Cymraeg

Help if Homeless

 

The definition of homelessness means not having a home. You are homeless if you have nowhere to stay and are living on the streets, but you can be homeless even if you have a roof over your head. You may be homeless if you're sleeping rough, don't have rights to stay where you are or you live in unsuitable housing. You count as homeless if you are:

 

  • staying with friends or family
  • staying in a hostel, night shelter or B&B
  • squatting (because you have no legal right to stay)
  • at risk of violence or abuse in your home
  • living in poor conditions that affect your health
  • living apart from your family because you don't have a place to live together

 

 

If you have nowhere to live or are threatened homeless.

 

In exceptional cases, some students may find themselves with nowhere to stay temporarily or find that they become homeless during their studies. You don’t have to be living on the street to be homeless. You may be sleeping on a friend’s sofa, staying in a hostel, or living in overcrowded or unsuitable accommodation.

 

If you have nowhere to sleep tonight, or maybe in that situation in the coming days, we would advise you to get in touch with us as soon as possible.

 

 

Nowhere to live on arrival in Cardiff

 

If you have not been able secure accommodation for the duration of your study at Cardiff University before arrival then we strongly advise you to book a hotel, guest house or hostel for a few nights to you have time to find more permanent accommodation. Other than during September you might be able to stay in a Cardiff University Residence or Private Student Hall on a short term basis. More information on short term accommodation can be found on our Finding Short Term Accommodation page 

 

 

If you cannot stay in your accommodation due to fear of violence, abuse or harassment 

 

There are many specialist organisations that are able to offer help, support and help you to access emergency accommodation. Some of these services are available 24 hours a day 7 days a week


In an emergency, for example if you or any of your family are in immediate danger, always call the police on 999.

 

If you are experiencing fear of, or actual violence, abuse or harrassment, help is there for you. Further information is available on our Violence, abuse and unhealthy relationships page.

 

 

Disclosure Response Team

 

The Disclosure Response Team are a team of specialist University staff trained to respond to disclosures of violence and abuse. They support students affected by harassment, hate crime, sexual violence, relationship abuse and other forms of unacceptable behaviour.

 

The team can advise you on your housing options and may be able to arrange temporary emergency accommodation in University Residences.

 

The Disclosure Response Team aim to respond to all disclosures within two working days, within the hours of 09:00-16:00, Monday to Friday, excluding bank holidays.

 

 

 

Live Fear Free

 

Live Fear Free  provides help and advice about violence against women , domestic abuse and sexual violence. They can provide help and advice to:

  • anyone experiencing domestic abuse
  • anyone who knows someone who needs help. For example, a friend, family member or colleague
  • practitioners seeking professional advice.

 

All conversations with Live Fear Free are confidential and are taken by staff that are highly experienced and fully trained.

 

Call: 0808 80 10 800
Available 24 hours a day 7 days a week.

 

 

The Dyn project

 

The Dyn Project Helpline provides free confidential support to men who experience domestic abuse in Wales. They can provide:

  • Information on services available in your area
  • Help in developing a personalised safety plan
  • Support in accessing other services and organisations
  • Someone to listen without judging.

 

 

RISE Cardiff

 

RISE Cardiff is Cardiff’s one stop specialist service for women experiencing violence against women particularly domestic abuse and sexual violence. 
The service is available24 hours a day 7 days a week  
Call 029 2046 0566

 

 

If you cannot stay in your current accommodation because it is unfit for habitation

 

The standards of your rented home are determined by your tenancy agreement and statutory laws enforced by Shared Regulatory Services (SRS). A landlord has a number of legal obligations and these include ensuring that the house is fit for human habitation and safe to live in during your tenancy.

 

Fitness for human habitation in law looks at, amongst other things, freedom from damp, having appropriate drainage, sanitary conveniences and facilities for preparation and cooking of food. The property must also be free from hazards, such as damp and mould growth, fire risks and faulty boilers.

 

Sometimes students find that they can no longer live in their accommodation because it is deemed unfit for habitation due to fire or disrepair. Examples of when a home is unfit for habitation would be if there had been a flood or fire, or when basic amenities such as heating light and water are not available for a prolonged period of time, or where the level of disrepair is such that an Environmental Health officer will deem it unfit or unsafe.

 

Your home may also be deemed unfit if the living conditions are seriously effecting your health. If you are unable to live in your accommodation then your Landlord, letting agent or Hall provider should provide you with temporary accommodation, whilst repair work is undertaken or services are reinstated.

