Mae gennym gyfle i achub grantiau cynhaliaeth

Sut y gallwch chi achub eich grantiau cynhaliaeth.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Ddydd Iau yma, cafodd myfyrwyr eu twyllo. O hyn ymlaen, ni fydd myfyrwyr Lloegr yn gallu gwneud cais am grantiau ar gyfer cynhaliaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae grantiau cynhaliaeth wedi cael eu diddymu, yn golygu fod Addysg Uwch hyd yn oed yn fwy anhygyrch. Mae hyn yn Ddeddf drist sy’n rhoi hyd yn oed mwy o ddyled ar fyfyrwyr tlawd.

Yn hytrach na chynnal dadl lawn a phleidlais yn y Senedd, fe wnaeth y pwyllgor ddeddfwriaeth wneud y penderfyniad hwn y tu ôl i ddrysau caeedig. Dim ond 18 o ASau a bleidleisiodd i gael gwared ar grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr Lloegr. Sut y gall unrhyw benderfyniad sy’n effeithio ar filiynau o fyfyrwyr, a’u rhoi mewn dyled sylweddol, gael ei wneud fel hyn? Nid dyma beth yw democratiaeth. Drwy waith UCM ddydd Gwener, Ionawr 15fed, bydd dadl gwrthwynebiad yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 19 Ionawr am 1:30yh. Mae hyn yn golygu y gall eich AS ymladd yn erbyn toriadau i’r grantiau cynhaliaeth.  

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr fel arfer yn graddio gyda hyd at £40,500 o ddyled mewn tair blynedd. Ond i fyfyrwyr sy’n dibynnu ar grantiau cynhaliaeth, bydd hyn yn cynyddu i £53,000 ac fe fyddant yn gorfod ysgwyddo benthyciadau ychwanegol yn lle grantiau.

Mae’r swm hwn o ddyled yn creu rhwystr enfawr i fyfyrwyr gael mynediad at Addysg Uwch. Dylai mynediad i addysg fod yn seiliedig ar allu a pharodrwydd i ddysgu, nid ar gefndir ariannol yr unigolyn. Mae cael gwared ar grantiau cynhaliaeth yn gwahaniaethu ac yn peryglu gwneud addysg yn anhygyrch i nifer fawr o grwpiau o fyfyrwyr a byddwn yn gwneud ein gorau i frwydro yn erbyn hyn.  

Sut gallwn ymladd yn erbyn hyn:

Ymunwch â ni i gysylltu â'ch AS yng Nghaerdydd a’ch AS adref drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod:

Gan eich Swyddogion Etholedig

Comments

 
dominos