Joint Statement from Cardiff University and Cardiff Students' Union
Cardiff University and Cardiff Students’ Union stand united in expressing our serious concerns over Cardiff Council’s proposal to exclude students from applying for parking permits. While we fully support the urgent need for environmental action, this proposed policy is not an effective solution. Instead, it unfairly targets students, jeopardising their academic success and tarnishing Cardiff’s reputation as a welcoming, inclusive city for higher education.
Students are not just temporary visitors; they are integral members of Cardiff’s community, contributing to its economy, culture, and vibrancy. Policies that isolate and penalise them send a damaging message about their value to the city. This proposal disproportionately impacts students on healthcare and other professional courses, who must travel to remote parts of Wales for clinical placements and rely on private vehicles to do so.
Without access to parking, many students have told us it would be “impossible” to complete their courses. This risks not only their academic future but also Wales’ ability to train and retain the healthcare professionals that our communities so urgently need.
The University and Students’ Union are concerned about the potential serious legal and ethical questions of the proposals. We believe it potentially breaches the Equality Act 2010 discriminating against students because of their age — because Cardiff student homes are overwhelmingly occupied by people aged 18 to 25. Such a policy conflicts with the Council’s own Equality and Inclusion Strategy, which pledges to create a fair and inclusive Cardiff for all residents.
The consultation process to date has also raised concerns about the lack of direct engagement from the Council. Students and their representatives have not been consulted, leaving their voices unheard in shaping a policy that profoundly affects them.
This policy risks damaging Cardiff’s reputation as a student-friendly city, making it less attractive to prospective students and undermining its status as a leading destination for higher education. No other city has implemented such a blanket exclusion of students from parking schemes, and we urge Cardiff Council to consider the long-term consequences of being the first to do so.
We call on Cardiff Council to:
- Conduct a thorough Equality Impact Assessment to evaluate the implications of this proposal.
- Engage directly with the leaders of universities and students’ unions across the city to find solutions that are fair and inclusive.
- Reconsider a policy that not only disadvantages students but undermines the shared values of equality, opportunity, and community that Cardiff aspires to uphold.
Cardiff University and Cardiff Students’ Union remain committed to working collaboratively with the Council to find sustainable, equitable solutions that address environmental goals without disproportionately penalising one of the city’s most valuable and vulnerable communities.
Wendy Larner
Vice-Chancellor, Cardiff University
Madison Hutchinson
President, Cardiff Students’ Union
Datganiad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr
Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn sefyll mewn undod wrth fynegi ein pryderon difrifol ynghylch cynnig Cyngor Caerdydd i wahardd myfyrwyr rhag gwneud cais am drwyddedau parcio. Tra ein bod yn llwyr gefnogi'r angen brys am weithredu amgylcheddol, nid yw'r polisi arfaethedig hwn yn ddatrysiad effeithiol. Yn hytrach, mae'n targedu myfyrwyr mewn modd annheg, gan beryglu eu llwyddiant academaidd ac effeithio ar enw da Caerdydd fel dinas groesawgar a chynhwysol ar gyfer addysg uwch.
Nid ymwelwyr dros dro yn unig yw myfyrwyr; maent yn aelodau annatod o gymuned Caerdydd, sy’n cyfrannu at ei heconomi, ei diwylliant, a'i bywiogrwydd. Mae polisïau sy'n eu gwahaniaethu a'u cosbi yn anfon neges niweidiol am eu gwerth i'r ddinas. Mae'r cynnig hwn yn effeithio'n anghymesur ar fyfyrwyr gofal iechyd, sy’n gorfod teithio i rannau anghysbell o Gymru ar gyfer lleoliadau clinigol gan ddibynnu ar gerbydau preifat er mwyn wneud hynny.
Heb fynediad at barcio, mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud wrthym y byddai'n "amhosib" iddynt gwblhau eu cyrsiau. Mae hyn yn peryglu nid yn unig eu dyfodol academaidd ond hefyd gallu Cymru i hyfforddi a chadw'r gweithwyr gofal iechyd sydd eu hangen ar ein cymunedau ar frys.
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn pryderu am y cwestiynau cyfreithiol a moesegol difrifol bosibl ynghylch y cynigion. Credwn y gallai fod yn torri Deddf Cydraddoldeb 2010 gan wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr oherwydd eu hoedran — oherwydd mai pobl rhwng 18 a 25 oed sy’n byw yn y rhan fwyaf o gartrefi myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae polisi o'r fath yn gwrthdaro â Strategaeth Cydraddoldeb a Chynhwysiant y Cyngor ei hun, sy'n addo creu Caerdydd deg a chynhwysol ar gyfer ei holl drigolion.
Mae hefyd pryderon am ddiffyg ymgysylltiad uniongyrchol gan y Cyngor yn ystod y broses ymgynghori hyd yma. Ni ymgynghorwyd gyda myfyrwyr na'u cynrychiolwyr, gan adael eu lleisiau heb eu clywed wrth lunio polisi sy'n effeithio'n fawr arnynt.
Mae'r polisi hwn yn peryglu enw da Caerdydd fel dinas sy'n croesawu myfyrwyr, gan ei gwneud yn llai deniadol i ddarpar fyfyrwyr a thanseilio ei statws fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer addysg uwch. Nid oes unrhyw ddinas arall wedi gweithredu gwaharddiad mor ddiwahân ar fyfyrwyr fel rhan o gynlluniau parcio, ac rydym yn annog Cyngor Caerdydd i ystyried y canlyniadau hirdymor o fod y cyntaf i wneud felly.
Rydym yn galw ar Gyngor Caerdydd i:
- Gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i werthuso goblygiadau'r cynnig hwn.
- Ymgysylltu’n uniongyrchol gydag arweinwyr prifysgolion ac undebau myfyrwyr ar draws y ddinas er mwyn canfod datrysiadau teg a chynhwysol.
- Ailystyried polisi sydd nid yn unig yn rhoi myfyrwyr dan anfantais ond sy'n tanseilio'r gwerthoedd o gydraddoldeb, cyfleoedd, a chymuned y mae Caerdydd yn dymuno i'w cynnal.
Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â'r Cyngor, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy a theg sy'n mynd i'r afael ag amcanion amgylcheddol, heb gosbi un o gymunedau mwyaf gwerthfawr a bregus y ddinas mewn modd anghymesur.
Wendy Larner
Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
Madison Hutchinson
Llywydd, Undeb Myfyrwyr Caerdydd