 

If you think your home is uninhabitable then it is very important to contact Student Advice or Cardiff Council’s Shared Regulatory Services. An Adviser will be able to help assess if your home is uninhabitable your landlord’s obligations and how to access appropriate help and support. Further information is available on our Housing Standards & Disrepair page.

 

 

If you can no longer afford to pay for your accommodation

 

If you are experiencing financial hardship and are consequently unable to pay for accommodation we strongly advise you to contact the Advice and Money Team, who may be able to provide you with Funding Advice and/or financial assistance. They can also support in applying for the Financial Assistance Programme - you can find more information about this here.

 

You also may find that you are eligible for some financial benefits but this may vary depending on the nature of your course and whether you are in full-time or part-time study. Again, Advice and Money should be able to support you with this. You can find their contact information here.

 

 

If your landlord has threatened to evict you, or has prevented you from entering your accommodation

 

If you are living in Private rented accommodation your landlord cannot evict you from your home without;

  • Giving you a valid written notice to leave your home 
  • Applying for a possession order from the County Court 
  • Applying for a warrant to set a date for a Baliff to evict you

 

More information about eviction from private rented accommodation can be found here 


There are certain actions that nearly always count as illegal eviction. Your landlord may be committing a criminal offence if they:

  • changes the locks while you are out
  • threatens you or forces you to leave
  • physically throws you out
  • stops you from getting into certain parts of your home.

 

If you are being threatened with eviction you must seek specialist advice immediately.

 

Contact Shelter Cymru specialist advice line 08000 495 495 9.30am – 4pm, Monday to Friday.

 

At other times if you are threatened with illegal eviction, dial 999 and ask for the Police.

 

 

Help from Cardiff Council or your Local Council if you are Homeless

 

Local Councils have duty to help eligible people if they are likely to become homeless in the next 56 days. There are rules about who is eligible for assistance and in priority need. More information about these rules is available here.

 

If you believe you might eligible for assistance, you can contact the following organisations to seek assistance:

  • Shelter Cymru: Homelessness Helpline: 08000 495 495. For non-urgent enquiries, contact Shelter Cymru via their webform.
  • Llamau: Youth Homelessness Helpline: offers highly trained Llamau advisers to help find safe temporary accommodation and safety advice. 0800 328 0292. Open Monday-Thursday 5pm - 9am, Friday-Sunday 5pm Friday - 9am Monday.
  • Contact the Housing Options Help Centre and make them aware of your circumstances as they may be able to offer you emergency short term accommodation at this time. Note: If you have family members that are involved in this concern, the local authorities have an enhanced duty of care to ensure all household members have somewhere to stay at this time.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410


Cymorth os yn ddigartref

Diffiniad digartrefedd ydy peidio â chael cartref. Rydych yn ddigartref os nad oes gennych unrhyw le i aros ac yn byw ar y strydoedd, ond gallwch fod yn ddigartref hyd yn oed os oes gennych do uwch eich pen. Efallai eich bod yn ddigartref os ydych yn cysgu allan, nad oes gennych hawliau i aros lle'r ydych neu os ydych yn byw mewn ty anaddas. Rydych chi'n ddigartref os ydych chi:

  • yn aros gyda ffrindiau neu deulu
  • yn aros mewn hostel, lloches nos neu gyfleuster gwely a brecwast
  • yn sgwatio (gan nad oes gennych hawl gyfreithiol i aros)
  • mewn perygl o drais neu gamdriniaeth yn eich cartref
  • yn byw mewn amodau gwael sy'n effeithio ar eich iechyd
  • yn byw ar wahân i'ch teulu oherwydd nad oes gennych chi rhyw le i fyw gyda'ch gilydd

Os nad oes gennych unrhyw le i fyw neu os ydych dan fygythiad o ddigartrefedd.

Mewn achosion eithriadol, efallai na fydd gan rai myfyrwyr unrhyw le i aros dros dro ac yn dod yn ddigartref yn ystod eu hastudiaethau. Does dim rhaid i chi fod yn byw ar y stryd i fod yn ddigartref. Efallai eich bod yn cysgu ar soffa ffrind, yn aros mewn hostel, neu'n byw mewn llety gorlawn neu anaddas.

