Lansiad Polisi Iaith Gymraeg | Welsh Language Policy Launch

Datganiad gan Osian, ein Swyddog y Gymraeg | Statement by Osian, our Welsh Language Officer

No ratings yet. Log in to rate.

Click here for English

Ddydd Mawrth 29ain Tachwedd fe lansiom ein Polisi Iaith Gymraeg Newydd. Roedd datblygiad y polisi hwn yn nodwedd allweddol o’n nod o ‘Gefnogi dyrchafiad y Gymraeg a diwylliant Cymreig’ yn Ein Cynllun 2014-17. Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yno yn y lansiad yn dathlu’r polisi hwn. Dyma ddatganiad gan Osian, ein Swyddog y Gymraeg am y polisi a’i lansiad.

Cam ymlaen i’r Gymraeg yn yr Undeb

Roedd y 29ain o Dachwedd yn ddiwrnod hanesyddol yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Lansiwyd Polisi Iaith Gymraeg yr Undeb, sef polisi ieithyddol cyntaf yr Undeb, sy’n datgan mewn du a gwyn y lleiafswm y dylai’r Undeb wneud ynglyn â darpariaeth Gymraeg i’w myfyrwyr. Hwn yw’r polisi cyntaf yn yr Undeb sy’n rhoi statws cydradd i’r Gymraeg a’r Saesneg – sy’n gam enfawr ymlaen.

Roeddwn wedi fy ngwirioni gyda chymaint o bobl a fynychodd y lansiad. Braf oedd gweld cymaint o bobl, boed yn fyfyrwyr, aelodau o staff, siaradwyr Cymraeg, neu’r di-Gymraeg, yn mynychu’r digwyddiad, ac yn ymddiddori yn y Gymraeg, a dathlu ei ddatblygiad yn yr Undeb. Hoffwn ddiolch o waelod fy nghalon i’r holl bobl a fynychodd y digwyddiad am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i’r siaradwyr gwadd, Sophie Timbers (Llywydd yr Undeb), Dr.Angharad Naylor (Rheolwr Cymraeg i Bawb), a Caeo Harri Hughes (Llywydd y Gym Gym), am eu cyfraniad, ac i gôr Aelwyd y Waun Ddyfal am berfformiad hyfryd. Diolch yn ogystal i holl aelodau staff yr Undeb a oedd ynghlwm â threfnu’r digwyddiad, ac yn enwedig i Siwan Gwyn Jones, Cydlynydd y Gymraeg yn yr Undeb, am ei holl waith wrth drefnu’r digwyddiad.

Braf oedd gweld cymaint o bobl, boed yn fyfyrwyr, aelodau o staff, siaradwyr Cymraeg, neu’r di-Gymraeg, yn mynychu’r digwyddiad, ac yn ymddiddori yn y Gymraeg, a dathlu ei ddatblygiad yn yr Undeb.

Er y cefais i yr anrhydedd o lansio’r polisi, lluniwyd y polisi cyn i fy nghyfnod fel Swyddog y Gymraeg ddechrau, felly mae’n bwysig i mi nodi fy niolchgarwch, ar ran holl fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, i Steffan Bryn, a Cerith Rhys Jones, y swyddogion o’m blaen, am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth lunio’r polisi. Heb eu hymgyrchu brwdfrydig ac angerddol hwy, a nifer o bobl eraill y tu fewn a thu allan i’r Undeb, ni fyddem wedi gallu dathlu lansiad polisi iaith cryf a cynhwysfawr ddydd Mawrth, felly rydym yn dra dyledus iddynt hwy am hynny.

Er yr oedd lansiad y polisi yn gam mawr a phwysig ymlaen i’r Gymraeg yn yr Undeb, pwysig yw nodi mai cam cyntaf ar daith hir i gydraddoldeb ieithyddol ydyw. Er bod polisi cryf bellach wedi ei greu, sy’n sicrhau y caiff siaradwyr Cymraeg ymwneud a’r Undeb yn eu mamiaith, mae myfyrwyr Cymraeg yn parhau i deimlo’n arwahanedig o’r Undeb, a’r prif gorff o fyfyrwyr yma yng Nghaerdydd. Ein cyfrifoldeb yn awr, yw gweithio tuag at sefyllfa lle mae myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn teimlo eu bod yn perthyn yn yr Undeb, a’i fod yn eu cynrychioli, fel eu bod yn teimlo fel gallent ymwneud â'r Undeb, a manteisio ar ei ddwyieithrwydd, o ganlyniad i’r polisi hwn.

