Statement: The FIFA World Cup in Qatar 2022 | Datganiad Cwpan y Byd FIFA yn Qatar 2022

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

We stand firmly for the rights of women, migrant workers, and the LGBTQ+ community and are outraged that the FIFA World Cup is being played in a country where these rights are abused or are non-existent. We wholeheartedly stand against human rights abuses and are proud campaigners and supporters of improving equality for our student community at home and world-wide.

We recognise that the World Cup is a significant global event that many of our students look forward to watching by supporting their countries. Sport plays a pivotal role within our community in bringing people together regardless of their race, gender or sexuality. We recognise that watching sports with peers and friends can unite our members: something that is so crucial at this time. With this in mind, we will be showing World Cup matches in the SU, for anyone who wishes to watch it.

We will continue proactively working to ensure that all our student members feel safe, included and supported within the SU over the next month and beyond. When we show the World Cup we will also be showing our solidarity with the LBGTQ+ community and highlighting the human rights abuses by the Qatar Government. We will also continue supporting our inclusion initiatives including giving out free Rainbow Laces to sports clubs and individuals leading to Welsh Varsity 2023.

If you have any suggestions as to what more you would like to see the Students’ Union do to show our solidarity, please email any of our sabbatical officers by finding their emails here.

Additionally, if anyone needs any support or guidance, please get in touch with our student support and advice service at Advice@cardiff.ac.uk.


Rydym yn sefyll yn gadarn dros hawliau menywod, gweithwyr mudol, a’r gymuned LHDTC+ ac rydym yn gandryll bod Cwpan y Byd FIFA yn cael ei chwarae mewn gwlad lle mae’r hawliau hyn yn cael eu cam-drin neu lle nad ydynt yn bodoli. Rydym yn llwyr sefyll yn erbyn cam-drin hawliau dynol ac rydym yn ymgyrchwyr a chefnogwyr balch dros wella cydraddoldeb ar gyfer ein cymuned myfyrwyr gartref ac yn fyd-eang.

Rydym yn cydnabod bod Cwpan y Byd yn ddigwyddiad byd-eang arwyddocaol y mae llawer o’n myfyrwyr yn edrych ymlaen at ei wylio drwy gefnogi eu gwledydd. Mae chwaraeon yn chwarae rhan ganolog yn ein cymuned wrth ddod â phobl at ei gilydd beth bynnag eu hil, rhyw neu rywioldeb. Rydym yn cydnabod y gall gwylio chwaraeon gyda chyfoedion a ffrindiau uno ein haelodau: rhywbeth sydd mor hanfodol ar hyn o bryd. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn dangos gemau Cwpan y Byd yn UM, i unrhyw un sy'n dymuno ei wylio.

Byddwn yn parhau i weithio'n rhagweithiol i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cynnwys a'u cefnogi o fewn yr UM dros y mis nesaf a thu hwnt. Pan fyddwn yn dangos Cwpan y Byd byddwn hefyd yn dangos ein hundod gyda'r gymuned LHDT+ ac yn tynnu sylw at y cam-drin hawliau dynol gan Lywodraeth Qatar. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ein mentrau cynhwysiant gan gynnwys rhoi Gareiau Enfys am ddim i glybiau chwaraeon ac unigolion yn arwain at Ornest Prifysgolion Cymru 2023.

IOs oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch beth arall yr hoffech weld Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud i ddangos ein undod, anfonwch e-bost at unrhyw un o'n swyddogion sabothol drwy ddod o hyd i'w fcyfeiriadau e-bost yma.

Yn ogystal, os oes angen unrhyw gymorth neu arweiniad ar unrhyw un, cysylltwch â’n gwasanaeth cymorth a chyngor i fyfyrwyr:Advice@caerdydd.ac.uk.

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.
 
Cardiff University Students’ Union, registered in Wales. Nothing here in contained constitutes an order for goods or services unless accompanied by an official order

Telephone | 029 2078 1400 Email | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Website | cardiffstudents.com Address | Park Place Cardiff CF10 3QN Charity No. | 1137163 Company Registration No. | 07328777
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi’i gofrestru yng Nghymru. Nid oes dim yn gynwysedig yma yn gorchymyn am nwyddau neu wasanaeth oni bai bod archeb swyddogol yn cyd-fynd ag ef

Ffôn | 029 2078 1400 E-bost | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Gwefan | cardiffstudents.com Cyfeiriad | Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Rhif Elusen | 1137163 Rhif Cofrestredig y Cwmni | 07328777