Cymraeg

Short Term Accommodation

Short-term accommodation can be much harder to find in Cardiff and most landlords/letting agents will insist on a minimum contract of six months. If you are looking for less than six months you can try the following options:

 

University Residences

 

Short-term University accommodation is generally only available over the summer months, from 30 June 2023 to 13 September 2023. For existing residences of university accommodation, there is usually a minimum stay of 7 nights. Such accommodation is self-catered and payable on a nightly basis.

 

For individuals that were not previously living in university-owned accommodation, rooms and prices may vary. Rooms are single occupancy with shared kitchen and bathroom facilities and are subject to availability. Bookings must be received at least 2 working days in advance.

 

For more information about student summer accommodation, please click here.

 

Private Halls

 

You may be able to find short term accommodation with a private halls of residence. Most private halls providers also require you to commit to a full year but may agree to be more flexible if they have a lot of empty rooms. Detailed advice is available on our Private Halls of Residence webpage and some examples are listed below. You will need to contact each provider directly to see if they are prepared to allow a short term contract.

 

The Student Housing Company

Unite Students

Fusion Student

Bridge Street Exchange

Collegiate

CRM

Hello Student

Fresh Student Living

Host Students

POBL

Prime Student Living

Arofan House

West Wing

Prestige Student Living 

Vita Student

 

 

Online Marketplaces

 

Websites such as Gumtree, Facebook marketplace, Spareroom or AirBnB can be used to find accommodation too. Be aware that scams do operate on these sites, so be sure to visit the property in person before you pay any money to them. Never pay in cash or cryptocurrency, be sure to identify the property owner, and do some research on market rates. If you are not 100% confident, walk away.

 

It is common for landlords to advertise spare rooms in their house on these sites. If you do find accommodation that means you will be living with the landlord, you will have what is known as a lodger's agreement. This type of agreement offers a lot more flexibility than a standard tenancy/occupation contract, which can make it an easier short term option. It does, however, offer less protection and the landlord can ask you to leave whenever they choose. You can ask for a written agreement detailing the amount of time you want to live there but, if the landlord chooses to evict you early, you have to leave and argue a claim for compensation.

 

 

Letting Agencies

 

Most student accommodation in Cardiff can be found through letting agents. Letting agents either act as a finding agent or a finding and managing agent.

 

  • A finding agent will show you the property, carry out reference checks and oversee the signing of the agreement. After that, you will need to deal directly with the landlord if you have any issues or concerns.
  • A managing agent will manage the property on behalf of the landlord. Although the landlord remains legally responsible for the property, you would be expected to report problems with repairs and other matters to the agency.

 

It is important to find out if an agency will be managing the property or not because you need to know who you will be dealing with if there are any problems.

 

When looking for houses/rooms, we recommend you start your search online but then visit letting agents in person. The following suggestions are 3 of many you will find online

 

Rightmove

SpareRoom

Student-cribs

 

In Cardiff, most student-focused letting agents are found on Woodville RoadAlbany RoadMundy Place and Salisbury Road. Cardiff University Students’ Union runs its own letting agency called Cardiff Student Letting, which can be found on the ground floor of the Student Union building.

 

You will need to contact each agency directly to see if they have any shorter term accommodation available. More detailed advice is available on our Finding Private Rented Accommodation webpage.

 

 

Ask around

 

You can post on social media groups to ask if anyone has a spare room for the amount of time you need it. Your course mates or societies/sports club friends may have a spare room you could stay in temporarily, and you could be doing them a favour by helping with their rent. Be aware though, that most tenancy agreements do not allow sub-letting. If someone is offering to sub-let their room to you without the landlord's agreement, they may be putting themselves in breach of contract and risk you being evicted if the landlord finds out.

 

 

Hostels

 

Hostels can offer short term accommodation at a much more affordable rate than hotels. The accommodation is usually much more basic and bedrooms shared in a dormitory style set up. Hostels can get very busy so be sure to check availability before you travel.

 

My Cardiff Pad

Snoozebox Cardiff

The River House

The Safehouse Hostel

Ty Rosa B&B

YHA Cardiff Central

 

 

How can we help?