Os nad oes gennych unrhyw le i gysgu heno, neu efallai yn y dyddiau nesaf, byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

 

Unman i fyw ar ôl cyrraedd Caerdydd

 

Os nad oedd modd i chi ffeindio llety diogel i aros ynddi yn ystod eich cyfnod astudio ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cyrraedd, yna rydym yn eich cynghori’n gryf i archebu gwesty neu hostel am rai nosweithiau er mwyn i chi gael amser i ddod o hyd i lety mwy parhaol. Ac eithrio mis Medi, efallai y byddwch yn gallu aros mewn Preswylfa Prifysgol Caerdydd neu Neuadd Breifat i Fyfyrwyr am gyfnod byr. Mae rhagor o wybodaeth am lety tymor byr i'w darllen ar ein tudalen Dod o Hyd i Lety Tymor Byr.  

Os na allwch aros yn eich llety oherwydd rydych yn pryderu am drais, cam-driniaeth neu aflonyddwch 

Mae yna lawer o sefydliadau arbenigol sy'n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth er mwyn i chi ffeindio llety brys. Mae rhai o'r gwasanaethau hyn ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnosMewn argyfwng, er enghraifft, os ydych chi neu unrhyw un o’ch teulu mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Os ydych chi'n profi ofn, neu drais, cam-driniaeth neu aflonyddu, mae cymorth ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen trais, cam-drin a pherthnasoedd gwael.

 

Tîm Ymateb i Ddatgeliadau

 

Mae’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn dîm o staff arbenigol yn y Brifysgol sydd wedi’u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth. Maent yn cefnogi myfyrwyr yr effeithir arnynt gan aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin domestig a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol.

Gall y tîm eich cynghori ar eich opsiynau llety ac efallai y gallant drefnu llety brys dros dro ym Mhreswylfeydd y Brifysgol.

Cwblhewch y  ffurflen datgelu ar-lein i wneud datgeliad a nodwyd neu ddatgeliad dienw.

Nod y Tîm Ymateb i Ddatgeliad yw ymateb i bob datgeliad o fewn dau ddiwrnod gwaith, o fewn yr oriau 09:00-16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.

Os byddai’n well gennych beidio â chwblhau’r ffurflen, ond yr hoffech gael cymorth, anfonwch e-bost at: disclosureresponseteam@cardiff.ac.uk. Mae hyn yn fewnflwch cyfrinachol a dim ond aelodau o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau sydd â mynediad.

 

Byw Heb Ofn

 

Mae gwasanaeth Byw Heb Ofn  yn darparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gallant roi cymorth a chyngor i:

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
  • unrhyw un sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth. Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sy’n dymuno cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael ei chynnal gan staff sy'n hynod brofiadol ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Ffoniwch: 0808 80 10 800.
Ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.

 

The Dyn project

 

Mae Llinell Gymorth Dyn Project yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim i ddynion sy’n profi cam-drin domestig yng Nghymru. Gallant ddarparu:

  • Gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal
  • Helpu i ddatblygu cynllun diogelwch personol
  • Cefnogaeth i gael mynediad at wasanaethau a sefydliadau eraill
  • Rhywun i wrando heb feirniadu.

 

RISE Cardiff

 

RISE Cardiff yw gwasanaeth arbenigol yng Nghaerdydd i fenywod sy’n profi trais yn erbyn menywod yn enwedig cam-drin domestig a thrais rhywiol.  
Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos  
Ffoniwch 029 2046 0566

Os na allwch aros yn eich llety oherwydd ei fod yn anaddas i fyw ynddo

Mae safonau eich cartref rhent yn cael eu pennu gan eich cytundeb tenantiaeth a chyfreithiau statudol a orfodir gan reoliadau y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS). Mae gan landlord nifer o rwymedigaethau cyfreithiol ac mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod y ty yn ffit i bobl fyw ynddo ac yn ddiogel i fyw ynddo yn ystod eich tenantiaeth.

Mae addasrwydd i bobl yn ôl y gyfraith yn ystyried, ryddid rhag lleithder, cael draeniad priodol, a sicrhau cyfleusterau glanweithiol a chyfleusterau ar gyfer paratoi a choginio bwyd addas, ymhlith pethau eraill. Ni ddylai'r llety cael unrhyw beryglon, megis tyfiant llaith a llwydni, peryglon tân na boeleri diffygiol.

Weithiau bydd myfyrwyr yn darganfod na allant fyw yn eu llety mwyach oherwydd y mae'n anaddas i fyw ynddo oherwydd difrod tân neu adfeiliad. Mae enghreifftiau o achosion pan nad yw cartref yn ffit i fyw ynddo yn cynnwys: pe bai llifogydd neu dân, neu pan nad yw cyfleusterau sylfaenol megis gwresogi, golau a dwr ar gael am gyfnod hir, neu pan fo lefel yr adfeiliad yn golygu bod Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ystyried ei fod yn anaddas neu'n anniogel.

