Datganiad ar y Bil Gwrthderfysgaeth a Diogelwch

Ein datganiad ar y Bil Gwrthderfysgaeth a Diogelwch

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd nifer o bryderon difrifol ynghylch Bil newydd y Llywodraeth ar Wrthderfysgaeth a Diogelwch, o ran y goblygiadau y rhagwelwn wrth iddo gael ei weithredu, yn ogystal â’r rhethreg sylfaenol mae’n galw i rym a’r awyrgylch mae’n ei greu.

Hefyd, mae’r cyflymder y mae’r Bil yn cael ei gyflwyno yn frawychus. Mae cyfreithiau sy’n cael eu rhuthro yn aml heb gael eu hystyried yn fanwl, nac eu harchwilio’n ddigon manwl chwaith. Byddwn yn parhau i wrthwynebu’r Bil wrth alw am asesiad trylwyr ar gyfreithlondeb ei gynigion.

Mae’r Bil yn cynnig nifer o fesuriadau newydd wedi’i seilio ar ddegawdau o ddeddfwriaeth ‘gwrth-eithafiaeth’ blaenorol sydd wedi gwasanaethu i gyfreithloni gwyliadwriaeth màs ac erydu hawliau sifil pobl yn y DU. Rydym yn cydnabod bod amseriad y Bil wedi cyd-daro â nifer o ddigwyddiadau byd-eang echryslon sydd wedi dwyn y materion hyn i’r blaen –ond mae hyn yn rheswm hollbwysig bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau nid yw'r Bil yn cymryd mantais o’r sefyllfa.  

Mae ehangiad o’r mentrau ‘RHWYSTRO’ a ‘Sianelu’ o dan y cynigion yn ein hymboeni’n ddifrifol. Gosod cyfrifoldeb statudol annelwig ar brifysgolion er mwyn ‘rhwystro pobl rhag cael eu hatynnu at derfysgaeth’, a rhoi pwerau anniffiniedig i’r Llywodraeth fel bod siaradwyr ‘eithafol’ yn cael eu gwahardd sy’n mentro i ddiwylliant o amheuaeth a gwyliadwriaeth ar gampws datblygu’n ymhellach, a all gwrthdaro â dyletswyddau’r sefydliad o hyrwyddo rhyddid i lefaru, trwy eu hachosi i fod yn rhy ochelgar ac yn amharod i gymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion pwysig.   

Rydym wir yn credu bod ein sefydliad yn lle ar gyfer addysg, nid gwyliadwriaeth

Dylai’r effaith uniongyrchol y bydd y Bil yma yn cael ar addysg, cael ei rhoi dan archwiliad fforensig. Mae unrhyw ddisgwyliadau sydd gan y Llywodraeth i’r staff academaidd i fod yn gysylltiedig â chadw golwg ar eu myfyrwyr yn bryderus iawn, a all cael effaith iasoer ar berthnasau rhwng staff a myfyrwyr. Rydym wir yn credu bod ein sefydliad yn lle ar gyfer addysg, nid gwyliadwriaeth.  

Yn hytrach nag ennill cefnogaeth cymunedau lleiafrifol, gall y Bil yma ynysu nifer o fyfyrwyr sydd eisoes yn teimlo mai’r unig reswm mae’r Llywodraeth yn cysylltu â nhw yw drwy fentrau ‘gwrth- radicaliaeth’, sy’n achosi aralliad ac anfodlonrwydd pellach. Mae’r iaith anghymedrol a ddefnyddir yn aml gan wleidyddion wrth drafod materion ynglyn â ffydd, cred ac ‘eithafiaeth’ yn ddi-fudd iawn ac mae wedi atgyfnerthu stereoteipiau yn y gorffennol. Mae hyn wedi cael effaith negyddol iawn ar rhai o’n cymunedau ac aelodau mwyaf agored i niwed.   

Erbyn hyn mae angen ailasesiad trylwyr ar yr agenda ‘gwrth-eithafiaeth’, nid ehangiad pellach. Rydym yn galw i’r Bil hwn cael ei stopio ar unwaith, ac rydym yn cefnogi ymchwiliad i mewn i gyfreithlondeb y cynigion hyn o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Ddeddf Addysg Rhif 2 1986. 

Byddwn yn gweithio â’r UCM a’r myfyrwyr a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y Bil yma er mwyn ymateb i ddatblygiadau a sicrhau nid yw hawliau sifil yn cael eu cwtogi gan y Bil hwn a’i gwrthsefyll a’i gwrthwynebu ynghyd â’r rhethreg niweidiol sy’n ei amgylchu.

 
dominos