 

When you do find somewhere to live you will usually be asked to sign a contract. Student Advice offers a free contract checking service so please let us know if you would like an Adviser to go through the paperwork with you. We can also advise on your rights and obligations in more detail if you have not rented privately in the UK before.

 

 

Please see the Student Advice housing booklet for more information on renting, and if you have any questions, contact Student Advice.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 


Llety Tymor Byr

Gall fod yn llawer anoddach ffeindio llety tymor byr yng Nghaerdydd a bydd y rhan fwyaf o landlordiaid/asiantau gosod tai yn mynnu cytundeb o chwe mis o leiaf. Os ydych yn chwilio am lety sy'n para llai na chwe mis gallwch roi cynnig ar yr opsiynau canlynol:

 

Preswylfeydd y Brifysgol

 

Yn gyffredinol, dim ond dros fisoedd yr haf y mae llety Prifysgol tymor byr ar gael, o 30 Mehefin 2023 i 13 Medi 2023. Ar gyfer preswylfeydd presennol llety'r brifysgol, mae isafswm arhosiad o 7 noson fel arfer. Mae llety o'r fath yn llety hunanarlwyo ac yn daladwy yn nosweithiol.

 

Ar gyfer unigolion nad oeddent yn byw mewn llety sy'n eiddo i'r brifysgol o'r blaen, gall ystafelloedd a phrisiau amrywio. Mae’r ystafelloedd yn rhai sengl gyda chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi a rennir. Maent yn amodol ar argaeledd. Rhaid i archebion gael eu derbyn o leiaf 2 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw.

 

I gael rhagor o wybodaeth am lety haf i fyfyrwyr, cliciwch yma.

 

Neuaddau Preifat

 

Efallai y gallwch ddod o hyd i lety tymor byr gyda neuadd breswyl breifat. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr neuaddau preifat hefyd yn gofyn i chi ymrwymo i flwyddyn gyfan ond efallai y byddant yn cytuno i fod yn fwy hyblyg os oes ganddynt lawer o ystafelloedd gwag. Mae cyngor manwl ar gael ar ein tudalen Neuaddau Preswyl Preifat a rhestrir rhai enghreifftiau isod. Bydd angen i chi gysylltu â phob darparwr yn uniongyrchol i weld a ydynt yn cynnig contract tymor byr.

The Student Housing Company

Unite Students

Fusion Student

Bridge Street Exchange

Collegiate

CRM

Hello Student

Fresh Student Living

Host Students

POBL

Prime Student Living

 

Marchnadoedd Ar-lein

 

Mae gwefannau fel Gumtree, Facebook marketplace, Spareroom neu AirBnB weithiau'n cynnig llety hefyd. Byddwch yn ymwybodol bod sgamiau yn cael eu rhedeg ar y gwefannau hyn ar adegau, felly sicrhewch eich bod yn ymweld â'r llety cyn i chi drosglwyddo unrhyw arian. Peidiwch byth â thalu gan ddefnyddio arian parod neu arian cyfred digidol, gwnewch yn siwr eich bod chi'n adnabod perchennog y llety, a gwnewch rywfaint o ymchwil ar brisoedd cyffredinol yn y sector llety. Os nad ydych 100% yn hyderus, dwedwch na.

Mae’n gyffredin i landlordiaid hysbysebu ystafelloedd sbâr yn eu ty ar y safleoedd hyn. Os byddwch yn dod o hyd i lety sy'n golygu y byddwch yn byw gyda'r landlord, bydd gennych yr hyn a elwir yn gytundeb lletywr. Mae’r math hwn o gytundeb yn cynnig llawer mwy o hyblygrwydd na chontract tenantiaeth/meddiant safonol, a all ei gwneud yn opsiwn tymor byr haws. Fodd bynnag, mae'n cynnig llai o amddiffyniad a gall y landlord ofyn i chi adael pryd bynnag y dymunant. Gallwch ofyn am gytundeb ysgrifenedig yn nodi faint o amser yr ydych am fyw yno ond, os yw'r landlord yn dewis torri'r contract yn gynnar, mae'n rhaid i chi adael a chyflwyno cais am iawndal.