Efallai y bydd eich cartref hefyd yn cael ei ystyried yn anaddas os yw'r amodau byw yn effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd. Os na allwch fyw yn eich llety yna dylai eich Landlord, asiant gosod neu ddarparwr preswyl ddarparu llety dros dro i chi, tra bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud neu wasanaethau'n cael eu hadfer.

Os ydych chi'n meddwl nad oes modd byw yn eich cartref yna mae'n bwysig iawn cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr neu Wasanaethau Rheoliadol a Rennir Cyngor Caerdydd. Bydd Cynghorydd yn gallu helpu i asesu a yw eich cartref yn anaddas i fyw ynddo, rwymedigaethau eich landlord, a sut i gael cymorth a chefnogaeth briodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Safonau Tai ac Adfeiiliad.

 

Os na allwch fforddio talu am eich llety

 

Os ydych yn profi caledi ariannol ac o ganlyniad yn methu â thalu am lety rydym yn eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Tîm Cyngor ac Arian, a allai roi Cyngor Ariannu a/neu gymorth ariannol i chi. Gallant hefyd eich cefnogi wrth wneud cais am y Rhaglen Cymorth Ariannol - gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen yma.

Efallai y byddwch hefyd yn canfod eich bod yn gymwys i gael rhai buddion ariannol ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar natur eich cwrs ac os ydych yn astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser. Unwaith eto, dylai'r tîm Cyngor ac Arian medru eich cefnogi. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt yma.

Os yw’ch landlord wedi bygwth eich troi allan, neu wedi eich atal rhag mynd i mewn i’ch llety

Os ydych yn byw mewn llety rhent preifat ni all eich landlord eich troi allan o'ch cartref heb;

  • roi hysbysiad ysgrifenedig dilys i chi  
  • wneud cais am orchymyn meddiannu gan y Llys Sirol 
  • wneud cais am warant i osod dyddiad i Baliff eich troi allan

Mae rhagor o wybodaeth am gael eich troi allan o lety rhent preifat ar gael yma 
Mae rhai gweithredoedd bron wastad yn cyfrif fel ymgais i'ch troi allan anghyfreithlon. Mae’n bosibl bod eich landlord yn cyflawni trosedd os yw’n:

  • newid y cloeon tra byddwch allan
  • eich bygwth neu'n eich gorfodi i adael
  • eich taflu allan yn gorfforol
  • eich atal rhag mynd i mewn i rannau o'ch cartref.

Os ydych yn cael eich bygwth â chael eich troi allan, rhaid i chi geisio cyngor arbenigol ar unwaith.

Cysylltwch â llinell gyngor arbenigol Shelter Cymru ar 08000 495 495 9.30yb – 4yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ar adegau eraill os ydych yn cael eich bygwth â throi allan yn anghyfreithlon, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr Heddlu.

Cymorth gan Gyngor Caerdydd neu eich Cyngor Lleol os ydych yn Ddigartref

Mae gan Gynghorau Lleol ddyletswydd i helpu pobl gymwys os ydynt yn debygol o ddod yn ddigartref yn y 56 diwrnod nesaf. Mae rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys i gael cymorth a phwy sydd angen blaenoriaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau hyn ar gael yma.

Os credwch y gallech fod yn gymwys i gael cymorth, gallwch gysylltu â’r sefydliadau canlynol i geisio cymorth:

  • Shelter Cymru: Llinell Gymorth Digartrefedd: 08000 495 495. Ar gyfer ymholiadau sydd ddim ar frys, cysylltwch â Shelter Cymru drwy eu gweffurf.
  • Llamau: Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid: Cynnig cynghorwyr Llamau hyfforddedig i helpu i ffeindio llety dros dro diogel a chyngor diogelwch. 0800 328 0292. Ar agor Llun-Iau 5yh - 9yb, Gwener-Sul 5yh Dydd Gwener - 9yb Dydd Llun.
  • Cysylltwch â'r Ganolfan Gymorth Opsiynau Tai a'u gwneud yn ymwybodol o'ch amgylchiadau oherwydd efallai y gallant gynnig llety brys tymor byr i chi. Sylwer: Os oes gennych chi aelodau o’r teulu sy’n ymwneud â’r pryder hwn, mae gan yr awdurdodau lleol ddyletswydd gofal i sicrhau bod gan bob aelod o’r cartref rywle i aros.

 

Cysylltwch â Cyngor i Fyfyrwyr

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410