo’r rheiny sy’n methu parchu eu Hymchwilwyr Ôl-raddedig ac sy’n eu hatal rhag ennill yr hawliau a buddion maent yn eu haeddu.

Os ydych yn Diwtor neu Arddangoswr Graddedig, ni ddylech gael eich cyflogi trwy’r Siopswyddi oni bai eich bod yn gweithio am gyfnod byr iawn (tair mis neu lai), yn ‘ad-hoc, neu ddim yn cyflawni disgrifiad swydd Tiwtor neu Arddangoswr. Rwy’n eich annog i wirio’ch rôl yn erbyn y disgrifiad swydd wedi’i ddarparu gan y Brifysgol.

Os ydych yn gweithio fel Arddangoswr neu Diwtor Graddedig ac nid ydych wedi’ch cyflogi ar gontract, neu rydych wedi’ch cyflogi trwy’r Siopswyddi, e-bostiwch VPPostgraduate@Cardiff.ac.uk

Cydsafwn,

Micaela Panes (Is-lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig)

Comments

 
default