 

Asiantaethau Gosod

 

Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o lety myfyrwyr yng Nghaerdydd trwy asiantaethau gosod. Mae asiantau gosod naill ai'n gweithredu fel asiant canfod neu asiant canfod a rheoli.

  • Bydd asiant canfod yn dangos y llety i chi, yn gwirio cyfeirnodau ac yn goruchwylio llofnodi'r cytundeb. Ar ôl hynny bydd angen i chi ddelio'n uniongyrchol â'r landlord os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon.
  • Bydd asiant rheoli yn rheoli'r llety ar ran y landlord. Er mai'r landlord sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am y llety, byddai disgwyl i chi roi gwybod i'r asiantaeth am broblemau gydag atgyweiriadau a materion eraill.

Mae'n bwysig darganfod a fydd asiantaeth yn rheoli'r llety ai peidio oherwydd mae angen i chi wybod gyda phwy y byddwch yn delio os oes unrhyw broblemau.

Wrth chwilio am dai/ystafelloedd, rydym yn argymell eich bod yn dechrau trwy chwilio ar-lein ond wedyn yn ymweld ag asiantaethau gosod yn bersonol. Mae'r awgrymiadau canlynol yn 3 o lawer y byddwch yn dod o hyd iddynt ar-lein.

 

Rightmove

SpareRoom

Student-cribs

 

Yng Nghaerdydd, mae'r rhan fwyaf o asiantau gosod sy'n gweini myfyrwyr wedi lleoli Woodville RoadAlbany RoadMundy Place and Salisbury Road. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhedeg asiantaeth gosod tai o'r enw  Gosod Myfyrwyr Caerdydd, sydd wedi'i lleoli ar lawr gwaelod adeilad Undeb y Myfyrwyr.

Bydd angen i chi gysylltu â phob asiantaeth yn uniongyrchol i weld a oes ganddynt unrhyw lety tymor byrrach ar gael. Mae cyngor manylach ar gael ar ein tudalen Dod o Hyd i Lety Rhent Preifat.

 

Gofynnwch o gwmpas

 

Gallwch bostio ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol i ofyn a oes gan unrhyw un ystafell sbâr am y cyfnod sydd ei angen arnoch. Mae’n bosibl y bydd gan eich cyd-fyfyrwyr neu ffrindiau gymdeithasau/clwb chwaraeon ystafell sbâr y gallwch aros ynddi dros dro, a gallech fod yn gwneud cymwynas â nhw drwy helpu gyda’u rhent. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol nad yw'r rhan fwyaf o gytundebau tenantiaeth yn caniatáu is-osod. Os yw rhywun yn cynnig is-osod eu hystafell i chi heb gytundeb y landlord, mae'n bosibl y byddan nhw'n torri'u contract ac fe fyddwch chi mewn perygl o gael eich troi allan os bydd y landlord yn cael gwybod.

 

Hosteli

 

Gall hosteli gynnig llety tymor byr am bris llawer mwy fforddiadwy na gwestai. Mae'r llety fel arfer yn llawer mwy sylfaenol a rhennir ystafelloedd gwely gan amlaf. Gall hosteli fod yn brysur iawn felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio argaeledd cyn i chi deithio.

 

My Cardiff Pad

Snoozebox Cardiff

The River House

The Safehouse Hostel

Ty Rosa B&B

YHA Cardiff Central

 

 

Sut gallwn ni helpu?

 

Pan fyddwch yn dod o hyd i rywle i fyw, fel arfer gofynnir i chi lofnodi contract. Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig gwasanaeth gwirio contract am ddim felly rhowch wybod i ni os hoffech i Gynghorydd fynd drwy'r gwaith papur gyda chi. Gallwn hefyd roi cyngor mwy manwl ar eich hawliau a’ch rhwymedigaethau os nad ydych wedi rhentu’n breifat yn y DU o’r blaen.

Gweler lyfryn llety Cyngor i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth am rentu, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr.

 

Cysylltwch â Cyngor i Fyfyrwyr

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410