Welcome Crew is one of the most rewarding groups you can be involved with. The main responsibilities of Welcome Crew include:
To be a part of this incredible group of people, all you need to do is complete the application form below.
Dewch yn Wirfoddolwr
Beth yw Criw Croeso?
Criw Croeso yw un o’r grwpiau mwyaf buddiol y gallwch gymryd rhan ynddi. Mae prif gyfrifoldebau Criw Croeso yn cynnwys:
- Siarad â myfyrwyr newydd a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol.
- Darparu gwybodaeth am Gaerdydd, yr Undeb, bywyd y Brifysgol ac unrhyw beth arall all godi.
- Cefnogi myfyrwyr drwy’r broses Gofrestru.
- Rhoi cyfarwyddiadau o amgylch y campws.
- Darparu cyngor ar ble i fynd a beth i'w wneud yn ystod Wythnos y Glas.
- Bod yn gyfeillgar a chael gwên ar eich wyneb.
Beth yw'r manteision?
Fe fyddwch yn derbyn:
- Crys-t Criw Croeso.
- Tocyn Noson Fawreddog y Glas.
- Nosweithiau cymdeithasol Criw Croeso!
- Talebau Cwrt Bwyd.
- Tystysgrif Gwirfoddolwr.
- Oriau achrededig i gofrestru gyda Gwirfoddoli Mileniwm (GwirVol).
- Gwobrau dirgel o gystadlaethau drwy gydol yr wythnos.
Y teimlad braf hwnnw pan fyddwch wedi helpu Myfyrwyr newydd sy’n cael trafferthion.
- Rhai rhoddion eraill i’w cadarnhau!
Sut gallaf gymryd rhan?
Bod yn rhan o’r grwp anhygoel o bobl, yr oll sydd angen i chi wneud yw cwblhau’r ffurflen isod. Gwnewch yn siwr eich bod ar gael ar gyfer diwrnod hyfforddi ar dydd Llun 12 Medi.