Â’r her yma law yn llaw gyda fy mhwynt maniffesto i sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, o fewn yr Undeb, a fydd yn gyfrifol am fyfyrwyr Cymraeg yn gymdeithasol, academaidd, ieithyddol, gwleidyddol a gyda materion lles o fewn yr Undeb. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at barhau i weithio gyda myfyrwyr Cymraeg a chynrychiolwyr o'r Undeb dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i wireddu’r ddelfryd hwn.

Croesawaf y polisi hwn â breichiau agored, ac rwy’n werthfawrogol iawn i bawb a oedd ynghlwm â llunio a lansio’r polisi. Mae’r polisi hwn yn gam cadarn yn y cyfeiriad cywir tuag at gydraddoldeb ieithyddol, ac edrychaf ymlaen yn arw at weithio gyda myfyrwyr Cymraeg, a chynrychiolwyr o’r undeb, i gymryd y camau nesaf hanfodol ymlaen yn y dyfodol agos.

Osian Morgan, Swyddog y Gymraeg


On the 29th of November we launched our new Welsh Language Policy. The development of this policy was a key feature in our goal of ‘Supporting the advancement of the Welsh language and Welsh culture’ from Our Plan 2014-17. It was great to see so many people there at the launch to celebrate the creation of this policy. Here’s a statement by Osian, our Welsh Language Officer about the policy and its launch.

A step forward for the Welsh Language within the Union

The 29th of November was a historic day for Cardiff University Students’ Union. The Union’s Welsh Language Policy was launched, the Union’s first linguistic policy, that states in black and white the minimum that the Union should do in terms of Welsh language provision for their students. This is the Union’s first policy which gives equal status to the Welsh Language and English language – which is a great step forward.

I was over the moon with how many people attended the launch. It was great to see so many people, students and staff members, Welsh speakers, non-Welsh speakers, attending the event, and showing an interest in the Welsh Language, and celebrating its development in the Union. I would like to thank everyone who attended the event for their support, and especially to the guest speakers, Sophie Timbers (Students’ Union President), Dr.Angharad Naylor (Welsh For All Manager), and Caeo Harri Hughes (Gym Gym President), for their contribution, and to the Waun Ddyfal Choir for their wonderful performance. I would also like to thank the Union staff members who were involved in organizing the event, and particularly to Siwan Gwyn Jones, the Union’s Welsh Language Coordinator, for all her work in arranging the event.

It was great to see so many people, students and staff members, Welsh speakers, non-Welsh speakers, attending the event, and showing an interest in the Welsh Language, and celebrating its development in the Union.

Although I had the honour of launching the policy, the policy was created before my time as Welsh Language Officer, so it’s important for me to note my gratitude, on behalf of all the Welsh students of the University, to Steffan Bryn, and Cerith Rhys Jones, the officers before me, for their hard work and their dedication in the formulation of the policy. Without their enthusiastic and passionate campaigning, and many others within and outside the Union, we wouldn’t have been able to celebrate launching a strong and comprehensive language policy on Tuesday, so we are very grateful for that.

Although the launch of the policy was a big and important step forward to the Welsh Language within the Union, it’s important to note that this is a first step on a long journey to linguistic equality. Although a strong policy has now been created, that ensures that Welsh speakers be involved within the Union in their first language, Welsh students continue to feel isolated from the Union, and the main body of students here in Cardiff. Our responsibility now is to work towards a situation where Welsh-speaking students feel that they belong in the Union, and that the Union represents them, so that they feel involved within the Union, and to take advantage of its bilingualism, as a result of this policy.

This challenge goes hand in hand with my manifesto point to establish a Cardiff Welsh Students’ Union, within the Union, that will be responsible for Welsh students socially, academically, linguistically, politically and with welfare issues within the Union. I am really looking forward to continue to work with Welsh students and representatives from the Union over the next few weeks and months to realize this ideal.

I welcome this policy with open arms, and I am very grateful to everyone who was involved with the preparation and launch of the policy. This policy is a strong step in the right direction towards linguistic equality, and I look forward to working with Welsh students, and Union representatives, to take the next essential steps forward in the near future.

Osian Morgan, Welsh Language Officer

Comments

 
default