Bydd Llyfrgell Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar agor 24/7 o Ionawr!

Rydym wedi gwireddu’ch dymuniad chi.

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Newyddion cyffroes! Gallwn gyhoeddi y bydd Llyfrgell Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar agor 24/7 o’r 4ydd o Ionawr 2016 fel cyfnod peilot i nodi’r nifer o fyfyrwyr sy’n defnyddio’r llyfrgell y tu allan i’r oriau cyffredin.

Gweithiodd eich IL Addysg (Sophie Timbers), Llywydd UM (Claire Blakeway), IL Ôl-raddedig (Katie Kelly) a IL Parc y Mynydd Bychan (Katey Beggan) gyda’i gilydd i gasglu gymaint o ddata myfyrwyr â phosib i alluogi hyn.

Defnyddion sylwadau o Wythnos Siarad, Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015, Holiadur Profiad Ôl-raddedigion a Addysgir a Holiadur Profiad Ôl-raddedigion Ymchwil yn ogystal â chyfweld myfyrwyr, casglu e-byst myfyrwyr, a chynnal ymgyrch Facebook a gynhyrchwyd llawer o adborth a rhesymau pam yr oedd myfyrwyr eisiau agor y llyfrgell 24 awr!

Yn defnyddio’r data hwn, fe lunion ni gynnig busnes hir a gefnogwyd gan dîm Llyfrgelloedd Prifysgol a weithiodd gyda ni i lobio gyda’r brifysgol i ddyrannu cyllideb i agor y llyfrgell 24 awr. WEDI CYFLAWNI. A hyd yn oed yn well – mewn da bryd cyn arholiadau Ionawr.

Fodd bynnag, gyda’r fantais o gael llyfrgell 24/7, peidiwch ag anghofio cymryd seibiannau cyson, yfed digon o ddwr a pheidiwch ag anghofio bwyta! Byddwn yn gweithio gyda’n IL Lles (Kate Delaney) i sicrhau eich bod yn gwrando ar ein cyngor pan mae’n dod i astudio’n hwyr yn y nos/cynnar yn y bore! 

Comments

 
dominos