Joint statement / Cyd-ddatganiad

Cardiff University Students' Union and Student Volunteering Cardiff / Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd

No ratings yet. Log in to rate.

Joint statement from Cardiff University Students' Union and Student Volunteering Cardiff

Cardiff University Students' Union (Students’ Union) and Student Volunteering Cardiff (SVC), a student-led independent charity, have worked together for a number of years for the benefit of Cardiff students and the local community.  Following discussions in recent months between the organisations, there will be a change to the delivery of student volunteering from July 2015 onwards.

SVC will remain a student-led independent charity, continuing to deliver volunteering opportunities, but will be moving out of the Students’ Union premises enabling SVC to work with students from all local institutions, including those studying at Cardiff University. SVC has been successful in obtaining funding from Innovate Trust to provide additional community volunteering opportunities.  All existing staff will continue to be employed with SVC.

The Students’ Union will continue to invest a comparable level of funds into student volunteering, but aims to invest further in the future to meet its target of getting at least 25% of all students involved in volunteering and development.  The Students’ Union will be setting up their own student-led volunteering service called Cardiff Volunteering (CV), which will be expanding the range of volunteering opportunities on offer to students at Cardiff University through student-led projects, one off volunteering and by establishing a volunteering bureau. 

The two organisations have a long history of working together and look forward to a continued partnership that will significantly expand the opportunities available to Cardiff students and have a positive impact on the local community.

SVC Chair, Emma Board-Davies

SU President, Elliot Howells

Cyd-ddatganiad gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (Undeb Myfyrwyr) a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (GMC), elusen annibynnol a arweinir gan fyfyrwyr, wedi gweithio ar y cyd am nifer o flynyddoedd er lles myfyrwyr Caerdydd a’r gymuned leol. Yn dilyn trafodaethau rhwng y sefydliadau yn ystod y misoedd diwethaf, bydd yna newid i ddarpariaeth gwirfoddoli myfyrwyr o Orffennaf 2015 ymlaen.

Bydd GMC yn aros yn elusen annibynnol a arweinir gan fyfyrwyr, yn parhau i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli, ond yn symud o safle’r Undeb Myfyrwyr sy’n galluogi GMC i weithio gyda myfyrwyr o bob sefydliad lleol, yn cynnwys y rhai sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae GMC wedi llwyddo i gael cyllid o Innovate Trust er mwyn darparu cyfleoedd gwirfoddoli cymunedol ychwanegol. Bydd GMC yn cadw ei holl staff cyfredol.

Bydd yr Undeb Myfyrwyr yn parhau i fuddsoddi lefelau cymharol o arian i mewn i wirfoddoli myfyrwyr, ond yn anelu at fuddsoddi mwy yn y dyfodol er mwyn cyrraedd ei darged o gael o leiaf 25% o’r holl fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwirfoddoli a datblygu. Bydd yr Undeb Myfyrwyr yn sefydlu ei wasanaeth gwirfoddoli a arweinir gan fyfyrwyr ei hun o’r enw Gwirfoddoli Caerdydd (GC), a fydd yn ehangu’r ystod o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd drwy brosiectau a arweinir gan fyfyrwyr, gwirfoddoli un-tro a drwy sefydlu canolfan gwirfoddoli.

Mae gan y ddau sefydliad hanes hir o weithio gyda’i gilydd ac yn edrych ymlaen at bartneriaeth barhaus a fydd yn ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Caerdydd yn sylweddol ac yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.

Cadeirydd GMC, Emma Board-Davies

Llywydd yr UM, Elliot Howells

Comments

 
default