Cynllun Treialu Prawf Anadl ar hyd y ddinas

Menter newydd gan Heddlu De Cymru

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn nifer o fentrau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae’r cynllun prawf anadl presennol yn cael ei gyflwyno mewn lleoliadau ar draws y ddinas ac wedi’i weithredu gan dîm trwyddedu Heddlu De Cymru a wnaeth ofyn i Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan. Mae Undeb y Myfyrwyr yn hapus i gefnogi unrhyw ymgyrch sy’n hyrwyddo ac yn annog yfed yn gyfrifol, fel y gwelwyd drwy i ni ymwneud â ‘Know the Score’ a’r cynllun Bws Diogelwch. Nid oedd effaith masnachol, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar benderfyniad Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan yn y cynllun prawf hwn.

Mae’r cynllun prawf anadl ond yn un rhan o’r broses o gael mynediad wrth y drws ac felly nid dyna fydd yr unig reswm dros wrthod mynediad. Yn gyfreithiol, ni all lleoliad trwyddedig weini person meddw neu eu galluogi i aros ar y safle. Mae ein staff wrth y bar a’r drws yn derbyn hyfforddiant ar hyn i’w helpu i ymdrin â chwsmeriaid yn y digwyddiadau. Fel lleoliad ar gyfer adloniant, mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd mesurau uwchlaw rhai lleoliadau masnachol eraill i sicrhau diogelwch a lles ei gwsmeriaid. Mae gan fyfyrwyr sy'n gadael Undeb y Myfyrwyr, a ystyrir gan staff diogelwch i fod mewn sefyllfa agored i niwed, fynediad i gynlluniau Bws Diogel a Chynllun Tacsi Diogel.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd mesurau uwchlaw rhai lleoliadau masnachol eraill i sicrhau diogelwch a lles ei gwsmeriaid.

Mae Claire Blakeway, Llywydd Undeb Myfyrwyr eisiau chwalu unrhyw fythau fod hyn yn gynllun er mwyn i Undeb y Myfyrwyr wneud arian. "Mae hon yn fenter ar hyd y ddinas i hyrwyddo yfed cyfrifol y mae Undeb y Myfyrwyr yn cydweithredu âg, ac nid oes gennym unrhyw fwriad o gwbl ac nid ydym yn credu y byddwn yn gwneud unrhyw elw masnachol o hyn."

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd iechyd a lles ein haelodau o ddifri ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi ymgyrchoedd a mentrau sy'n cyfrannu at hyn. Gall ein tîm Cyngor i Fyfyrwyr gynnig help a chyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys yfed alcohol.

Comments

 
dominos