Datganiad: Ein barn ar sylw o Atal ac Undebau Myfyrwyr

Ymateb ein IL Lles i’r sylw diweddar yn y cyfryngau o Atal ac Undebau Myfyrwyr.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Blog gan Kate, Ein IL Lles.

Mae llawer wedi digwydd yn ddiweddar ym mudiad y myfyriwr mewn perthynas ag effeithiau’r ddyletswydd ATAL – rhan o wrthderfysgaeth a Mesur Diogelwch a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU llynedd. Ei nod yw monitro "eithafiaeth" ac atal pobl rhag cael eu "tynnu i derfysgaeth", gan roi rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Prifysgolion. Fodd bynnag, mae'r term "eithafiaeth" yn cael ei ddisgrifio’n amwys fel "gwrthblaid weithgar i werthoedd sylfaenol Prydain, gan gynnwys democratiaeth, rheol y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a'r parch a goddefgarwch o wahanol grefyddau a chredoau", gyda’r gweithredu yn agored i ddehongliad eang. Oherwydd hyn,   mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn ymladd i ddiddymu’r Mesur oherwydd yr effaith ar fyfyrwyr Mwslimaidd , ac rydym yn eu cefnogi i wneud hynny.

Mae Undebau Myfyrwyr ac UCM yn erbyn terfysgaeth ac eithafiaeth, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Fodd bynnag, mae’r darn hwn o ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar les ein myfyrwyr Mwslimaidd, yma ac ar draws y DU yn ein sefydliadau Addysg Uwch. Mae geiriad y Bil, ynghyd â sylw negyddol diweddar ar y cyfryngau newyddion ledled y DU, yn peri i fyfyrwyr Mwslimaidd deimlo o dan erlid ac fel eu bod yn cael eu targedu. Llynedd, pasiodd Senedd Myfyrwyr bolisi i gondemnio’r Bil ar ôl i un o fyfyrwyr Mwslimaidd ein hunan ddioddef o ganlyniad, ac roeddent am gefnogaeth Undeb y Myfyrwyr.

Nid ydwyf yn gallu ac nid wyf am siarad ar ran y gymuned Fwslimaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ond o fy mhrofiadau fy hun a rhai Claire (SU Llywydd) hefyd, gallwn weld sut mae hyn yn gwneud iddynt deimlo. Sut mae natur y Bil hwn yn gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus ac annymunol yn eu Prifysgolion eu hunain, teimlad sydd ddim yn cael ei ailadrodd ar gyfer unrhyw grwp penodol eraill o fyfyrwyr o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth.

Mewn gwirionedd felly, roeddwn yn teimlo ei fod yn amser i ddweud yn gyhoeddus i’n holl fyfyrwyr Mwslimaidd ein bod ni’n eich cefnogi chi. Rydych yn anhygoel ac ni ddylech deimlo o dan erlid yn y modd hwn. Ni ddylech deimlo eich bod wedi eich targedu oherwydd eich cred grefyddol a dylai hyn fod yn rhywbeth rydym i gyd yn ymgyrchu yn ei erbyn. Mae'r rhethreg yn ddiweddar yn y wasg ar weithredaeth myfyrwyr erbyn y Bil hwn yn ceisio’ch disgrifio chi gyd gyda’r un diffiniad cyhuddgar, ac eto rydych yn fyfyrwyr fel holl fyfyrwyr eraill, gyda'r holl hawliau sydd gan bob myfyriwr arall ac yn amrywio’n naturiol fel pob myfyriwr arall. Rydym yn gymuned, a rydych yn rhan bwysig o hynny, felly byddwn yn sefyll gyda chi ac yn eich helpu i wneud yn siwr eich bod yn teimlo’n gartrefol yn ystod eich amser yn y Brifysgol.

Yn fy marn i, fel mudiad myfyrwyr ac fel Undeb y Myfyrwyr unigol, un o'r pethau pwysicaf i ni yw creu’r gymdeithas gorau ar gyfer ein myfyrwyr iddyn nhw allu byw a thyfu o’i fewn. Ar hyn o bryd, mae’r ffordd y mae rhai o’r wasg a gwleidyddion yn siarad am ein myfyrwyr Mwslimaidd, sy'n rhan mor annwyl a gwerthfawr o’n cymuned, yn gosod grwpiau o bobl erbyn eraill ac yn creu cymdeithas sydd yn elyniaethus ac yn seiliedig ar stereoteipiau di-sail lle bydd ein holl fyfyrwyr yn cael eu heffeithio’n negyddol.

Er mwyn symud ymlaen o hyn, byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr dros yr ychydig wythnosau nesaf i drefnu sgwrs panel heriol ATAL ac amlygu sut mae Bil yn effeithio’n negyddol ar ein myfyrwyr Mwslimaidd, wrth barhau i gefnogi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn eu hymgyrch i lobïo yn erbyn y Bil.

Gobeithiaf y byddwch oll yn ceisio cymryd safbwynt gweithredol mewn cefnogaeth ag undod i’n myfyrwyr Mwslimaidd ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu dim ond eisiau gwybod mwy, mae croeso ichi e-bostio mi at VPWelfare@caerdydd.ac.uk.

Comments

 
dominos